Wednesday 5 February 2014

Eglwys Sant Marc, Brithdir. Herald Gymraeg 5 Chwefror 2014


 

Wedi ei adeiladu rhwng 1895 ac 1898, mae Eglwys Sant Marc, Brithdir ger Dolgellau yn egwlys gymharol newydd. Yn wir, adeiladwyd yr eglwys i gymeryd lle eglwys Sant Paul pan ddaeth plwyf Brithdir a Islaw’r dref i fodolaeth ym 1894. Dyma’r tro cyntaf i mi ymweld a’r egwlys, dyma’r tro cyntaf i mi fod i fewn i’r eglwys a byddai awgrymu na chefais fy siomi ar yr ochr orau yn gwneud cam enfawr a’r profiad.

            Doedd dim wedi fy mharatoi na fu rhubuddio am ysblander mewnol yr eglwys a dyma chi wefr go iawn wrth gamu i mewn, sylwi ar y lliwiau anghyffredin ar y waliau (oren a glas) a theimlo fy mod newydd gamu mewn i eglwys yn rhywle egsotig fel Seville yn ne Sbaen. Roedd popeth am yr eglwys yn cyfleu gwlad dramor nid rhywle ychydig filltiroedd i’r de o Ddolgellau ar gyrion yr A470.

            Er mwyn gwerthfawrogi naws yr eglwys mae gofyn deall fod hon yn engraifft wych, os nad y gorau yng Nghymru, o adeiladwaith ‘Celf a Chrefft’, sef yr arddull pensaerniol, wedi ei chynllunio gan Henry Wilson,  H. L. North, Arthur Grove a C. H. B. Quennell. O’r tu allan mae’n adeilad syml, llwyd, di-addurn, yn fwriadol felly,  a’r syniad mae’n debyg yw fod yr eglwys i fod i “dyfu o’r pridd” yn hytrach na chael ei “osod ar y pridd”.

            Heddiw mae coed yn amgylchu’r fynwent, a digon hawdd yw gyrru i gyfeiriad Brithdir heb sylweddoli fod yr eglwys yno o gwbl. Mae iddi giat lydan, wedi ei gynllunio ar gyfer caniatau cerbydau ceffyl drwyddi at ddrws yr eglwys ond mae’r profiadau gorau i’w cael wrth archwilio tu fewn i’r eglwys.

            Y peth cyntaf amlwg yw’r allor copr addurnedig gyda delweddau o Gyfarch Mair, angylion a delwedd o Charles Tooth, sylfaenydd yr Eglwys Anglicanaidd yn Florence a fu farw ym 1894.  Er cof am Tooth yr adeiladwyd a chynlluniwyd yr eglwys gan Wilson a’i gyd- weithwyr. Ceir copr wedi ei guro o amgylch y pwlpud hefyd, ac unwaith eto rhoddir argraff o rhywle yn y Dwyrain-canol, bron yn Islamaidd yn hytrcah na eglwys fach Gristnogol yn Sir Feirionydd.
 

            Atgoffir rhywun wedyn o’r ‘misericordiau’ yn Eglwys Santes Fair, Biwmares neu’r cerfluniau ar gadeiriau’r gangell yng Nghadeirlan Bangor wrth i rhywun archwilio’r gangell yma yn Sant Marc. Cawn gerfluniau cain o anifeiliad bychain wrth ymyl pob rhes o feinciau a rhyfedd oedd nodi fod taflen ar gael ger porth yr eglwys yn annog ymwelwyr i ddarganfod y gwahanol anifeiliaid. Yn eu plith roedd crwban a gwningen ac unwaith eto atgoffir rhywun o lygod enwog Robert ‘Mouseman’ Thompson ( mae 5 llygoden fechan ganddo yng Nghadeirlan Bangor).
 

            Felly dyma chi eglwys ‘Celf a Chreft’, wedi ei restru Gradd 1 gan Cadw, trysor bach, rhywle i’w ddarganfod. A dweud y gwir dyma brofi pwynt arall, mae cymaint o bethau bach diddorol, cymaint o henebion, cymaint o hanes – yndoes – a hynny ym mhob ardal o Gymru.

            Mae gan Brithdir ei gaer Rufeinig fechan,(SH 772188) a ddarganfuwyd o’r awyr ym 1961 gan J. K St Joseph a mae’r chydig o gloddio archaeolegol sydd wedi digwydd  tu allan i’r gaer wedi darganfod llestri pridd o’r cyfnod oddeutu 120 oed Crist. Caer yn cysylltu Tomen y Mur a Pennal yw hon ond mae’r dyddiadau hwyrach na’r arferol (sefydlwyd y rhan fwyaf o’r caerau yng Ngwynedd yn y cyfnod 78 oed Crist wrth i’r Rhufeiniaid gael ‘trefn’ arnom ni Geltiaid anwaraidd) yn awgrymu efallai adeiladau tu allan i’r gaer. Fe all hon fod wedi bod yn ganolfan weinyddol i’r ardal ar ol y cyfnod militaraidd cychwynnol.

            Wedyn yng nghoedwig Coed y Brenin, mae ganddom heneb arall hynod ddiddorol, sef Gwaith Copr Glasdir, archaeoleg diwydiannol felly. Mae’r safle yma wedi cael ei dacluso a’i ddehongli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac hyd yn oed yn fwy canmoliadwy mae llwybr yn arwain at y mwyngloddfa sydd yn addas ar gyfer cadair olwyn. Rhaid dilyn y llwybr troed o faes parcio Pont Llam yr Ewig er mwyn cael y llwybr anabl (sydd wrthgwrs wedyn hefyd yn addas i rheini hefo cerbyd babanod / plant bach iawn).

            Rwyf dal heb ddarllen llyfr Ian Parri ‘Nid yr A470’ ond dyma engreifftiau gwych, yn arddull llyfrau ‘The Real Cardiff’ a ‘The Real Powys’ o’r nodweddion diddorol sydd oddi ar y priffyrdd, ond i chi gymwryd ugain munud, hanner awr, awr os mynnwch i grwydro, i ddarganfod, i archwilio.

            Rhaid cyfaddef fod eglwys Sant Marc yn un o’r ‘darganfyddiadau’ gorau i mi wneud ers amser. Chlywais rioed son am y lle, a mae hynny yn beth trist. Lle mae dilynwyr brwd y mudiad ‘Celf a Chreft’ yma yng Ngogledd Cymru ? Sgwn i os fuodd John Ruskin yma erioed ?

            Beth am herio ychydig felly. Beth am awgrymu mae’r lleia Cymreig, lleia amlwg Gymreig neu lleia’r cysylltiad a’r Gymraeg wedyn y lleia y diddordeb ymhlith y Cymry ? Doedd William Morris er engraifft ddim yn Gymro felly wfft iddo ? Efallai fod hyn yn hollol anheg, ond credaf ei bod yn amser canu cloch Eglwys Sant Marc, gweiddi allan, gadewch yr A470 – mae’r eglwys yma wirioneddol werth ei weld.

No comments:

Post a Comment