Thursday 13 November 2014

Sir Basil Spence, Atomfa Trawsfynydd, Herald Gymraeg 12 Tachwedd 2014



Rwyf newydd orffen darllen llyfr o’r enw ‘Phoenix at Coventry, The Building of a Cathedral – by its Architect Basil Spence’. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1962, blwyddyn fy ngenedigaeth, a wyddoch chi beth, trwy ddamwain cawsom hyd i gopi o’r llyfr ar silffoedd llyfrau ail-law caffi Machinations yn Llanbrynmair. I’r rhai ohonnom sydd yn or-gyfarwydd ar A470, y caffi bach hynod yma, yn hen neuadd y pentref Llanbrynmair, yw’r cafffi rydym yn ei werthfawrogi fwya ar y daith hir o’r gogledd i’r de (neu’r ffordd arall).

Dyma chi lyfr sydd yn ysbrydoli rhywun, nid yn unig oherwydd gweldigaeth pensaerniol Spence a’r modd mae’n cyfuno’r hen a newydd yn Coventry drwy gadw’r hen furiau a chwalwyd gan fomiau’r Almaenwyr ond hefyd am y dadleuon a’r rhesymeg mae’n gyflwyno am y broses a’r dewisiadau mae yn ei wneud.

Cawn bennod hynod ddifir am y gystadleuaeth mae Spence yn geisio ym 1951 gan feddwl nad oedd ganddo unrhyw obaith o ennill y comisiwn a mae agwedd ddihymongar Spence yn parhau drwy’r llyfr. Rhywbeth arall oedd yn amlwg yw fod Spence wedi ceisio ei orau i roi pob sylw a phob gofal i’r agwedd grefyddol yn y gadeirlan. Nid gosod pensaerniaeth ar ben crefydd mae Spence, ond yn cyfuno’r ddau beth gyda gofal manwl.

Pennod arall hynod ddiddorol yw’r un sydd yn ymdrin a’i ymweliadau drosodd i Ffrainc i ddwyn perswad ar Graham Sutherland i dderbyn y comisiwn i greu y tapestri anferth o Grist sydd i’w osod yn y gangell. Nid yn unig felly, llyfr yn disgrifio’r bensaerniaeth sydd yma, ond llyfr yn olrhain y cymeriadau fel Sutherland ac wrthgwrs Jacob Epstein sydd yn gyfrifol am y cerflun o Sant Mihangell a’r Diafol ar wal y gadeirlan newydd.

Chwerthais yn uchel wrth ddarllen yr hanes sut bu i’r Pwyllgor Adlunio wrthwynebu penodi Epstein “but he’s a Jew” a Spence yn eu rhoi yn eu lle, “so was Christ”. Epstein wrthgwrs sydd yn gyfrifol am y cerflun o Grist yng nghadeirlan Llandaf (y cysylltiad Cymreig). Ond i droi at y cysylltiad Cymreig a Basil Spence, y cysylltiad wrthgwrs yw Atomfa Trawsfynydd.

Rwyf wedi cyfeirio at gwaith concrit Spence yn Traws sawl gwaith yn ddiweddar a fel y soniais, rwyf yn cael ymateb ddigon negyddol wrth drafod gwaith Spence. Daw’r gwrthwynebiad o gyfeiriad y rheini a wrthwynebai ynni niwclear, dallt hynny, ond son am y bensaerniaeth wyf i nid y da neu’r drwg am ynni niwclear.

Y gobaith oedd cael trefnu ymweliad a’r atomfa i gael gweld gwaith Spence ac hefyd i drafod y cynlluniau am y dyfodol. Beth yn union fydd yn digwydd i’r adeiladwaith a phensaerniaeth Spence wrth i’r lleoliad gael ei dirweddu. Felly dyma gysylltu a Magnox PR yn y gobaith o drefnu ymweliad a sgwrs.

Ond siomedig iawn oedd yr ymateb. Ni fydd gwahoddiad yn cael ei roi meddant a theimlais rhywsut fod yr ymateb yn un swta a braidd yn ddi-sylwedd. Dyma a gefais Yr ydym yn gweld nifer fawr o geisiadau am ymweliadau safle ar draws ein holl safleoedd. Mae angen parhau i ganolbwyntio ar gyflawni rhaglen waith y safle ac felly, mae'n ddrwg gennai, ond na fydd yn briodol ar hyn o bryd i gynnal y math yma o ymweliad”.

Efallai eu bod yn ofni ymgyrch un dyn i achub concrit Basil Spence. Efallai nad yw PR yn cyfri iddynt, mae’n amlwg nad ydynt eisiau nac angen sylw yn yr Herald Gymraeg. Rwyf yn siomedig achos rwyf wirioneddol a diddordeb sgwennu mwy am Spence a’r cysylltiad Cymreig. Yr unig beth gefais gan Magnox oedd linc ar gyfer gwefan y Comisiwn Brenhinol. Ella bydd rhaid bodloni ar ymweliad a Choventry felly i sgwennu am y gadeirlan, mi wneith drip tren bach difyr.

 


 

No comments:

Post a Comment