Wednesday 23 April 2014

Hen Gapel John Hughes, Herald Gymraeg 23 Ebrill 2014



 
 

Rhai blynyddoedd yn ol bellach, cofiaf gael sgwrs hefo criw o ardal Hirael ym Mangor oedd yn bryderus am ddatblygiadau tai yn Hirael ac yn benodol am golli‘r hen odynau calch ger yr hen borthladd. Awgrymais y bwyddwn yn fwy na hapus sgwennu rhywbeth ar eu rhan yn y golofn hon. Chlywais i ddim byd pellach ganddynt.

            Ond y pwynt mae’n debyg, yw fod angen i golofn fel hon, nid yn unig fod yn ddiddorol yn wythnosol, ond hefyd cael ei defnyddio i leisio barn. Felly,dyma groesawu nodyn a ddaeth drwy’r post gan Nia Rhosier o Hen Gapel John Hughes, Pontrobert. Cysylltu oedd Nia i ofyn am sylw am yr angen am dȏ newydd yn “ddi-oed” ar gyfer yr hen gapel a mae cais i’r perwyl hyn wedi ei wneud i ‘engagemutual.com’.

            Yr oll sydd angen i ni wneud fel darllenwyr yr Herald  / cefnogwyr treftadaeth Cymru yw bwrw pleidlais ar www.engagemutual/foundation ar gyfer John Hughes Memorial Chapel cyn Mai 31ain. Yr ail beth i’w wneud yw mynd draw i weld y capel wrthgwrs !

            Y tro dwetha i mi droedio llwybrau ochrau Pontrobert oedd gyda’r awdur Mike Parker ar gyfer ei lyfr ‘The Real Powys’ (Seren 2011). Ar y diwrnod hwnnw dilyn Llwybr Ann Griffiths o Pont Llogel cyn belled a Dolannog wnaeth y ddau ohonnom gan gael ein cinio ger y Capel Coffa yn Nolannog cyn dringo Allt Dolannog a’i fryngaer Celtaidd cyn gorffen ein taith yn Nolwar Fach. Ar y diwrnod hwnnw, ni chyrhaeddom Pontrobert.

 

            Rydym yn son yma am ardal y Plygain, Dyffryn Efyrnwy, ardal sydd yn wyrdd, wyrdd, wyrdd  – caeau glas, dyma Mwynder Maldwyn ar ei orau. Ym mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa mae carreg fedd Ann Griffiths (1776-1803), Y cysylltiad wrthgwrs a John Hughes yw’r ffaith fod Ruth ei wraig, ar un adeg wedi bod yn forwyn i Ann Griffiths yn Nolwar Fach.

            Doedd Ann ddim yn cofnodi ei hemynau a mae’r diolch heddiw fod yr emynau yma wedi eu cadw ar gof a chadw yn llwyr oherwydd Ruth, hi oedd wedyn yn ail-adrodd yr emynau i’w gwr John Hughes ac ef wedyn yn eu sgwennu ar bapur. Thomas Charles (Beibl i bawb o bobl y Byd) wedyn gyhoeddodd yr emynau ym 1806.

            Ganed John Hughes yn y flwyddyn 1775 yn Y Figyn, Llanfihangel yng Ngwynfa. Er iddo fwrw ei brentisiaeth fel gwehydd dechreuodd ddysgu gan gadw ysgol yn ystod y dydd cyn ymuno a’r Methodistiaid Cafinaidd ym 1800. Dechreuodd bregethu yn yr un flwyddyn ac ym 1814 fe’i hordeinwyd yn y Bala. Bu farw ym Mhontrobert ym 1854 a fe’i claddwyd yn y fynwent gyferbyn a’r capel.

            Bu’r capel  gau ym 1865, un mlynedd ar ddeg yn unig ers marwolaeth John Hughes a’r darn bach nesa o hanes yw fod y capel wedi cael ei ddefnyddio fel gweithdy saer troliau a mae elfennau o’r hanes yma hefyd i’w gweld yn y capel hyd heddiw. Gwerthwyd y capel i brynwr preifat ym 1927 ar yr amod fod pulpud John Hughes yn cael ei gadw – mae’rpulpud yn dal yno hyd heddiw. Ar un adeg bu son fod yr Amgueddfa Werin, sef Sain Ffagan, gyda diddordeb yn y pulpud ond mae yna ddadl yn sicr, fod gwerth cadw gwrthrychau yn eu cynefin naturiol lle mae hynny yn bosib.

