Tuesday 9 December 2014

Lucian Freud ac Ysgol Uwchradd Caereinion, Herald Gymraeg 10 Rhagfyr 2014


Chwith i dde: David Dawson, Sian James, Rhys Mwyn.
 

Golygydd Economeg y BBC yw Robert Peston, a digwydd ei glywed wnes i yn ddiweddar yn sgwrsio ar y radio am ei elusen ‘Speakers For Schools’. Rhan o’r syniad yw fod cyn-ddisgyblion yn dychwelyd i roi sgwrs yn eu hen ysgol gyda’r bwriad o ysbrydoli’r genhedlaeth nesa i wneud yn dda neu i fynd amdani – i lwyddo mewn rhyw ffordd. Ond mae rhestr faith ganddo hefyd o siaradwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r elusen, yn eu plith engreifftiau fel  Danny Alexander, Paul Boateng, Sayeeda Warsi ac Ed Balls o’r byd gwleidyddol.

Yng Nghymru mae cynllun sydd yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru o’r enw ‘Dynamo’ sydd yn canolbwyntio ar ysbrydoli pobl ifanc i fentro yn y byd busnes gan gynnal gweithdai mewn ysgolion a cholegau gan ‘fodelau rol’ o’r byd busnes Cymreig.

Ond fe waneth syniad Peston ddod i’m meddwl bythefnos yn ȏl wrth i mi fod yn rhan o noson yn Institiwt Llanfair Caereinion i godi arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Roeddwn yno i gynnal sgwrs hefo’r arlunydd David Dawson, yn bennaf am ei gyfnod yn gweithio gyda’r arlunydd enwog Lucian Freud. Felly rhwy noson “yng nghwmni” David Dawson oedd hon, fi fel holwr a dros gant o bobl wedi troi allan i gefnogi ac i wrando.

Yr hyn oedd yn ofnadwy o ddiddorol am y noson (orlawn) oedd fod modd rhannu’r gynulleidfa yn syth i’r Cymry Cymraeg (reoddwn yn eu hadnabod) a’r di-Gymraeg, nifer yn fewnfudwyr (rioed di gweld nhw o’r blaen). Peth da yw hyn, neuadd bentref yn orlawn yn enw’r Eisteddfod a chelf yn pontio rhwng y ddau ddiwylliant.

Peth da hefyd yw gweld y di-Gymraeg yn mentro, neu yn agosau, tuag at y Byd Cymraeg (Eisteddfod) er mewn gwirionedd tybiaf mae’r drafodaeth am Lucian Freud oedd wedi eu denu. Ond dyna fo, dyma ddangos iddynt fod yna groeso, nad yw’r ‘pethe’ Cymraeg yn hollol styffi ac elitaidd. Croesawf hefyd y ffaith fod Lucian Freud yn cael ei drafod yn y Gymraeg – mae’n gweithio ddwy ffordd. Mae’r Byd Cymraeg ddigon agored (aeddfed) i gynnal sgwrs ddwy-ieithog am Lucain Freud i godi arian i’r Steddfod.

Bron a bod bydda rhywun yn awgrymu fod y trefnwyr wedi bod yn radical iawn yma, ond ar y llaw arall dyma lwyddo hefyd yn y nod o godi arain tuag at Eisteddfod Meifod. Pawb yn hapus. Da o beth.

Dawson yw un o ffotograffwyr y llyfr hyfryd  Freud at Work’ ar y cyd a Bruce Bernard, gyda Dawson yn gyfrifol am hanner y lluniau. Detholiad o’r lluniau yn y llyfr yma oedd yn cael eu dangos yn y sgwrs yn Llanfair Caereinion. Cychwynais drwy holi David sut y bu iddo gyfarfod a Lucian i ddechrau a dros yr awr nesa dyma fynd am dro drwy bortffolio David o luniau o Freud wrth ei waith. Cafwyd ychydig o hwyl wrth drafod llun Lucan Freud o’r Frenhines a David yn ddiplomat rhagorol er fy nhuedd i dynnu coes.

Diwddglo’r drafodaeth oedd dros ddwsin o gwestiynau neu sylwadau gan y gynulleidfa. Rydym yn son yn aml fod nifer y cwestiynau yn aml yn adlewyrchiad teg o sut fath o hwyl gafodd y gynulleidfa ar y noson. Dim cwestiwn o gwbl yn gyfystyr a diflas – adre a ni, ond anarferol iawn yw cael gymaint o gwestiynau neu sylwadau ac y gafwyd y noson hon yn Llanfair Caereinion.

Llywydd y noson oedd Myfanwy Alexander, ac yn ystod y toriad hanner amser, fe ‘m hatgoffwyd i wneud sylw o’r ffaith fod y tro ohonnom ar y llwyfan yn gyn ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caereinion. Yn sicr roedd yn braf gallu dweud hyn, fod y tri ohonnom yn gyfoedion yn Ysgol Uwchradd Caereinion. Wrth edrych allan ar y gynulleidfa doedd dim modd osgoi presenoldeb y gantores werin Sian James. Fy nisgrifiad i o Sian bob amser yw cantores (telynores) gyda mwy o dalent yn ei bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau gyda pedwar aelod.

Ac wrth feddwl yn ȏl am fy nyddiau ysgol, cofiaf yn iawn wrnado ar Linda Gittins (Linda Plethyn) yn canu mewn gwasanaeth neu steddfod ysgol, ei llais mor glir ac er cyn llied roeddwn yn ddeall am gerddoriaeth cyn dyfodiad Punk Rock ym 1977 roedd yn amlwg fod Linda yn un arall hefo mwy o dalent yn ei bys bach na’r Sex Pistols a’r Clash gyda’u gilydd.

Soniodd rhywun ar y noson fod y ddarlledwraig Bethan Elfyn yn gyn-ddisgybl. Cofiwch mae Bethan llawer fengach na ni felly fyddwn i ddim callach os bu hi yn yr ysgol ond yr hyn sydd yn amlwg yw fod cymaint o dalent wedi dod o’r ardal, wedi mynd drwy’r ysgol. Cofiwch ar y noson pwysleisias nad oeddwn yn ystyried fy hyn un un o’r criw disglair yma. Doedd y di-Gymraeg ddim yn chwerthin ar fy jocs sal a’r Cymry Cymraeg ddigon parod i fynegi barn am safon y jocs ar ddiwedd y noson. Dwi ddigon ‘tyff’, mae angen trio codi gwen yndoes !

Deffrais y bore wedyn yn fy ngwelu yn ȏl yn Sir Gaernarfon gyda’r teimlad hapus yna oedd mor gyfarwydd ar ȏl cyngherddau da gyda’r Anhrefn. Y wefr a’r balchder fod hi wedi bod yn noson dda, fod y gynulleidfa wedi mwynhau – a dyna’r peth pwysica. Gyrrais neges destyn i David Dawson i ddweud fod hon wedi bod yn noson arbenig. Fe gafwyd croeso cynnes gan bobl Maldwyn i’r cyn ddisgyblion ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny !

No comments:

Post a Comment