Wednesday 26 November 2014

Plas Gwynfryn, Llanystumdwy, Herald Gymraeg 26 Tachwedd 2014


 

Fy hoff awdur (es) ar hyn o bryd yw Fiona MacCarthy, rwyf newydd gwblhau darllen ei llyfr am Edward Burne-Jones, y cyn-Raffaelydd olaf, a newydd ddechrau ei llyfr ‘William Morris, A Life of our Time’. Wrth son am fywyd cynnar William Morris (bardd, cynllunydd, arlunydd) mae hi’n disgrifio Morris fel hyn “even at this stage Morris was temperamentally suspicious of the mainstream”  gan ychwanegu mai’r ffordd ymlaen i Morris oedd “the maverick instinct of reforming by uspestting”.

Ac wrthgwrs dyma lawenhau fod eraill, hyd yn oed yn y cyfnod Fictoraidd, wedi sylweddoli fod rhaid “chwalu er mwyn creu” fel byddai Francis Bacon a Malcolm McLaren mor hoff o’n hatgoffa. Weithiau rhaid saethu’r taflegarau diwylliannol o’r tu allan os yw’r tir canol yn amharod i dderbyn fod angen symud pethau ymlaen. Wrth ddarllen hanes Morris, rhaid cyfaddef fod “Croeso i Gymru” yn mynd drwy’n meddwl, a hyn yn y Gymru sydd ohonni yn 2014, os da ni’n gallu derbyn / darlledu / mwynhau ‘Horni’ (S4C) mae rhwyun yn gofyn, fel gwnaeth Huw Jones unwaith mewn cân “lle aethom ni o’i le?”

Ac er fy holl blogio a sgwennu am Sir Basil Spence druan, does neb wedi ymateb, neb yn poeni am ei goncrit yn Traws. Sefyllfa debyg oedd hi ym 1877 wrth i William Morris a’i gyfeillion lansio maniffesto ar gyfer y Society for the Protection of Ancient Buidlings. Eto am weithred mor anarchaidd-gelfyddydol gan Morris, rhaid wrth faniffesto sydd yn ei hyn yn darllen fel gwaith o gelf.

“It is for all these buildings, therefore, of all times and styles, that we plead, and call upon those who have to deal with them, to put Protection in the place of Restoration, to stave off decay by daily care, to prop a perilous wall or mend a leaky roof”

Er nad oes ymateb wedi bod i Basil Spence, cafwyd ymateb i erthygl gennyf rai misoedd yn ȏl yn son am ddymchwel yr adeilad arddull ‘Celf a Chrefft’ yng Nghaernarfon, sef hen ysbyty Bryn Seiont – efe a ddiflannodd heb unrhyw wrthwynebiad fel y gwnaeth concrit ysblennydd adeilad ATS. Llawenhawn nawr o gael archfarchnad arall yn Nhre’r Cofis.

Cefais nodyn i gymeryd golwg ar sefyllfa Plas Gwynfryn ger Llanystumdwy. Efallai fod y nodyn fwy o “tip-off” fod angen dwyn sylw at gyflwr truenus yr adeilad rhestredig yma. Fy sefyllfa i gyda’r Herald Gymraeg wrthgwrs yw colofnydd, rwyf yn sgwennu darnau gyda barn am hyn a llall, ond nid newyddiadurwr mohonnof. Does dim yr awdurdod na’r grym gennyf i fynd ar ol storiau caled newyddiadurol, felly efallai fod hon yn stori i’r Byd a’r Bedwar neu un o ohebwyr y Daily Post.

Ond fel rhwyun sydd a diddordeb mawr yn y dirwedd hanesyddol Gymreig, mae gweld adeilad yn diriwio, yn amlwg yn rhwybeth  sydd yn fy nhristhau. Efallai caf gyfle i godi sefyllfa Plas Gwynfryn yng nghyfarfod nesa CBA Cymru/Wales, byddwn yn fwy na bodlon gwneud hynny.

Y bennod ddiweddara yn hanes yr hen blas yw fod tan wedi bod yno eto ym mis Ebrill 2014, fe all hwn fod wedi ei danio yn fwriadol, digon o waith fod adfail yn mynd ar dan yn naturiol. Gallwch ddarllen yr hanes ar wefan newyddion y BBC. Ond yr hyn sydd efallai mwyaf od yw’r distawrwydd llethol am Blas Gwynfryn, hen gartref i’r aelod seneddol Hugh Ellis-Nanney yn ei ddydd.

Bu rhyw fath o alw am yr angen am gadwraeth brys yma yn 2011 wrth i’r grwp Save Britain’s Heritage adnabod Plas Gwynfryn fel un o naw hen dai Cymreig oedd dan fygythiad difrifol.

Dyma ddechrau felly drwy ofyn cwestiwn, beth nesa i Blas Gwynfryn ?
 

No comments:

Post a Comment