Wednesday 17 December 2014

Mwy am Blas Gwynfryn, Herald Gymraeg 17 Rhagfyr 2014.




Braf iawn yw derbyn ymateb i’r hyn mae rhywun yn sgwennu (neu ei ddweud). Yn ddiweddar bu i’r cylchgrawn Golwg ail godi’r drafodaeth am adeiladwaith Sir Basil Spence yn Atomfa Trawsfynydd ond fel esboniodd Magnox, bu i Cadw benderfynu peidio rhestru’r adeiladwaith yn ȏl yn 2010 er fod y gerddi a gynlluniwyd gan Sylvia Crowe wedi eu rhestr.

Er i Golwg yn amlwg ofyn am ymateb gan Magnox, unwaith eto cafwyd yr ateb tila nad oes modd derbyn pob cais i ymweld a’r safle “am resymau diogelwch”. Yr oll ofynais amdano oedd cael ymweliad er mwyn sgwennu erthygl am bensaerniaeth Spence. Fel y dywedais yn flaenorol ar y mater hyn – rwyf yn hynod siomedig gyda agwedd Magnox.

Does fawr o bwrpas trafod ymhellach, gwrthodwyd unrhyw gais i gadw pensaerniaeth Spence yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn 2008-2009 felly mater o amser yw hi nawr cyn bydd y safle yn cael ei dirweddu a choncrit Spence yn diflannu i bob pwrpas.

Cafwyd ymateb llawer mwy positif i fy erthygl am Blas Gwynfryn, Llanystumdwy gan i mi dderbyn galwad ffȏn gan Sian Davies, fferm Gwynfryn, yn rhoi gwahoddiad draw i mi gael golwg agosach ar y plasdy, y gerddi a’r adeiladau cysylltiedig ar y fferm.

Fel yn achos Atomfa Trawsfynydd, nid y fi yw’r cyntaf i leisio pryderon am adeilad hanesyddol sydd mewn peryg neu sydd yn dirywio yn gyflym. Bu ychydig o drafod 2010 / 2011 ynglyn a chyflwr Plas Gwynfryn. Yn ȏl y son does dim wedi digwydd ers hynny, a gan fod y tȏ wedi diflanu, mae synnwyr cyffredin yn dweud fod yn rhaid fod yr adeilad wedi dioddef oherwydd glaw / dŵr hyd yn oed yn y ddwy neu dair mlynedd dwetha.

Y pryderon yma a fynegwyd gan rai mewn gohebiaeth gyda Chyngor Gwynedd sydd wedi arwain at ambell un yn gyrru ebyst atof yn gofyn i mi oleiaf drio dod ac achos Plas Gwynfryn i sylw ehangach. Y broblem fawr os wyf yn dallt yn iawn gyda Plas Gwynfryn yw fod y buddsoddwyr o’r 1980au mwy neu lai wedi gadael i’r plasdy ddirywio ers hynny. Wrth siarad hefo pobl leol, yr argraff yw nad oes neb yn siwr pwy sydd yn gyfrifol am y plas bellach.

Yr hyn sydd yn sicr, ac yn hollol amlwg, yw nad oes unrhyw un, neu gorff na sefydliad i weld yn cymeryd cyfrifoldeb. Canlyniad colli tȏ yw bydd dwr glaw yn treiddio drwy’r waliau. Rhowch 10-20-30 mlynedd arall iddi (neu lai) a bydd rhai o’r tyrrau yna ar Blas Gwynfryn yn debygol o fod yn sigledig os nad yn dymchwel. Does ond rhaid cymharu dirywiad Plas Pren, Hiraethog – yn fy oes i, mae Plas Pren wedi bron llwyr ddiflannu – dim ond gaelodion y llawr cyntaf sydd bellach yn sefyll.

Y cwestiwn felly, yw beth, os unrhywbeth, ddylid ei wneud nesa? Pam mor bwysig yw’r hen adeiladau yma i ni fel Cymry? Beth bynnag yw’r ateb, cefais bnawn hyfryd yng nghwmni Sian, Gwynfryn, yn cael esboniad o’r gwahanol adeiladau ar y fferm. Syndod er engraifft oedd cael deall fod un adeilad ar un adeg wedi bod yn safle cynhyrchu nwy ar gyfer y plasdy.

Pleser or eithaf oedd cael crwydro’r hen erddi caeedig gyda Sian, gan gael cipolwg ar yr hen daigwydr, a’r adeilad brics coch gyda tȏ sinc lle bydda’r garddwr wedi cadw ei bethau dybiwn i. Wrth wneud ychydig mwy o ymchwil deuthum o hyd i safle we welshruins.co.uk lle mae nifer o sylwadau gan rai sydd yn cofio’r plas pan roedd yn westŷ dan ofal rhyw Mr Cotterrill, yn ȏl y son hyrwyddwr bocsio (a chyfaill i’r Krays yn ȏl  stori arall).

 

 

No comments:

Post a Comment