Tuesday 20 May 2014

Top 50 un-sung Welsh Heroes, Herald Gymraeg 21 Mai 2014.



 
 
Rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb i mi ers cryn amser bellach, yw’r syniad yma o Gymry, cymeriadau hanesyddol yn bennaf, sydd efallai wedi mynd o dan y radar, sydd ddim yn cael y sylw haeddiannol – a byddaf yn pwysleisio bob amser yn y cyd-destyn yma o beryglon anwybyddu ein hanes.

            Penderfynais y byddai creu rhestr o 50 cymeriad hanesyddol, a rhai diweddar hefyd,  sydd efallai yn haeddu mwy o sylw neu barch, yn beth diddorol i’w wneud a rhoddias wahoddiad ar wahanol lwyfannau ar y We i bobl gyfrannu awgrymiadau. Mae’r canlyniadau nawr i’w gweld ar blog ‘Thoughts of Chairman Mwyn’ fel ‘Top 50 Un-Sung Welsh Heroes’ gan ddefnyddio’r geiriau “un-sung” yn fwriadol gan mae ni yw ‘Gwlad y Gân’.

            A dweud y gwir, mae’r rhestr nawr yn dechrau tyfu dros y 50, a mae rhywbeth diddorol mewn cadw’r rhestr i fynd ac i dyfu. Pam cadw at y rheolau a gorffen hefo 50 ? Felly fe ychwanegais yn ddiweddar Robert Recorde (Herald Gymraeg 7 Mai 2014) sef y gwr a ddyfeisiodd y symbol eguals (=). Braf oedd derbyn awgrymiadau gan ddilynwyr ar Weplyfr a Thrydar a theimlo ein bod yn “creu’ mymryn o ddiddordeb ac yn cael dipyn o hwyl yn y broses.

            Cafwyd ambell sylw fod gormod o ddynion yn y rhestr, sydd ddim yn wir, ond fe atebais bob tro ein bod angen i’r darllewnwyr awgrymu enwau felly. Wrth reswm mae rhestr o’r fath yn creu “problemau” ac un o’r menywod cyntaf i ymddangos yn y rhestr oedd Buddug neu Boudicca, sef arweinydd y llwyth Iceni (o ardal Essex heddiw) yn ne-ddwyrain Lloegr. Y cwestiwn amlwg yw, os oedd yr “Essex-girl” yma yn Gymraes o gwbl ?

            Cytunwyd fod Buddug yn cael ei hawlio gennym, yn sicr yn Gelt cyn-Rufeinig ac oherwydd cerflun bendigedig J Havard Thomas, 1916 a ddadorchuddwyd gan neb llai na Lloyd George yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd mae hi ar y rhestr. Efallai fod Buddug ddigon adnabyddus ond sgwn’i faint ohonnom oedd yn gyfarwydd ac enw Elizabeth Hoggan o Aberhonddu ?

            Elizabeth Hoggan oedd y ferch gyntaf i dderbyn doeuthuriaeth mewn meddygyniaeth o Brifysgol Ewropeaidd a hi hefyd oedd y Meddydg benywaidd cyntaf i’w chofrestru yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arbenigodd mewn heintiau ac afiechydon plant a merched on reodd ganddi ddiddordeb mawr hefyd mewn maeterion yn ymwneud a hiliaeth.
 
 
 

            Rhaid, heb os na unrhyw amheuaeth, oedd cynnwys y ddwy chwaer Gwendoline (1882-1951)  a Margaret Davies (1884-1963) , Gregynog. Efallai fod y ddwy chwaer yn weddol amlwg, ond bydd unrhyw ymwelydd a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn gwerthfawrogi cyfraniad y ddwy yma i’r casgliadau. Gwendoline sydd yn rhoi llun ‘The Beacon Light’ Joseph Mallord William Turner i ni fel Cenedl. Gwendoline hefyd sydd yn gyfrifol am ‘Nocturne, blue and gold, St Mark’s Venice’ gan James Abbott McNeill Whistler.

            Margaret sydd yn gyfrifol am roi i’r genedl gerflun ‘ Sant Ioan yn Pregethu’ gan Auguste Rodin a Gwendoline ei chwaer sydd yn gadel cerflun Degas ‘Dressed Dancer, study’. A tlotach ein byd ynde, petae Gwendoline heb roi ‘La Parisienne’ gan Renoir i ni er cof a chadw yn ein sefydliad Cenedlaethol yn Cathays. Gall rhywun restru y gwaith celf a roddwyd i’r Genedl gan y ddwy chwaer yma. Cyfraniad amhrisiadwy. Am Turner yn unig rydym yn fythol ddiolchgar, anodd amgyffred gwir arwydddocad eu cyfraniad.

            Mae’r gantores opera Leila Megane yn ymddangos yn ein rhestr. Er tecwch, mae Cwmni Recordiau Sain wedi cyhoeddi CD o’i gwaith a mae cofeb lechan ar wal gorsaf yr Heddlu ym Mhwllheli felly dydi Leila ddim yn hollol anghof. Ond y ffaith ei bod wedi canu ym Mharis, Milan ac Efrog Newydd, hon y ferch fach Gymraeg, a dydi hi ddim yn enw cyfarwydd i’r mwyafrif. Dyna oedd y ffon fesur wrth lunio ein rhestr.
 
 

            Yr awdures Elaine Morgan, awdur ‘The Descent of Woman’ oedd un arall a ymddangosodd. Hi awgrymodd yn ei llyfr nad yw’r ferch yn israddol i ddyn gan herio’r pwyslais gwrywaidd ar y ddamcaniaeth esblygu. Rydym yn gyfarwydd a Darwin, llai cyfarwydd a Alfred Russell Wallace o Sir Fynwy (sydd heb ei gynnwys eto) ond rhaid awgrymu fod angen ystyried Elaine Morgan yn y drafodaeth ehangach yndoes !

            Er i’r rhestr gymeryd dipyn o amser i’w sgwennu, rhyw brosiect dow dow oedd hwn, roeddwn yn falch fod rhan helaeth o’r rhestr wedi ei lunio gan awgrymiadau a chyfranwyr. Felly rhywbeth democrataidd yn ei hanfod oedd hen, nid dewis personol. Ac er y cwynion ar weplyfr, mae marched Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y rhestr ac os unrhywbeth yn llawer mwy diddorol na’r dynion.

            Mae Ffion Hauge wedi crybwyll chwaiorydd Gregynog ar ei rhaglen hanfodol ar S4C a’r hyn sydd yn amlwg fod digon mwy o fenywod cryf, diddorol, blaengar, heriol, arloesol, radical i’w trafod ar pa bynnag lwyfan neu fforwm.
http://rhysmwyn.blogspot.co.uk/2013/11/top-50-un-sung-welsh-heroes.html
           

No comments:

Post a Comment