Wednesday 2 April 2014

Er cof am Gwyn Parry, Herald Gymraeg 2 Ebrill 2014.




Mae hon yn stori wir, neu, fe wyddoch beth mae nhw’n ddweud, “mae rhan o hyn yn wir”. Cerddais i mewn i’r ystafell, y fi oedd yr olaf i mewn, roedd llwyth o bobl o amgylch bwrdd, cefais fy nghyfarch gan lais mawr a gwen gyfeillgar.

            “Arallgyfeirio ?” ebe’r llais mawr. Edrychais ar y wyneb crwn,bochau coch a’r gwallt cyrls. “Diawl, fod di’r boi oedd yn Pengelli” meddyliais. Cymro arall oleiaf. Gwennais gan ateb “rhywbeth felly”. Yn fuan wedyn roeddwn yn ymwelydd cyson a chartref yr “actor” Gwyn Parry yng Nghaernarfon, yn yfed paneidiau, yn rhoi y Byd yn ei le. Mewn byr amser roeddem yn ffrindiau, yn gyd-weithwyr ac yn dallt ein gilydd i’r dim.

            Fel roedd y Byd Pop Cymraeg wedi troi o fod yn ddu a gwyn i rhywbeth llawer mwy llwyd, roeddwn wedi penderfynu nid cymaint ‘arallgyfeirio’ chwedl Gwyn, ond yn sicr fod yr amser yn iawn i ddechrau datblygu teithiau archaeoleg. Roedd y syniad yma yng nghefn fy meddwl ers dipyn ond daeth cyfle bellach i hyfforddi ac i ddilyn cwrs tywys drwy Goleg Llandrillo, a fydda ar ddiwedd y cwrs yn rhoi bathodyn tywysydd swyddogol i ni.

            Rhaid fod Gwyn hefyd yn barod i ‘arallgyfeirio’, ella fod llai o waith actio o gwmpas, ond roedd y ddau ohonnom yn gweld yr ochr ddoniol o fod yn ‘stiwdants’ unwaith eto – pwy fydda wedi meddwl ? Dwi ddim yn credu fod yr un ohonnom yn or-hoff o’r syniad o orfod sgwennu traethodau ac eistedd arholiadau ond ar y llaw arall roedd ymwneud a phobl a’u tywys o amgylch Gogledd Cymru yn rhywbeth oedd yn dod yn ddigon naturiol i’r ddau ohonnom.

            Felly dyma rannu gwybodaeth a nodidadau, dyma dreulio oriau os nad dyddiau / wythnosau yn teithio o amgylch Gogledd Cymru yn helpu’n gilydd gofio’r ffeithiau am Gastell Penrhyn, Pont Britannia a Gerddi Bodnant. Yn y diwedd, dyma’r ddau ohonnom yn dod yn gyd-weithwyr, yn dywysyddion proffesiynnol hefo cymdeithas WOTGA.

            Un o bleserau bywyd y blynyddoedd diweddar oedd cael tywys Americanwyr o amgylch Castell Caernarfon, Gwyn yn gyfrifol am un bws o hanner cant, a finnau hefo criw arall ac efallai 4 bws llawn arall yn cyrraedd y castell yr un pryd. Yr hwyl (a’r joc ymhlith ein cyd-weithwyr) fydda ceisio cael hyd i safle o fewn y castell er mwyn dechrau’r daith dywys gan gadw pellter o Gwyn. Rhy agos i Gwyn a byddai ei lais melfedaidd, Shakesperaidd yn ein boddi. Roedd angen bod yr ochr arall i’r Castell i Gwyn os oedd fy nghriw am fy nghlywed.

            O fewn wythnosau i’r cyfarfod cyntaf yna, roedd Gwyn yn galw heibio ein ty ni, roedd wedi dod ac anhreg Nadolig i’r hogia acw, crys-T yr un, doedd dim rhaid iddo – ond dyna chi Gwyn, a roedd yr hogia wedi cymeryd ato yn syth. Efallai fel ‘actor’ oedd wedi gwneud ei siar o raglenni plant roedd y ddawn ganddo i gyfathrebu, neu i uniaethu, a hogia oedd pryd hynny yn 6 a 7 oed.

