Thursday 16 October 2014

Robert Harvey pensaer Neuadd y Sir Wyddgrug Herald Gymraeg 15 Hydref 2014.



 

Dyma ddod ar draws eitem newyddion ar wefan y BBC yn dyddio yn ȏl i fis Mai 2008. Dwi ddim yn cofio i mi sylwi ar y pryd, ond yr hyn oedd dan sylw oedd pwysigrwydd pensaerniol adeilad Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a fod y Cynghorydd Armstrong-Braun o Saltney Ferry wedi galw ar i Cadw ystyried rhestru’r adeilad. Beth ddigwyddodd sgwn’i?

            Byddaf yn mynd heibio’r adeilad hynod yma bob pnawn Dydd Mercher ar fy ffordd i Tŷ Pendre i gynnal gwersi Cymraeg i Oedolion. Wrth gyrraedd cyrion yr Wyddgrug a mynd heibio’r arwyddion am y Ganolfan Ddinesig, mae fframiau’r ffenestr concrit llwyd a’r adeilad  anferth concrît llwyd a du i’w weld drwy’r coed. Mae’n atgoffa rhywun o’r hen adeiladau Stalinaidd o Ddwyrain Ewrop.

            Y pensaer oedd Robert Harvey, ef oedd pensaer y Sir, a mae’r rhan gyntaf o’r adeilad yn perthyn i’r cyfnod hwnnw rhwng 1966-68. Fe agorwyd y neuadd gan y Dywysoges Margaret ym mis Mai 1968. Yr hyn sydd efallai fwyaf diddorol am y concrît yw fod hwn yn goncrît a oedd wedi ei baratoi yn barod felly roedd modd cludo darnau i’r safle yn barod i’w codi.

            O ran delwedd, mae’r adeiladwaith yn cynnig cysondeb a mae hynny yn amlwg iawn wrth gerdded o amgylch yr adeilad. Mae’r ffenestri yr un siap a’r un maint. Yr unig amrywiaeth mewn ffodd yw uchder y gwahanol adeiladau, rhai yn saith llawr a’r estyniad diweddarach yn dri llawr.

            Robert Harvey sydd hefyd yn gyfrifol am gynllunio Theatr Clwyd (1973-76) ar Llŷs Barn (1967-69). Mae brics coch Theatr Clwyd yn llai ‘brwnt’ o ran yr arddull  ‘brutalist’ ond yr un mor drawiadol ar y dirwedd. Os am fynd am dro, cymerwch gyfle i gael panad neu ginio yng nghaffi hyfryd Theatr Clwyd.

            Fel soniais yn ddiweddar, rwyf yn dechrau cysylltu a dilynwyr pensaerniaeth brwnt (Brutalist) ar y we ar safle mwyaf amlwg i weld lluniau o bob math o adeiladau concrît yw @BrutalHouse ar Trydar. Ceir nifer o luniau gan @BrutalHouse yn ddyddiol, y rhan fwyaf yn ne ddwyrain Lloegr a threfi amlwg fel Croydon a rhai o’r stadau tai cyngor mawr yn ne Llundain.

            Eto wrth chwilio ar y we dyma ddod ar draws dogfen yn dyddio o 1971 gan CLAW (Consortium-Local Authorities –Wales) o cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir, (Sir Fflint) yn yr Wyddgrug. Mae’n gwneud darllen diddorol a hefyd mae lluniau o adeiladau eraill a gynlluniwyd gan Robert Harvey, yn eu plith. Llyfrgelloedd Prestatyn a Llanelwy ac ysgolion Bodfari, Bryn Gwalia ac Ysgol Gyfyn Fflint. Un o’r pethau mae rhywun yn sylwi arno yn syth yw cyn llied o geir sydd o flaen Neuadd y Sir ym 1971 o gymharu a heddiw lle mae’r maes parcio yn orlawn.

            Ers dechrau rhoi lluniau o waith Robert Harvey i fyny ar trydar mae rhywun arall wedi cysylltu gyda lluniau o waith Eero Saarinen, sef adeilad Llys Genhadaeth yr Unol Daliethau yn Sgwar Grosvenor, Llundain. Mae’r tebygrwydd rhwng y ddau adeilad yn syfrdanol. Disgrifir gwaith Saarinen fel ‘neofuturistic’, ac yn ogystal ac adeiladau roedd Saarinen hefyd yn gyfrifol am gynllunio cadeiriau. Un o’i ddyfyniadau enwog oedd “The purpose of architecture is to shelter and enhance man’s life on earth and to fulfill his belief in the nobility of his existence,”.

            Wrth deithio adre o’r Wyddgrug, cyd ddigwyddiad od oedd clywed sgwrs gyda’r awdur a’r seico-ddaearyddwr Iain Sinclair ar BBC Radio 4 ac yntau yn son am y gwaharddiadau sydd mewn grym bellach o ran tynnu lluniau mewn mannau cyhoeddus (fel yr archfarchnadoedd) oedd yn eitha brawychus o ystyried sut treulias yr awr ddwetha.
 
 

 

           

 

No comments:

Post a Comment