            Erbyn heddiw mae’r Hen Gapel yn cael ei ddefnyddio fel canolfan’ Undod ac Adnewyddiad’ a dros yr Haf, o Ddydd Mawrth hyd Ddydd Gwener, mae’r ganolfan ar agor i’r cyhoedd yn ystod y prynhawn. Bellach mae Hen Gapel John Hughes yn adeilad rhestredig Gradd II.

            Rwyf yn ymwybodol iawn dros y blynyddoedd dwetha fy mod wedi rhoi digonedd o sylw i hen Eglwysi yn y golofn hon, a hynny efallai ar draul rhoi sylw i’n capeli. Un gwahaniaeth mawr yw fod modd cael mynediad i eglwysi, hynny yw os yw’r drysau ar agor, ond nid dyna’r stori hefo’n capeli. Fel arfer mae’r drysau wedi cau.

            Mae’n rhaid fod lle i ddadla fod angen gwneud mwy o’n hen gapeli. Engraifft da iawn i chi yw Capel Newydd, Nanhoron, sef y capel anghydffurfiol hynaf yng Ngogledd Cymru, wedi ei adeiladu 1770-72. Yma mae’r seddau a’r nodweddion tu mewn wedi goroesi a mae’r llawr pridd yn gyfan. Oherwydd siap petrual y capel, fe all fod hwn yn adeilad ysgubor sydd wedi ei addasu i fod yn capel, ond heb os dyma safle arall sydd werth ei ymweld.

            Braf yw gallu cyhoeddi fod yr Ymddiriedoalethau Archaeolegol a’r Comisiwn Brenhinol wedi cofnodi y capeli hyn ar safleoedd Wê fel Coflein ac Archwilio felly cymharol hawdd yw cael hyd i wybodaeth cefndir am yr hen adeiladau yma os yw rhywun yn hyderus yn chwilota ar y Wê.

            Tarfwyd ar fy ysgrifennu ar gyfer y golofn hon, gan fy mod yn gorfod gwibio draw i’r BBC ym Mangor i gymeryd rhan mewn rhaglen drafodaeth dan ofan John Walter Jones, ar ‘Dreftadaeth’ ac yn cadw cwmni i mi yno roedd yr hanesydd Nia Powell a Dr Dafydd Roberts o’r Amgueddfa Lechi. Efallai fod hyn yn gyd ddigwyddiad, neu efallai ei fod yn arwydd fy mod yn llygad fy lle, ond ar ddiwedd y cyfweliad radio dyma Nia Powell yn dechrau son am bwysigrwydd ein capeli fel adeiladau hanesyddol – fel rhan o dreftadaeth Cymreig hanfodol.

            Rhaid oedd chwerthin, gan ddweud, “dwi yng nghanol sgwennu am Hen Gapel John Hughes” a buan iawn trodd y sgwrs at Gapel Newydd Nanhoron. ‘Zeitgeist’ ydi’r gair ynde, dyma’r amser felly i ddod a’r capeli yn ol i’r amlwg – nid cymaint fel addoldai ond fel adeiladau sydd yn aml yn hyfryd iawn o ran pensaerniaeth. Dyma chi rhywbeth sydd yn agos atom fel Cymry, yn rhan anatod o fagwraeth y rhan fwyaf ohonnom neu yn sicr rhywbeth sydd wedi ysgogi eraill i wrthryfela.

            Daw cân y Trwynau Coch i’m meddwl ‘Mynd i’r Capel Mewn Levis’, nid y datganiad mwyaf anarchaidd erioed ond rhywbeth hollol Gymreig yn sicr. Unwaith eto mae yna gysylltiad rhwng yr erthygl yma a chymaint o fy erthyglau – rhywsut neu’i gilydd mae angen i ni fel Cymry Cymraeg wneud fwy o sŵn am y petha yma yndoes !
 

           

No comments:

Post a Comment