Tuesday 19 August 2014

David Davies a Broneirion, Llandinam. Herald Gymraeg 20 Awst 2014.



 
 

Bydd unrhywun sydd yn gyfarwydd a theithio ar hŷd yr A470 yn gyfarwydd â cherflun David Davies yn Llandinam ond faint ohonnom sydd wedi dod allan o’r car i gael gowlg gwell? Wyddo’chi beth, dyna chi rhywbeth i mi ei wneud am y tro cyntaf yn ddiweddar, ac wrth sefyll wrth droed David Davies mae rhywun yn cael cyfle i werthafawrogi’r cerflun yn ei lawn ogoniant.

Ger llaw mae’r bont haearn dros Afon Hafren, campwaith adeiladol cyntaf David Davies a dyma werthfawrogi’r safle, a’r lleolioad, a’r dirwedd, am y tro cyntaf yn iawn. Gwybio heibio mae rhywun yn y car – ar frys – ar y ffordd i Gaerdydd neu ar y ffordd adre – byth amser. Roedd yr haul allan a chefais luniau da o’r bont.
 

Yr ail safle i mi ymweld a hi oedd y fynwent ac Eglwys Sant Llonio, mae’r eglwys yn hynod am y ffaith fod dwy bedyddfaen yno. Ond gwir bwrpas fy ymweliad y tro hwn oedd i weld cerrig bedd David Davies, Edward ei fab a’r chwiorydd Gwendoline a Margaret. Yn annisgwyl braidd mae bedd y chwiorydd ym mhen pella’r fynwent ac yn llawer mwy di-nod na cholofn eu taid.

 

Eisteddais yno am sbelan, a meddwl am faint o ddyled sydd ganddom fel Cenedl am eu casgliad o gelf a roddwyd yn eu tro i’r Amgueddfa Genedlaethol. Dyma ni felly yn Llandinam, ar droed ac yn cael cyfle i werthfawrogi y lle yn iawn, mae’n hyfryd yma er gwaethaf yr A470 a’r ceir yn rhuthro ac yn rhuo.

Ar ȏl talu teyrnged i’r ddwy chwaer mentrais i fyny am Broneirion, y tŷ a adeiladwyd gan David Davies a dyma sylwi ar arwydd fod croeso i ymwelwyr a fod modd archebu panad. Bendigedig, felly dyma archebu pot o de ac ymlacio yn un o’r cadeiriau esmwyth yn edrych dros dirogaeth David Davies.
 

Rhaid fod rheolwyr y ganolfan ‘Geids Cymru’ wedi amau fod gennyf ddiddordeb mawr yn y tŷ achos daeth gwraig ataf a gofyn os byddwn yn hoffi petae rhywun yn fy nhywys o amgylch y tŷ. Doedd ond un ateb i hynny, “byddwn wrth fy modd” a dyma chi wledd.

Cefais weld y meinciau a byrddau ‘Mouseman’, gyda’r llygod bach wedi eu cerflunio ar y coesau. Nid o gyfnod David Davies oedd y rhain ond rhywbeth roedd y Geids wedi brynu yn ddiweddarach. Cefais olwg ar y lloftydd - fo a hi, David a Margaret (roedd Margaret ei wraig o Lanfair Caereinion yn wreiddiol). Mae’r holl lofftydd bellach dan ofal yr 13 Sir felly mae pob ystafell ac arddull a lliw gwahanol. Gwenais wrth weld enw ar lofft cangen Meirionnydd o’r Geids – ‘Cader Idris’.

 

Rhaid  fod lofftydd David a Margaret wedi bod yn rhai ysblenydd yn eu dydd. Ond efallai mae’r uchafbwynt oedd cael gweld tŷ bach David Davies, son am foethus ac yn ȏl fy nhywysydd – roedd y sedd bren yn wreiddiol – dyma chi dŷ bach crand os welais i un erioed.

 

Ac yn olaf cefais weld y capel preifat yn y selar. Roedd rhain yn “credu go iawn” , yn llwyr ymwrthodwyr a byth yn gweithio ar y Sul.


Carreg fedd Gwendoline a Margaret

No comments:

Post a Comment