Thursday 20 March 2014

Crynwyr Dolgellau, Herald Gymraeg 19 Mawrth 2014


 llun :  Ffwrnais Dolgun / Abraham Darby
Mae’n debyg i bobl o fy nghenhedlaeth i, mae Dolgellau yn gyfystyr a’r ‘Sesiwn Fawr’, neu hyd yn  oed ‘Gwyl Werin Geltaidd Dolgellau’ a flaenorodd y Sesiwn. Yn wir, bu i mi deithio o Lanfair Caereinion ar fy meic-modur ym 1980 i weld Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr yn perfformio mewn pabell anferth ar y Marian – un o fy mhrofiadau cyntaf (a bythgofiadwy) o wylio grwp roc Cymraeg yn fyw.

            Wrth ddychwelyd i Ddolgellau wythnos yn ol, roedd fy sylw yn cael ei hawlio can rhywbeth hollol wahanol, sef hanes y Crynwyr, wrth i mi ymweld a Chanolfan y Crynwyr yn Nhy Meirion ar Sgwar Eldon. Arddangosfa yw hwn i bob pwrpas, wedi ei osod ar y llawr cyntaf uwchben y ganolfan wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri. Mewn un ystyr mae hyn oll yn ‘anweledig’, rhaid mentro drwy’r ganolfan wybodaeth i’w gyrraedd ac a dweud y gwir does dim byd amlwg wrth grwydro strydoedd Dolgellau sydd yn gweiddi – ‘Crynwyr !’.

            Ac eto, dyma hanes, diddorol dros ben, sydd a naws ychydig yn wahanol. Felly yn fras iawn mae’r stori yn dechrau gyda ymweliad gan George Fox, sefydlydd y Crynwyr, a Dolgellau ym 1657. O ran cyd-destyn mae hyn flwyddyn cyn marwolaeth Oliver Cromwell a thair mlynedd cyn i Siarl II gael ei adfer i’r frenhiniaeth. Y stori yw fod Fox wedi croesi dros Gader Idris ac ei fod wedi penderfynu fod yma le addas ar gyfer trosglwyddo’r neges.

            Eto o ran cyd-destyn rydym 27 mlynedd cyn geni Griffith Jones Llanddowror, felly does na ddim son am Hywel Harris, Daniel Rowlands na William Williams, Pantycelyn, dydi anghydffurfiaeth fel sydd i ddilyn ddim wedi dechrau, ac eto mae rhywbeth newydd yn gallu gafael yn ardal Dolgellau – sydd efallai yn awgrymu pam mor amherthnasol oedd yr Eglwys.

            Yn sicr mae modd awgrymu fod y Crynwyr yn cynnig rhywbeth llawer mwy ‘radical’ na’r Eglwys, o bosib gallwn awgrymu rhywbeth mwy blaengar gan eu bod yn credu fod pob unigolyn yr un mor bwysig yng ngolwg Duw – sydd yn sicr ddim yn gyson a’r sefydliadau mwy heiarchaidd. Ond dyna rhywbeth am trawodd yn syth – beth oedd y cefndir cymdeithasol oedd yn caniatau i’r Crynwyr ennill tir mewn ardal wledig fel hyn yn Sir Feirionnydd ?

            Oherwydd erlid, bu rhaid i’r Crynwyr gyfarfod ac ymgynull yn gudd a chawn hanes cartrefi fel Tyddyn y Garreg lle bu’r Crynwyr yn cyfarfod am dros ganrif. Yma hefyd cawn mynwent y Crynwyr a safle’r cyfarfod cenedlaethol ‘Cyfarfod Blynyddol i Gymru’ 1685. Cawn hanes ffermydd eraill fel Dolgun Uchaf, Ffwrnais Dolgun a Dolserau.

            Ffaith arall sydd yn hawdd i’w golli yw pwysigrwydd y Crynwyr i’r Chwyldro Diwydiannol, yn bennaf gan fod mynediad i Brifysgolion yn cael ei wrthod iddynt, felly mae’n debyg fod eu sylw wedi cael ei droi at fentro yn y byd busnes a chawn gysylltiad a’r arloeswr Abraham Darby a Dolserau lle cawn ffwrnais wedi ei gynllunio ganddo. Dyma’r ffeithiau bach ddiddorol yna sydd fel rwyf yn awgrymu, yn rhy aml, yn anweledig – weithiau oherwydd ein anwybodaeth neu difaterwch – ond dyma beth sydd angen ei newid felly.

            Diwedd y stori i gymaint oedd cael llond bol o’r erlid, digon yw digon, a ffwrdd a nhw am Bensylfania – ac eto mae hyn yn swnio yn llawer haws na’r broses go iawn. Dychmygwch yr amgylchiadau ar y llong heb son am faint oedd yn marw cyn ddiwedd y daith – yn enwedig felly plant ifanc.

            Dolserau oedd cartref y Crynwyr Robert a Jane Owen a ymfudodd i Bensylfania ym 1697 efo’u mab, y meddyg Gruffydd  Owen. A dyma rhywun yn meddwl wedyn am y potensial anhygoel o ran ymwelwyr o America o dras Cymreig, a theulu o Grynwyr o Feirionnydd. Yn sicr mae modd datblygu twristiaeth niche, dim o’i le yn hynny a mae’n gallu gweithio.

            Wedi eu cyhoeddi mae taflenni ‘Teithiau Hanes Cristnogol Meirionnydd’, felly mae’r datganiad uchod yn alwg yn barod a chawn daflen ar Mari Jones, Sant John Rowlands a thaflen arall wedyn ar y Crynwyr sydd yn rhestru safleoedd Bryn Mawr, Capel Tabor, Dewisbren, Tyddyn y Garreg, Dolgun Uchaf, Ffwrnais Dolgun a Llwyngwril / Bryn Tallwyn fel llefydd y dylid mynd i’w gweld.

            A dweud y gwir, mae’n swnio fel taith fach dda ar bnawn Dydd Sul hyd yn oed i bobl lleol o Wynedd / Sir Feirionnydd sydd a dim cysylltiad yn y byd a Phensylfania. Dyma fodd i ddarganfod ardal arall, darnau bach o’r tir oddi ar yr A470,  darn bach arall o hanes ac i roi hwb bach i economi caffis Sir Feirionnydd. Rwyf wedi cadw fy nhaflenni ac rwyf yn bwriadu mynd am dro ar daith y Crynwyr mor fuan a phosib.

            Felly y wers i mi, mae mwy i Ddolgellau na cherddoriaeth gwerin, ond fel sonias uchod, roedd y gig Jarman yna yn fythgofiadwy. Cofiaf hyd heddiw fod Tich Gwilym yn gwisgo trowsus gwyrdd combats, crys T coch ‘ Sgrech’ a siaced Harrington du. Roeddwn newydd wrando ar LP ‘Gwesty Cymru’ a roedd cael clywed ‘Rocers’ yn fyw yn beth mawr – credwch fi !
 llun : Dlogun Uchaf (Y Stafell Ddirgel)

No comments:

Post a Comment