Wednesday 3 December 2014

Call of Duty yn Gymraeg, Herald Gymraeg 3 Rhagfyr 2014


 


A finnau bellach yn llwyr allan o’r Byd Pop Cymraeg, efallai maddeuwch i mi am golofn yn rhoi fy sylwadau ar gyflwr diwylliant poblogaidd Cymraeg (ac ambell beth Cymreig). O’r tu allan felly, yn wrthrychol, dyma deimlo fod aeddfedrwydd wedi disgleirio fel haul ysblennydd dros y Byd diwylliant poblogaidd Cymraeg a Chymreig yn ddiweddar.

Dros y flwyddyn neu ddwy ddwethaf mae sawl cân wedi creu argraff fawr arnaf. Meddyliaf er engraifft am y gân ‘Dere Mewn’ gan y grwp Colorama, cân bop ysgafn, ond anodd ei churo o ran pa mor afaelgar yw’r alaw. Clywais hi yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli a chefais i ddim fy siomi gan berfformaid byw Carwyn Ellis.

Cân arall amlwg sydd heb ei hail (Saesneg y tro yma) yw ‘Week of Pines’ gan Georgia Ruth. Dyma chi gân o’r radd uchaf, heb os mae’r gân yma yn ddarn o gelf, yn bop perffaith a petae Georgia Ruth yn ymddeol fory a byth yn cyfansoddi eto byddai ei chymwynas a diwylliant Cymreig yn un enfawr.

Ac yn ddiweddarach eleni dyma ‘Chwyldro’ gan Gwenno. Electronica yn Gymraeg, popeth yn Gymraeg, mae unrhyw beth yn bosib bellach. O’r curiad cyntaf mae’r gan yn hudo rhywun. Fel basydd (mewn bywyd arall) mae rhyddm y bass yn sefyll allan, yn gyrru’r cerbyd, yn hypnotaidd a fe lwyddodd Gwenno i ddenu Pat Datblygu allan o’i hymddeoliad i berfformio ar sesiwn ar gyfer C2 yn ddiweddar.

Ac i gloi y ganmoliaeth, dyma chi ‘Torri’n Rhydd’ oddi ar CD newydd Elin Fflur. Er mor dalentog yw, ac a fu Elin erioed, mae’r gân yma gyda bît Motown yn dangos Elin ar ei gorau eto. Anodd credu fod llais Elin yn gallu aeddfedu, fod modd i Elin ragori ymhellch, ond gyda’r gân yma byddwn yn awgrymu fod Elin wedi cymeryd cam arall ymlaen. Dyma chi gantores neu leisydd sydd bellach yn gallu dal ei thir gyda unrhywun un arall o Gymru (dwi’n awgrymu cystal a Shirley a Mary felly).

Ddylia rhywun ddim dweud wrth artist beth i’w wneud, ond os caf fod mor hu ac awgrymu, albym o ganeuon mewn arddull Motown gan Elin Fflur …….

Felly fel mae’r safon yn rhagori, (ddim am y tro cyntaf wrth reswm os cofiwn am Jarman, Stevens, Heather, Big Leaves, Plethyn, Sian James a llawer llawer mwy)

Yn ddiweddar bu i mi gyflwyno cyfres o sgyrsiau i fyfyrwyr ysgol am sut mae agweddau tuag at y Gymraeg wedi newid dros y blynyddoedd. Er mwyn cadw rhyw fath o ffocws ar fy sgwrs dyma ganolbwyntio ar y Byd Pop Cymraeg gan ddechrau ym 1967 gyda’r Blew – sef y tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn “cŵl”. (Ond beth am Bob Roberts Tai’r Felin ?)

Wedyn dyma neidio i 1977 a’r Trwynau Coch, ffefrynnau’r diweddar John Peel – eto y Gymraeg mor “cŵl” a chyffrous. A fel petae hyn yn batrwn fesul degawd, dyma grybwyll 1987 a’r Cyrff, y grwp o Lanrwst, o bosib y grwp gyda’r steil gwallt a’r steil dillad gorau welodd Cymru erioed. Erbyn 1997 roedd ganddom “girlbands” Cymraeg a dyma ddangos lluniau o TNT ar glawr blaen y cylchgrawn ‘Redhanded’ – y genod yn “noeth” yn y gwely - dyma “rhyw” yn y Gymraeg.
 
 
Ond heddiw, lle da ni’n mynd ? Wrthgwrs mae grwpiau fel Yr Ods, Plu, 9Bach yna i’w darganfod a’u mwynhau ond awgrymais fod angen mwy na canu pop bellach ar gyfer y genhedlaeth nesa. Chwarae X-Box mae’r genhedlaeth ifanc gyda cerddoriaeth yn gefndir i’r gemau cyfrifiadurol. Dyna’r her nesa , mae angen ‘Call of Duty’ a ‘Grand Theft Auto’ yn Gymraeg. Cytuno neu ddim mae angen Popeth yn Gymraeg os am gadw’r Iaith yn berthnasol

No comments:

Post a Comment