Wednesday 24 September 2014

Ail Symudiad. Herald Gymraeg 24 Medi 2014.


 

Awgrymais yn ddiweddar fod y llyfr ‘Stained Glass Windows in Welsh Churches’ gan Martin Crampin (Gwasg Y Lolfa) yn lyfr hanfodol i lyfrgell unrhywun sydd yn ymddiddori yn hanes egwlysi Cymru. Yn sicr mae’n lyfr hanfodol ar gyfer unrhywun sydd a diddordeb yn y ffenestri lliw ac yn ddiweddar cefais gyfle i sgwrsio gyda Lefi o’r Lolfa gan diolch iddo am gyhoeddi llyfr o’r fath.

Yr un mor bwysig, ond yn ymdrin a maes hollol wahanol, yw’r llyfr ‘Fflach o Ail Symudiad, Strori Richard a Wyn’, eto newydd ei gyhoeddi gan y Lolfa, sydd yn olrhain hanes y grwp pop Ail Symudiad o Aberteifi.

Dyma’r ddadl felly gan Mr Mwyn, mae ffenestri lliw eglwysi a’r grwp pop o Aberteifi yn rhan o ddiwylliant Cymru, yn rhan o’r dirwedd ddiwylliannol, yn rhan o’r cyd-destyn ehangach. Rhydd i bawb ei ddiddordebau, mae hynny ddigon naturiol, ond da chi peidiwch a di-ystyrru talpiau o hanes a diwylliant Cymru,

Pob tro y byddaf yn rhoi hanes eglwysi a ffenestri lliw ar fy blog ‘Thoughts of Chairman Mwyn’ mae’n boenus amlwg cyn llied sydd yn dewis eu darllen. Pob tro byddaf yn trafod Hanes Canu Pop Cymraeg mae cynulleidfa’r Herald yn gweiddi “Hei Mr Mwyn – da ni ddim yn dallt y pethau Canu Pop ’ma”. Ar y  pegwn arall, mae gwybodusion y SRG (y sin roc Gymraeg) yn gweiddi – “Hei Mr Mwyn - hen ddyn amherthnasol, da ni ddim am glywed gennyt”.

Felly does dim modd ennill. Rwy’n dallt fod y Byd Pop yn ddiethr i rhai (darllenwyr yr Herald) a rwyf yn deallt cystal a neb am yr angen am gael gagendor rhwng yr ifanc a’r hen o ran diwylliant pop ond awgrymaf yn garedig yma fod  gwybodusion y SRG yn gwrthwynebu fy hawl i fynegi barn cymaint ac anghytunant a’r farn honno. Yn sicr dyna fy argraff o ddarllen eu blogiau a’u sylwadau ar trydar.

Cefais wahaoddiad gan y Lolfa i gyfrannu pwt am Ail Symudiad ar gyfer y llyfr:

Fedra’i ddim dweud pam mor bwysig oedd ‘darganfod’ Ail Symudiad yn ol ym 1980. Fe welais y grwp ar rhaglen ‘Ser’ a sylweddoli fod grwp arall Cymraeg allan yna oedd wedi eu dylanwadu gan Punk a’r ‘Dȏn Newydd’. Roedd Ail Symudiad yn ‘cwl’ a dyma yrru archeb drwy’r post at gwmni Sain yn syth am y sengl ‘Ad Drefnu’ (Sain 76S).

Yn y dyddiau yna, roedd rhaid archebu recordiau drwy’r post, doedd dim siop recordiau yn agos i Lanfair Caereinion a fel arfer byddwn yn clywed am grwpiau Punk ar rhaglen John Peel ar Radio 1 neu rhaglen Stuart Henry ‘Street Heat’ ar Radio Luxembourg a wedyn gyrru am y recordiau drwy’r post at gwmniau fel Small Wonder.

Roedd Peel wedi bod yn chwarae Trwynau Coch a roeddwn yn ymwybodol o Jarman ond ar yr adeg yma doedddwn ddim yn ymwybodol o rhaglen ‘Sosban’ ar Radio Cymru felly dipyn bach o lwc oedd gweld Ail Symudiad ar Ser.

Felly dyma ddod ar draws artistiaid Aberteifi, Ail Symudiad hefo eu alawon gwych a wedyn Malcolm Neon yn gwthio’r ffiniau electronig. Fel dwi’n dweud – pwysig ! Dyma ddechrau o ddifri ar ddilyn grwpiau oedd yn canu yn y Gymraeg. Dyma sylweddoli fod yna bands perthnasol yn Gymraeg – doedd pob band Cymraeg ddim yn perthyn i’r clwb ‘Deinasoriad Denim’ fel y bu i Gruff Rhys eu disgrifio yn ddiweddarach !

Gwelais Ail Symudiad yn fyw am y tro cyntaf yn Aberystwyth a phenderfynais mae ‘Annwyl Rhywun’ oedd y gan orau erioed. Petawn yn gorfod gwneud trefniant o gan Ail Symudiad hefo Cor Meibion byddwn yn dewis ‘’Cymry am Ddiwrnod’. Petawn angen trefniant o gan gyda cerddorfa, hawdd fydda dewis ‘Lleisiau o’r Gorffennol’. Ydi Ail Symudiad yn gallu sgwennu ‘tiwns’ ?

Efallai gyda’r gan ‘Geiriau’ roedd modd rhagweld lle roedd Ail Symudiad yn anelu yn gerddorol. Fel y disgwyl, y stwff cynnar yw’r stwff gorau gennyf gan Ail Symudiad. ‘Garej Paradwys’ yw’r sengl orau a chollais ddiddordeb yn eu gyrfa ar ol hynny, ond mae Rich a Wyn o hyd wedi parhau i fod yn rhywun rwyf o hyd yn falch o dorri sgwrs a nhw. Yn ol ym 1980 roedd Ail Symudiad yn ofnadwy o bwysig i’r hogyn ifanc o Lanfair Caereinion.

 

No comments:

Post a Comment