Wednesday 28 May 2014

Archaeoleg Plas Newydd, Herald Gymraeg 28 Mai 2014


 
 
 
 
Mi fydd unrhywun sydd yn gwylio neu yn gwrando ar y newyddion yn ddiweddar wedi clywed am agor Pwmp Gwres Mor – ers 21/05/14 ym Mhlas Newydd, Mon. Gadawaf fanylion a manylder sut mae hyn yn gweithio yn nwylo galluog Bethan Wyn Jones a fe ganolbwyntiaf ar yr archaeoleg a welwyd yn ystod ein hymweliad a Phlas Newydd wythnos yn ol fel colofnwyr yr Herald Gymraeg.

            Rhaid cyfaddef i ni gael ein trin yn wych gan staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cawsom ein croesawu  gan 6 ohonnynt, pawb gyda ei arbenigedd, a heb iddynt osod carped coch, a heb fod un ohonnon hefo’r enw ‘Tywysog Siarl’, anodd dychmygu sut gallwn fod wedi cael gwell croeso. Ein prif dywysydd oedd Keith Jones sydd yn gyfrifol am waith amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth ac ef yn bennaf sydd yn gyfrifol am ddatblygu’r cynllun Pwmp Gwres Mor ar gyfer cynhesur’r ty hynafol.

            Ond fel colofnwyr yr Herald fe gafwyd wledd archaeolegol yn ogystal ac un amgylcheddol / technoleg werdd. Yn dilyn taith dywys o’r Plas ei hyn, gan ymweld a lloftydd fo a hi, gan astudio mulrlun canfas Rex Whistler a gweld coes bren yr Ardalydd cafwyd cyfle prin i ymweld a’r seleri tanddaearol. I mi, ac archaeolegydd yr Ymddiriedolaeth, Kathy Laws, roedd hyn yn antur hynod gyffrous ac yn codi awydd am astudiaeth pellach o hanes y seleri.

            Gwelwyd y selar win a seleri lle cadwai’r teulu eu archifau ond wedyn yr hyn oedd yn wirioneddol ddiddorol os nad ychydig yn annisgwyl oedd fod lefel is wedyn i’r seleri. Felly dyma ddringo un llawr i lawr ac yma gwelwyd muriau hynafol, peidiwch a gofyn pa gyfnod yn union, ond roedd yn amlwg fod y gwaith brics yn y seleri wedi eu gosod yn erbyn wal o gerrig mawr oedd yno yn flaenorol.

            Dyma lle roedd Kathy yn awgrymu fod angen i rhywun wneud arolwg manwl o’r adeiladwaith yma i geisio creu llinell amser a llinell datblygiad ar ei gyfer. Y tebygrwydd yw fod rhain yn perthyn i adeilad cynharach  na’r ‘Plas Newydd’.  Yn wir, yr enw blaenorol ar y lle yma oedd ‘Llwyn y Moel’ a’r cwestiwn amlwg yw a oedd rhai o’r hen walia yma yn y selar ac ambell fwa drws yn perthyn i’r ty gwreiddiol o gyfnod y Tuduriaid ?

            Awgrymwyd fod darn o’r ‘Ystafell Gerdd’ yn perthyn i’r hen neuadd ond fe drawsffurfiwyd y ty yng nghanol y ddeunawddfed ganrif gan Nicholas Bayly yn yr arddull ‘Gothig’ cyn i’r plas ddatblygu ymhellach dan ofal James Wyatt a Joseph Potter. Yn y 1930 cafwyd wared a rhan helaeth o’r elfennau Gothig gan y pensaer Harry Goodhart-Rendel a dyma sydd i’w weld heddiw.

            Felly pethau cymhleth yw adeiladau, anodd i’w dyddio yn gywir ac i wahaniaeuthu rhwng y gwahanol gyfnodau o adeiladu, addasu a newidiadau. Ar ol hanner awr hynod gyffrous o dan y ddaear daeth yr amser i ni weld golau dydd a dyma Keith yn ein harwain at lan y Fenai i ni gael gweld lle mae dwr y mor yn dod i mewn i’r orsaf bwer newydd. Ond, eto i’r archaeolegwyr, dyma le arall o ddiddordeb mawr gan fod yma olion yr hen ‘Rhodfa’r Mor’ a ddefnyddiwyd gan “Ladis” y Plas  er mwyn cael dipyn o awyr iach dybiwn I.
 

            O ochr y Fenai, roedd gweddillion wal y rhodfa i’w gweld yn glir ac yn defnyddio’r arddull esgyrn-penwaig (‘herringbone’) o adeiladu, sef y cerrig yn sefyll yn syth yn hytrach nac yn wastad. Mae adeiladwaith tebyg i’w weld ym Mhorthladd Amlwch, ym muriau y gaer Rufeinig yng Nghaergybi ac yn wir yng nghronbil muriau ‘Hen Walia’ yng Nghaernarfon.

            Dangosodd Kathy adroddiad archaeolegol oedd yn cynnwys hen luniau o’r “ladis” yn cerdded y rhodfa yn eu sgertiau llaes gyda ymbarel rhag cael gormod o haul. Dyna braf arnynt ynde, ond ar hyn o bryd does dim mynediad cyhoeddus i’r rhan yma o’r Plas / gerddi a mae’n debyg byddai cost sylweddol i unrhyw gynllun o ail godi’r rhodfa. Cafwyd hyd i olion ogofau yma hefyd yn ystod y gwaith adeiladu diweddar, a rhain oll wedi eu cau gan y Pagets, ond eto dyma gwestiwn pam mor hynafol yw’r ogofau ? Beth petae rhain wedi eu defnyddio gan ddyn cyn i’r Fenai wahannu’r ynys o’r tir mawr yn ol yn y cyfnod Mesolithig efallai ?
 

            Diwnod bendigedig felly yn cael archwilio Plas Newydd. Diddorol fod cymaint o ‘archaeoleg’ yma heb gychwyn son am y gromlech ar y lawnt a Bryn yr Hen Bobl wrthgwrs ! Cofiwch edrych ar Blog Keith Jones ar hen beiriannau hydro dan yr enw  ‘Hela Hydros’
 

 

 

 

No comments:

Post a Comment