Wednesday 7 May 2014

Robert Recorde a'r arwydd = equals. Herald Gymraeg 7 Mai 2014.


 

Gwrando ar ddarlith gan Dr R Brinley Jones Sadwrn dwetha, yr hwn a fu yn Lywydd ar y Llyfrgell Genedlaethol (1996-2007) ac yn Ganghellor Prifysgol Dewi Sant, (1977-95), ymhlith rhestr faith o anrhydeddau a swyddogaethau eraill. Wel dyna chi wledd. Ar dechrau ei ddarlith, fe addawodd ei fod yn mynd i grwydro o’r sgript. Yn y Gymraeg rydym yn son am ‘ddilyn eich trwyn’ ond mae yna ddamcaniaeth gydnabyddedig ar gyfer y math yma o grwydro – sef ‘seico-ddaearyddiaeth’.

            ‘Seico-ddaearyddiaeth’ yw fframwaith crwydro (a sgwennu) awduron fel Peter Finch (Real Cardiff) a Mike Parker (Real Powys). Dyma chi ddisgyblaeth werth ei throsglwyddo i’r Byd Cymraeg. Mae angen mwy o grwydro heb gynllunio, a dyna yn union wnaeth Brinley Jones. Testun ei sgwrs oedd ‘Y Cymry yn Rhydychen’, sef son am ysgolheigion o Gymru fu yng ngholegau Rhydychen. A Brinley ei hyn yn gynnyrch Coleg yr Iesu, roedd nifer o fy nghyd-wrandawyr yn tynnu coes ar ddiwedd y sgwrs am faint o weithiau cyfeirwyd at Rydychen yn ystod yr awr – ond wedi’r cyfan, dyna oedd y pwynt !

            Ond, wrth i Brinley grwydro, dyma son am ddyn o’r enw Robert Recorde. Rwan sgwn’i faint ohonnom sydd yn gwybod pwy oedd Robert Recorde ? Yn sicr doedd hwn ddim yn enw cyfarwydd i mi, rhaid cyfaddef, llaw i fyny, yn fy anwybodaeth !

            Ganed Recorde yn Nibych y Pysgod oddeutu 1512 i deulu parchus a mae cofnod iddo fynychu’r Brifysgol yn Rhydychen oddeutu 1525 – sef y cysylltiad a darlith Brinley. Erbyn 1531 mae’n cael ei gydnabod fel cymrawd o Goleg All Souls a wedyn yn dilyn cwrs meddygyniaeth yng Nghaergrawnt ym 1545. Gan ddychwelyd i Rydychen fel athro mathemateg am gyfnod wedyn, cyn dechrau cyfnod arall, fel meddyg i’r Brenin Edrwad VI, mae’n cael ei ddyrchafu i fod yn gyfrifol am y Bathdy Brenhinol gyda cyfrifoldeb am fwynau ac arian.

            Diweddglo digon trist a thrychinebus mewn ffordd sydd i yrfa Recorde gan iddo farw yng ngharchar y King’s Bench, Southwark wedi ei gyhuddo o achos o roi enw drwg neu enllyb gan elyn gwleidyddol.  Y gelyn gwleidyddol oedd Iarll Penfro. Dyma gyfnod cythryblus mewn hanes, hogyn ifanc oedd Edward VI a wedi ei farwolaeth mae Lady Jane Grey yn rheoli am y 9 diwrnod cyn i Mary I (merch i Harry VIII) gymeryd ei lle.

            Efallai yma, yng nghymlethtod gwleidyddiaeth a chrefydd y dydd cawn weld pam bu Recorde ei gyhuddo gan Penfro. Roedd Recorde yn gefnogol i Eglwys Lloegr a Penfro wedi ochri gyda Mary (pabyddes) felly ‘gwleidyddiaeth’ oedd hyn i gyd, dynion yn ymladd am ddylanwad a ffafriaeth.

