Wednesday 4 December 2013

Bwyd Iach Herald Gymraeg 4 Rhagfyr 2013


 

Pregowtha yw’r gair Cymraeg am “rant”, felly efallai mae’r ‘Pregowthwyr’ oedd y mudiad crefyddol o gyfnod rheolaeth Oliver Cromwell a’r Seneddwyr rhwng 1649-1660. Rhaid wrth arbenigwr o un o Adrannau Hanes y Brifysgol i gadarnhau hyn ond hyd yma ychydig iawn o gysylltiad a Chymru dwi di gallu gael hyd iddo yn y cyd-destyn yma.

            Credai’r Pregowthwyr fod Duw yn bodoli ym mhob creadur byw, ac oherwydd hynny roedd modd iddynt ymwrthod ac arweinwyr ac awdurdod yr Eglwys a’r ysgrythur gan alw ar eu cyd bregowthwyr i ddarganfod ac i droi at yr Iesu mewnol. Oherwydd y gred yma, ymwrthodasant ac awdurdod y dydd gan gredu eu bod yn ‘rhydd’ o awdurdod o’r fath ac o ganlyniad ystyrir y Pregowthwyr yn fygythiad difrifol i gyfraith a threfn gan yr Awdurdodau.

            Bron yn nodweddiadol o fudiadau o’r fath, anodd yw darganfod arweinydd amlwg ond mae enw Laurence Clarckson neu Claxton yn aml yn cael ei gysylltu fel un o’r ‘heoelion wyth’. Ymhlith damcaniaethau Claxton oedd yr awgrym fod eiddo personol yn anfoesol, sydd yn debyg iawn i’r mantra anarchaidd “property is theft”. (Does dim modd clywed anarchwyr yn son am “property is theft” bellach heb gofio am yr olygfa yn y rhaglen Young Ones lle mae Rick yn ceisio gael ei bensil yn ol gan Vivian).

            Damcaniaeth arall gan Claxton oedd fod “ond modd pechu yn y dychymyg”. Petae Claxton yn byw heddiw mae’n debyg byddai mwy o groeso iddo ymhlith anarchwyr na unrhyw grwp arall. Er hyn, mae awgrym fod John Bunyan awdur ‘Pilgrim’s Progress’ wedi bod dan ddylanwad y Pregowthwyr am gyfnod a mae awgrym arall fod y rhan fwyaf wedi ymuno a’r Crynwyr wedyn ar ol adfer y Frenhiniaeth ym 1660.

            Oes bosib felly, fod elfen o hyn oll wedi ei drosglwyddo i’r Methodistiaid cynnar. Ateb, dim syniad gennyf, yn sicr yn y cyd-destyn Cymreig ? Dros y Sul bu’m yn teithio drwy Llanddowror yn Sir Gar, a does dim modd mynd heibio Llanddowror heb gysylltu’r lle a Griffith Jones a’i Ysgolion Teithiol. Mae’r eglwys yno ar ochr y ffordd a gobeithiaf fod bob plentyn yng Nghymru yn gallu cysylltu Griffith Jones a Llanddowror – mae’r ddau beth mor ynghlwm. Mae stori’r Ysgolion Teithiol yn hanfodol i hanes Addysg yng Nghymru.

            Ond rheswm arall sydd gennyf am son am bregowtha, nid un hanesyddol, ond y ffaith yr wythnos hon fy mod am bregowtha am pam mor anodd yw hi i ddod o hyd i fwyd iach os yn bwyta allan yn y wlad hon. Oherwydd natur fy ngwaith rwyf yn tueddu i deithio yn aml, rwyf hefyd yn gorfod aros mewn gwestai dros nos a’r ffaith amdani yw fod hi’n ofnadwy o anodd cael rhywbeth ysgafn a iach i’w fwyta.

            Yr argraff yn sicr mewn gwestai, ac yn sicr os yw rhywun yn gorfod bwyta yn hwyrach yn y nos, yw fod y bwyd yn rhy drwm a bod gormod o fwyd ar y plat. Byddaf yn trafod hyn yn aml y dyddiau yma, yn enwedig hefo pobl sydd yn heneiddio a mae’r rhan fwyaf ohonnom yn cael trafferth cysgu os ydym wedi bwyta yn rhy hwyr.

            Er mwyn gwneud bywyd yn anoddach, rwyf yn lysieuwr, ac er bellach fod dewis ar y fwydlen, y tueddiad yw fod hyn yn cynnwys caws gafr (rhy drwm) neu’r arferol lasagne. Daw’r lasagne gyda sglodion neu salad pitw ar ochr y plat ac wrth gwrs mae’r pasta yn llawn glwten. Prin iawn yw’r dewis o salad call ar unrhyw fwydlen.

            Fel arbrawf dros yr Haf, penderfynais roi’r gorau i fwyta bara a glwten.Gwnaethwpwyd y penderfyniad yn haws gan mae dyma’r tymor archaeoleg, felly byddaf allan yn y maes yn gweithio yn galed yn yr haul poeth a ni fydd cymaint o awydd bwyd arnaf beth bynnag. Yn lle bechdan, byddwn yn mynd a ‘cracyrs heb glwten’ hefo mi gan eu llenwi hefo salad, caws ysgafn a hwmws – dim problem !

            O ganlyniad o fwyta llai, gweithio’n galed (gwaith corfforol) a chael gwared o’r glwten dyma lwyddo i gyflawni sawl peth. Yn raddol dyma golli ychydig o bwysau, a fel un oedd erioed wedi gorfod poeni am hyn, dipyn o sioc oedd cyrraedd fy hanner cant a sylweddoli fod rhywun yn dechrau magu pwysau, nid drwy unrhyw newidiadau yn y ffordd roeddwn yn byw a bwyta ond achos fod hi’n anoddach cael gwared a’r brasder.

            Heb os, mae cael gwared or glwten wedi bod yn rhan o’r llwyddiant. Wyddoch chi fy mod yn temlo yn ddeng mlynedd yn iau. Dychwelodd yr awyr clir i’r amenydd, rwyf yn gallu meddwl, rhesymu a siarad yn well ers fwyta llai o glwten, sydd yn peri i rhywun ofyn faint o sbwriel di angen sydd yn yr holl bethau yma rydym yn ei fwyta ? Sbwriel sydd yn ein llygru yn ara bach – mae’r corff yn dweud hynny wrthyf heb unrhyw dystiolaeth gwyddonol.

            Ac i orffen dyma estyn canmoliaeth i ‘Caban’ yn Brynrefail lle gefais ginio yn ddiweddar. Ar y fwydlen dyma ‘Salad Figan’, gwych a mor falch oeddwn i’w gael. Cinio ysgafn ond digon blasus a finnau rhwng dau gyfarfod, dyma’r union beth. Rwyf wedi rhoi gorau i’r wy,ffa pob a sglods, rwyf wedi rhoi gorau i’r brecwast llysieuol (bwyd di ffrio) ac awgrymaf yn garedig wrth bob caffi a gwesty – da chi rhowch fwy o ddewis iach ar y fwydlen neu mi fyddaf yn teithio o gwmpas Cymru hefo pecyn bwyd fy hyn !
 
Gyda llaw oes rhywun yn cofio'r sengl yma gan Rocyn ?

No comments:

Post a Comment