Thursday 3 October 2013

Patrick Jones v Nicky Wire Herald Gymraeg 2 Hydref 2013


 

Dyma’r cwestiwn yr wythnos hon. Ydi artistiaid o Gymru yn fwy diddorol os ydynt yn fwy ‘Cymreig’ ? Hefo ‘Cymreig’ rwyf yn golygu eu bod mewn rhyw ffordd yn cynnwys elfenau Cymreig yn eu gwaith, fe all hyn fod o fewn cerddoriaeth, celf gweledol, llenyddiaeth, barddoniaeth, dramau neu beth bynnag ffurf greadigol mae’r artist yn ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant.

                Rydym fel Cymry Cymraeg yn gyfarwydd iawn a’r syniad o “berthyn i le” yr hyn byddaf yn ei alw yn “blwyfoldeb” ond yn yr ystyr positif. Dyma’r cysylltiad sydd yn rhoi i ni wreiddiau a dealltwriaeth o pwy ydym, yr union beth sydd yn creu gwell dinasyddion – rydym yn perthyn a felly yn parchu. Cwestiwn sylfaenol yma wrthgwrs yw pam mor perthyn i’r darn bach yma o dir gallwn fod heb yr Iaith Gymraeg – credaf fod bellach ddadl gref dros pawb yng Nghymru ddysgu’r Iaith er mwyn gallu gwerthfawrogi’r lle yn ei gyfanrwydd.

                Dwi ddim yn son am orfodaeth na hawliau (ac efallai dyma un rheswm pam fod y frwydr wedi methu gyda cymaint), rwyf yn awgrymu mae hanner darlun gaiff rhywun heb yr Iaith Gymraeg ac os felly mae angen dysgu’r Iaith fel mae angen dysgu dreifio neu ddarllen – mae’n sgil hanfodol ar gyfer bywyd llawn yng Nghymru yn 2013. Mae gan y Byd Celf a’r Byd Hanes / Archaeoleg eu rhan yn y frwydr yma – mae angen deall geiriau Gwilym Cowlyd os am werthfawrogi lun y dydd ar wyneb llonydd llyn a fel byddaf yn dweud o hyd – mae’n amhosib ymdrin a Rhyd Ddu heb werthfawrogiad o eiriau T.H Parry Williams. Hebddynt, gwydr hanner gwag sydd yn eu dwylo.

                Rwan, i rhywun o Coed Duon neu Bontllanffraith, mae hyn yn mynd i fod ychydig bach yn wrthyn. Dyma ni yng nghymoedd ol-ddiwydiannol De Cymru. Chafwyd ddim y cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn yr ysgol (efallai). Nid Cymraeg yw Iaith yr aelwyd (o reidrwydd). Wrthgwrs rydym oll yn deall hyn hefyd. Ond, mae artistiaid Coed Duon yn ymdrin a Chymreictod, mae dau frawd amlwg yn gwneud hynny a’r mwyaf Cymreig yw eu celf y mwyaf diddorol yw eu gwaith.

                Wythnos yn ol roedd drama ddiweddaraf y bardd Patrick Jones (y “Manic Street Poet” fel dwi’n ei alw a brawd Nicky Wire) yn cael ei llwyfanu yn Galeri, Caernarfon. Drama o’r enw ‘Dandelion’ yn ymwneud a brwydr trigolion ‘hosbis’ i gadw silff lyfrau ac ychydig bach o urddas wrth dreulio eu dyddiau olaf ar y Blaned hon. Does dim angen canmol y cast, roedd Olwen Rees, Sharon Morgan. Anthnony Leader a Lynn Hunter yn hollol, hollol gredadwy. Yn syml roedd yn ddrama rhagorol ond drwyddi draw roedd rhywun yn clywed “geiriau” Patrick, y math o rythmau sydd yn ei farddoniaeth gyda’r halen a pupur ar ffurff geiriau miniog fel “Taliban” neu “dignity” yn ein procio nawr ac yn y man.

                Ond, petae’r ddrama wedi ei lleoli mewn hosbis yn Sheffield, a fydda ni wedi gallu uniaethu yn yr un ffordd a’r cymeriadau ? Go brin, y Cymreictod a diwylliant y Cymoedd oedd yn taro deuddeg ac yn gwneud hwn yn berthnasol i ni. Y mwyaf Cymreig y cymeriadau, y mwyaf oedd ein cydymdeimlad fel cynulleidfa tuag at eu sefyllfa yn yr hosbis.

                Ei frawd bach yw’r enwog Nicky Wire, basydd y grwp Manic Street Preachers, ac yn ogystal ac ymddangos fel prif grwp ar Nos Sul, Gwyl Rif 6 ym Mhortmeirion gan ddatgan “we are the Manic Street Preachers from ALL Wales” mae’r grwp neywdd ryddhau sengl newydd o’r enw ‘Show me the wonder’. Rwan, fel mae cymaint o ganeuon y Manics, mae hon yn gan bop ardderchog, alaw hyfryd afaelgar, digon o egni a llais cryf James Dean Bradfield – felly dim byd chwyldroadol ond yr union beth fydda rhywun yn ei ddisgwyl ganddynt.

                Ond wrth droi at y fideo sydd yn cyd-fynd ar gan mae’r holl beth yn hollol, hollol Gymreig a wedi ei ffilmio mewn ‘Clwb Cymdeithasol’ rhywle yn y Cymoedd. Dyma olygfa ar unrhyw nos Sadwrn yn Treorci, Porth neu Maerdy. Mae’n siwr i chi fod y Manics wedi dechrau eu gyrfa yn canu mewn llefydd ddigon tebyg a wedi ysu am gael gwell llwyfan. A’r Manics bellach yn hyderus yn eu Cymreictod (a hefyd yn gwybod na fydd rhaid iddynt ganu mewn llefydd o’r fath  byth eto) dyma roi gwen ar ein gwynebau i gyd wrth gyfleu yr olygfa, fel petae’r 70au rioed di gorffen.

                Efallai mae ail-greu y 70au yw’r bwriad ond wedyn dwi’n siwr byddai modd dod o hyd i’r olygfa yma rhywle yng Nghwm Rhymni hyd yn oed heddiw. Yn y Byd Celf byddai rhywun yn disgrifio golygfeydd y Manics yn y fideo fel rhai ol-eironig / ol-ddiwydiannol Gymreig. Yn sicr mae’r ffilm yn hollol, hollol Gymreig ac yn cysylltu’r grwp a’u gwreiddiau a dyna gryfder y peth. Y mwyaf Cymreig mae’r Manic Street Preachers y mwyaf diddorol a pherthnasol ydynt fel grwp.

Dau frawd, dau Gymro, dau Gymro di-Gymraeg, dau wydr hanner llawn – dychmygwch Mr Wire yn yr Orsedd a dramau Patrick ar S4C – mi fydda hunna yn hyd yn oed mwy diddorol – a’n colled ni yw’r methiant i gyflwyno’r Gymraeg i ddinasyddion Coed Duon.

 

No comments:

Post a Comment