            I ni bobl Maldwyn, efallai y dyliwn nodi fod ei daid ar ochr ei fam, gwr o’r enw Thomas Jones, yn hanu o Fachynlleth, felly mae cysylltiad teuluol gan Recorde a Mwynder Maldwyn !

Ond, nid dyna ddiwedd y stori o bell ffordd i ni yma yng Nghymru heddiw, mae’r ffeithiau uchod ddigon diddorol ond efallai ymylol yng nghyd destyn eghangach hanes gwledydd Prydain. Yr hyn sydd o bwys i ni, a rhywbeth y dylid ei ddathlu ganddom fel Cymry, yw mae Recorde sydd yn gyfrifol am greu yr arwydd (=) sef “equals” yng nghyd destun mathemateg.

Yn ei lyfr ‘The Whetstone of Witte’ (1557) mae equals yn ymddangos gyntaf a mae’n cyfeirio at hyn yn y frawddeg “bicause noe 2 thynges can be moare equalle”. Er hyn, fe gymerodd gryn amser i bawb dderbyn a defnyddio’r  symbol =,  a mae son fod ‘ae’ sef ‘aequalis’ mewn defnydd hyd at y flwyddyn 1700.

            Mae Recorde hefyd yn cael ei gydnabod fel y gwr sydd yn cyflwyno’r arwydd (+)  “plus” i siradwyr Saesneg, er fod yr arwydd ei hyn yn bodoli eisoes. Does dim son fod y Gymraeg gan Recorde, go brin dybiwn i, o feddwl ei fod o Ddinbych y pysgod ac yn dilyn ei yrfa wedyn yn Rhydychen a Llundain.

            Felly mae diolch mawr i Dr R Brinley Jones am ddod a’r gwr hynod yma i’m sylw. Ar ddiwedd y ddarlth cefais air gyda Brinley a soniais fy mod wedi bod wrthi yn ddiweddar yn hel enwau o Gymry (Cymraeg a di-Gymraeg) sydd efallai yn haeddu mwy o sylw. Fe all hyn fod yn achos o ddiffyg gwybodaeth neu ddiffyg diddordeb. Y cwestiwn i ni, yw beth yw pwrpas neu gwerth hyn i gyd ?

            Ydi cysylltiad Recorde a Dinbych y Pysgod yn gymorth neu’n arf  i ddenu mwy o ymwelwyr i dde Sir Benfro a thrwy hyn, rhoi hwb i’r economi leol ? Ydi Recorde, neu yn wir darlith Brinley, yn rhywbeth fydda’n addas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel darlith ar y Maes ? Argian dan, mae pawb yn y Byd yn defnyddio yr arwydd = a mae hyn wedi ei greu gan Gymro.Mae hyn cystal ar USA yn hawlio’r dyn cyntaf ar y lleuad.

            Dwi’n ol at fy nghwestiwn wythnosol, yda ni yn gweiddi digon am y pethau yma ? Wrth edrych ar safle we Visit Tenby, mae nhw’n cyfeirio at y castell Normanaidd ac yn son am ‘Little England Beyond Wales’, ond dim gair am Robert Recorde – fe ddylia ei enw fod ar y dudalen flaen. Dim son amdano chwaith ar dudalen Wikipedia Dibych y Pysgod.

            Awgrymaf yn garedig : “anwybyddu hanes = cangymeriad” !

 

 

1 comment:

  1. Ac wrth gwrs Cymro sy'n gyfrifol am "pi" hefyd.
    http://en.wikipedia.org/wiki/William_Jones_(mathematician)
    ac erthygl hirach yma:
    http://www.historytoday.com/patricia-rothman/william-jones-and-his-circle-man-who-invented-pi
    Dau ffaith bwysig bydda i yn gwneud yn siwr fod myfyrwyr yn ei wybod - yn affodus weithia dyna i gyd mae nhw'n gofio....

    ReplyDelete