Wednesday 26 February 2014

Y Sin Danddaearol Herald Gymraeg 26 Chwefror 2014


 
Dau gwestiwn sydd gennyf yr wythnos hon, oes yna ddigon o sylw wedi cael ei roi i hanes diwylliant poblogaidd cyfoes Cymraeg a lle da ni’n mynd nesa ? Dwi’n gwybod fod hwn yn gwestiwn cyfarwydd (gennyf) i ddarllenwyr rheolaidd y golofn hon. O bosib byddaf yn gallu cynnig ateb ar y diwedd, ac efallai wedyn na fydd rhaid gofyn y cwestiwn yma eto !

Ychydig cyn y Nadolig bu i mi gael fy nghyfweld gan Clancy Pegg, cyn aelod o’r grwpiau Catatonia a Crac, ar gyfer llyfr mae hi yn sgwennu i’w gyhoeddi gan Llyfrau Seren yn hwyrach eleni. Llyfr y mae hi ei hyn yn ddisgrifio fel ‘hanes cymdeithasol’ yn dilyn hynt a helyntion y Byd Pop Cymraeg / Cymreig o’r cyfnod ‘tanddaearol’ (80au cynnar) hyd at ‘Cwl Cymru’ (90au hwyr) fydd hwn.

Saesnes yw Clancy, o Lundain, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Fe laniodd yma fel roedd Catatonia yn dechrau (1992/93), ac am ychydig bu’n chwarae allweddellau i’r egin grwp. Wedyn fe aeth ymlaen i ffurfio grwp ei hyn, ‘Crac’. Ond, yr hyn fydd yn ddiddorol am lyfr Clancy yw fod yma ymdrech gan Saesnes i ddadansoddi’r holl fwrlwm Cymraeg y bu iddi lanio yn ei ganol ddechrau’r 90au.

Roedd Clancy ar un adeg mewn perthynas a John o’r grwp Llwybr Llaethog felly fe gafodd gyflwyniad o fath i’r Sin Gymraeg tra yn Peckham cyn iddynt ddychwelyd i Gymru ar ddechrau’r 90au ond mewn ffordd, doedd dim wedi ei pharatoi am gyrraedd Cymru ac ymdrochi yn llwyr ym mwrlwm grwpiau pop Cymraeg. Doedd ganddi ddim syniad am y Sin Danddaearol – felly rhaid oedd gwneud ymchwil a chyfweliadau i gael cefndir y cyfnod cychwynnol hwn.

Braf oedd cael sgwrsio gyda Clancy gan ei bod yn edrych ar yr holl beth o safbwynt hollol wahanol – ac edrychaf ymlaen i ddarllen y llyfr. Bydd yn gofnod arall (yn Saesneg y tro hwn) o beth ddigwyddodd yn ddiwylliannol yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw o ddechrau’r 80au hyd at ddiwedd y 90au. Fersiwn / dehongliad Clancy o’r stori fydd hwn wrth reswm.

Er i mi fwynhau sgwrsio a hi, sgwennais blog yn Saesneg yn fuan wedyn a gyhoeddwyd gan Seren, yn son am y  rhwystredigaeth o sylweddoli fod cyn llied o bobl wedi edrych ar yr hanes yma, cyn llied wedi dangos diddordeb dros y blynyddoedd ……..

Ond oleiaf bydd triniaeth Clancy yn bodoli. Wedyn, wythnos yn ol dyma fwy neu lai orfod ail adrodd yr un stori, y tro yma ar gyfer rhaglen mae S4C yn gynhyrchu gyda Gareth Potter o’r enw ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Fe sgwennodd Potter sioe lwyfan un dyn o’r un enw (Gadael yr G21ain), fe deithiodd y sioe led led Cymru ychydig yn ol ac  unwaith eto – oleiaf mae / bydd yna gofnod yn bodoli. Ferswin / dehongliad Potter wrth reswm oedd y sioe lwyfan a thrwy ei lygaid ef mae’r stori ar gyfer y teledu – ef sydd yn cyfweld a ni i gyd oedd yn rhan o’r peth. Roedd Potter hefyd yn rhan o’r peth fel aelod o grwpiau Clustiau Cwn, Pry Bach Tew, Traddodiad Ofnus a Ty Gwydr.

Eto, roedd cael treulio amser gyda Potter ddigon pleserus, rwyf o hyd wedi bod yn hoff ohonno, ac o hyd wedi edmygu ei greadigrwydd a’i ddyfalbarahad. Yn wahanol i mi, mae Potter yn dal yn rhan o’r Byd Pop Cymraeg.  Ymdrechais yn galed i beidio llithro yn ol i fod yn “Rhys Mwyn Punk Rock”, ac yn wir cefais ffilmio ychydig hefo’r criw yng nghaer Rufeinig Segontium a dyma deimlo yn llawer mwy brwdfrydig wrth ddisgrifio’r baddondai Rhufeinig  na deimlas wrth son (unwaith eto) am orfod herio’r Byd Cymraeg er mwyn cael mynegiant, llwyfan a’r rhyddid i greu ar ddechrau’r 80au …….

Ond, roedd rhaid i mi ddweud wrth Potter a’r criw ffilmio fy mod o’r farn fod hyn oll yn rhy chydig rhy hwyr. Nid berniadaeth o ymdrechion Potter na’r rhanglen ar gyfer S4C ond y ffaith syml amdani yw nad oes fawr o neb yn cofio’r cyfnod, a fawr o neb hefo unrhyw ddiddordeb bellach. Duw a wyr beth fydd pobl yn feddwl – mi fydd yn Iaith arall i’r rhan fwyaf o wilwyr S4C yn sicr.

Canlyniad peidio cymeryd ein hanes o ddifri yw fod yr hanes wedi ei ddi-brisio a’i neilltuo i rhyw gornel dywyll. Er ein bod yn byw yn oes youtube a’r We, (lle mae rhan helaeth o’r hanes ar gael gyda llaw), mae’n anodd bellach i gael y drafodaeth angenrheidiol. Fe ddylia hyn fod wedi digwydd yn rheolaidd ac ers blynyddoedd  – 10 mlynedd ar ol ‘Cwl Cymru’, 15 mlynedd ar ol record ‘Cam o’r Tywyllwch’ a sawl gwaith wedyn. Sylwer faint o raglenni am ‘Punk’  sydd wedi bod ar BBC 4 – dwsinau a mwy – oherwydd fod y comisiynwyr oll o’r genhedlaeth Punk yn ol y son (neu’r dyna’r feirniadaeth a anelir at BBC 4).

Yng ghyd destyn y Byd Cymraeg – bydd llyfr Clancy a rhaglen Potter yn gyfystyr a “sylw mawr”  i’r Byd Pop Cymraeg yn yr 80au / 90au. Ond petae y Cymry yn gallu bod yn chydig mwy gonest – mae’n gywilyddus fod y fath ddifaterwch wedi ei ddangos tuag at elfen bwysig o’n hanes, wedi’r cwbl heb record Cam o’r Tywyllwch mae lle  i ddadlau na fydda’i Cwl Cymru rioed di digwydd …………….

A’r cwestiwn arall – lle nesa ? Cwestiwn da !
 
 

 

 

2 comments: