Tuesday 26 August 2014

Arddangosfa Meini Hirion Mȏn, Herald Gymraeg 27 Awst 2014.



 
 
Cafwyd trafodaeth ddiddorol, a gobeithio buddiol, ar Sadwrn olaf y Steddfod wrth i Myrddin ap Daydd a minnau drafod arwyddocad yr hen gywyddau am lysoedd y tywysogion. Yr hyn oedd dan sylw oedd sut mae’r dystiolaeth ysgrifenedig (cywyddau) yn gallu creu darlun ac ychwanegu at ein dealltwriaeth o fywyd dydd i ddydd yn llysoedd tywysogion Gwynedd - hyd at gyfnod gymeriadau fel Glyndŵr.

Yr Amgueddfa Genedlaethol oedd wedi trefnu’r drafodaeth yn dilyn sgwrs ddigon anffurfiol gafwyd gan sawl un ohonnom gyda Myrddin am yr un peth yn Llŷs Rhosyr yn gynharach eleni. Felly y bwriad oedd rhannu’r sgwrs, ehangu’r drafodaeth ac yn ystod ein sgwrs ar y Maes dyma grybwyll Castell Prysor ger Trawsfynydd.

Cytunwyd ein bod yn ‘cyflwyno’ Castell Prysor i’r gynulleidfa yn hytrach nac yn ‘trafod’ Castell Prysor a’r pwynt unwaith eto yw fod gwaith i’w wneud. Mae angen mawr am drosglwyddo’r wybodaeth am ein safleoedd hynafol a’n henebion i’r werin bobl. Y pwynt arall pwysig yw fod angen y cyd-destyn llawn a fod angen chwalu’r ffiniau rhwng dyweder archaeoleg a barddoniaeth. Hynny yw, dim ond drwy edrych ar y darlun llawn o ran y dystiolaeth y gallwn greu darlun mwy cyflawn.

Synnwyr cyffredin wrth reswm, ond braf oedd cael y cyfle i wyntyllu hyn, i gael rhannu llwyfan hefo’r Amgueddfa Gen’ a bardd fel Myrddin. Engraifft gwych o’r chawalu ffiniau yma yw’r arddagngosfa gyfredol yn Galeri, Caernarfon,  Meini Hirion Mȏn’. Rwyf wedi sȏn am yr arddangosfa yma o’r blaen ond y cefndir yw fod yr arlunydd Julie Williams ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cyd-weithio a disgyblion ysgolion Mȏn i ail edrych ar waith Harold Senogles ar feini hirion yr Ynys.
 

Bu Senogles wrthi yn cofnodi a thynnu lluniau ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a nawr mae Julie a phobl ifanc yr Ynys wedi bod allan yn tynnu lluniau, yn mesur a chofnodi a wedyn yn creu lluniau gyda paent. Cefais wahoddiad i agor y sioe yng nghwmni Roy Owen, Maer Caernarfon, a fedrwn’i ddim peidio a chanmol y prosiect i’r cymylau am y ffaith fod hyn yn cael pobl ifanc allan i’r wlad.

Tynnais goes ei fod yn bwysig fod pobl ifanc yn baeddu, yn cael dringo cloddiau ac yn cael baw gwartheg drostynt. Dyna rhan o’r hwyl, fe dreuliais wyliau Hâf fy ieuenctyd yn dringo cloddiau, yn disgyn dros waliau, yn mynd yn sownd mewn gwrychoedd – a hyn er mwyn cael hyd i faenhir neu fryngaer. Rhan anatod o’r antur oedd y baeddu a’r crafiadau.

Ond, yr ail bwynt pwysig am yr arddangosfa, yw’r ffaith fod celf ac archaeoleg yn rhannu’r un gwely. Eto, rhywbeth ddigon amlwg, ond ofnadwy o bwysig – y mwya da ni’n gallu cael gwared a’r ffiniau – gorau ȏll o ran meithrin, creu a datblygu diddordeb yn ein henebion.

Rhywbeth arall am yr arddangosfa ac am y lluniau yw eu bod yn ofnadwy o ‘lliwgar’. Soniais wrth Julie ar y nososn agoriadaol, does dim byd ‘tywyll’ yma, dim byd trwm – mae’r holl beth yn codi’r ysbryd a gobeithio yn ysbrydoli rhywun i fynd allan i grwydro.
 
Cwestiwn arall ofynais ar y noson oedd beth yw ein cysylltiad ni heddiw a’r meini hirion? Rwyf i yn rhywun sydd wrth ei fodd yn ymweld a meini o’r fath. Fe gâf bleser o dynnu lluniau ac mi gaf fwynhad o eistedd yna am oriau yn cael picnic ond dwi ddim yn siwr os yw hyn yn beth arferol?

Fe ysgrifenodd Wil Ifan o Fȏn ei lyfr ‘The Meini Hirion and Sarns of Anglesey’ ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn damcanaiethu fod y meini wedi eu gosod or linellau astronomegol. Yn wîr fe gyflwynodd y llyfr i Sir Norman Lockyer, y gŵr â awgrymodd fod Bryn Celli Ddu yn gorwedd ar linell codiad yr Haul ar hirddydd Hâf am y tro cyntaf. Erbyn heddiw wrthgwrs rydym yn cydnabod fod Lockyer yn iawn – roedd yn ddyn o flaen ei amser.

Mae treigl amser yn golygu fod pawb wedi anghofio am Wil Ifan o Fȏn, a cwestwin da faint o sylw mae ei ddamcanaiethu yn eu haeddu bellach. Er hyn mae’n lyfr diddorol, casgliadwy – ac un gafodd ei ail gyhoeddi yn ddiweddar.

Un arall sydd a’i farn am y cysylltiad a’r ‘hen bobl’ yw Julian Cope, awdur ‘The Modern Antiquarian’, ond eto, nid hawdd bob tro cyd weld a Julian chwaith. Chwyddwydr ddigon doniol sydd gan Julian, ond er gwaethaf  ei fwydro ‘Sgowsaidd’ o bryd i’w gilydd, rhaid cydnabod fod llyfr Cope wedi creu fwy o ddiddordeb yn y meini hirion nac unrhyw lyfr ‘sych’ archaeolegol heblaw am ‘Gwynedd’ Frances Lynch efallai.

Efallai mae’r “hen bobl” yw’r gair allweddol. Dyma ein hen hen hen gyn- deidiau, y bobl  oedd yma ar y tir rydym yn ei alw bellach yn Gymru dros 3,000 o flynyddoedd yn ȏl, ac yn agosach i 4,000 o flynyddoedd yn ȏl o ran y meini hirion – dyma gyfnod Cȏr y Cewri.

Efallai mae dyma’r ddadl hefo hyn ȏll, y cywyddau a’r tywysogion Cymreig, cyfuno celf a’r meini hirion a mynd allan i grwydro. Rydym yn cael cyfarfod a chyffwrdd a’r “hen bobl” a braint yw cael eu cyfarfod hyd yn oed os nad yn y cnawd. Y meni yw’r cyffyrddiad agosaf sydd ar gael bellach.

Rhaid cyfaddef fod yr Arddangosfa Meini Hirion yn ein cyfeirio ymlaen, dyma arwyddbost chwyldroadaol. Mae celf ac archaeoleg yn gariadon hapus, yn sgwrsio yn braf, yn cael hwyl – a mae’r lluniau mor lliwgar, hawdd dychmygu fod yr “hen bobl” yma yn gariadon yn eu harddegau !

No comments:

Post a Comment