            Felly, efallai fod yna elfen o ‘arall-gyfeirio’ yn hyn oll, efallai fod Gwyn yn iawn yn hynny o beth ac eto efallai mae estyniad o’r hyn roeddem yn ei wneud eisoes oedd hyn, sef cyfatherbu. Efallai mae dyna’r swydd-ddisgrifiad gorau, cyfathrebwyr – dyma oedd Gwyn yn sicr a rhywun oedd ac angerdd yn ei fol am Gymru. Dyna efallai pam fod hi wedi bod mor hawdd dod yn ffrindiau mewn amser mor fyr.

            Arwydd o gyfeillgarwch yw fod modd eistedd hefo Gwyn heb orfod ‘gwneud sgwrs’. Ar ein pewnythnosau preswyl yn cael ein hyfforddi i fod yn dywysyddion, braf oedd cael eisedd hefo Gwyn ar ddiwedd nos. Un, am ei fod yn Gymro Cymraeg, ond yn ail am fod modd eistedd hefo fo heb orfod ‘gwneud sgwrs’. Braf oedd hynny ar ol diwrnod hir o astudio neu gorfod gwneud sgwrs hefo cyd-weithwyr llai cyfarwydd a di-Gymraeg.

            Weithiau mae cael dweud dim byd yn y Gymraeg llawer haws na trio cynnal sgwrs yn yr Iaith fain. Bydd yn golled heb Gwyn, anodd credu na fydd o hefo ni Haf yma pan fydd yr ymwelwyr yn cyrraedd – fydd Castell Caernarfon byth ru’n fath eto heb Gwyn a’i ymbarel Draig Goch yn sicr.

            Un o’r pethau arall ofnadwy o ddoniol am y cyrsiau tywys yw ei bod yn anorfod ein bod yn trafod digwyddiadau hanesyddol fel Arwisgo Charles ym 1969 a byddwn o hyd yn clywed Gwyn yn tuchan dan ei wynt petae unrhyw son am hyn gan y tiwtoriaid. Fedrai ddim bod yn siwr, ond synnwn i ddim fod Gwyn wedi llwyddo i gyflwyno teithaiu tywys hynod ddiddorol, ond ei fod, rhywsut neu’i gilydd, wedi llwyddo i ‘arall-gyfeirio’ eu llygaid wrth fynd heibio llechan 1969 yng Nghastell Caernarfon !

            Fuodd na rioed drafodaethau am ‘arall-gyfeirio’ ar ol y diwrnod cyntaf yna. Roedd digon i’w wneud a phur anaml fydda’r sgwrs yn troi at y Byd actio neu’r Byd Pop Cymraeg onibai fod rhwyun oedd y ddau ohonnon yn ei adnabod yn hawlio sylw mewn sgwrs neu fel mae rhywun weithiau yn hel atgofion. Roedd Gwyn yn perthyn i genhedlaeth wahanol i mi, felly doedd sgwrs am Datblygu neu Tynal Tywyll ddim yn debygol, ond efallai weithiau bydda fy arwres fawr, Gaynor Morgan-Rees neu Sharon Morgan (archaeolegydd arall) yn dod i mewn i’r sgwrs.

            Tynnwyd y llun uchod gan gyfaill i ni llynedd, gwr o’r enw Peter Wynne Davies o Sir Benfro, gwr arall sydd yn gyfathrebwr a dyn arall sydd yn gweld y Byd mewn ffordd ddigon tebyg i’r ffordd roedd Gwyn a finnau yn gweld pethau. Rhy hen i fod yn ddi-farn, i dderbyn unrhyw nonsens, ac eto heb flewyn o sinigiaeth, cefais cwmni rhai fel Gwyn a Peter yn bleser ac yn sicr fe ddysgais gymaint o wrando a swgrsio.

 Dyma Gwyn ar draeth Cefn Sidan neu “Gefn Shidan” fel mae nhw’n dweud yn “Shir Gar”. Roeddem yma yn ymarfer ar gyfer arholiad tywys ar fws a dwi’n credu fod y llun yn cyfleu’r cyfan. Roeddem hefyd ar wyliau parhaol yn darganfod darnau arall o Gymru. Yn sicr mae gor-ddefnydd o’r disgrifiad ‘cymeriad’ wrth son am bobl ond dyna oedd Gwyn Parry – cymeriad lliwgar ac uchel ond hynod annwyl yr un pry’d. Pethau prin yw gwir gymeriadau – a bydd colled heb Gwyn Parry.

 

No comments:

Post a Comment