Wednesday 7 January 2015

Herald Gymraeg 7 Ionawr 2014 Pop Gwleidyddol


 
O ran siarad cyhoeddus, bu 2014 yn flwyddyn brysur gan i mi gynnal oddeutu 35 o sgyrsiau ar gyfer cymdeithasau a mudiadau dros y flwyddyn. Mae hynny bron yn gyfystyr a rhoi sgwrs yn wythnosol drwy’r Hydref, Gaeaf a’r Gwanwyn a wedyn cael seibiant o’r siarad dros yr Haf ar gyfer y tymor cloddio archaeolegol. Roedd 90% o’r sgyrsiau yma yn trafod archaeoleg, a’r 10% arall yn trafod diwylliant Cymraeg. Un sgwrs / drafodaeth yn unig oedd yn benodol ar y Byd Pop Cymraeg (gweler isod).

Yr unig “ddigwyddiad” i mi gymeryd rhan ynddo dros yr Hâf o ran rhoi sgwrs oedd yr Eisteddfod lle cymerais ran mewn dwy drafodaeth, un yng nghwmni Myrddin ap Dafydd ar ‘y tywysogion Cymreig’, a oedd yn bleser, a’r llall ar ‘Ddegawdau Roc’ oedd yn unrhywbeth ond pleser. Yn wir ar ȏl y “drafodaeth” ar Ddegawdau Roc penderfynais mai hyn fydd y tro olaf byddaf yn fodlon trafod y Byd Pop Cymraeg yn gyhoeddus.

Y broblem fawr gyda’r digwyddiad yng Nghaffi Maes B heblaw am y diffyg trefn cyffredinol a’r ffaith fod y digwyddiad yn hwyr yn dechrau, oedd methiant y “cadeirydd” i gadw unrhyw drefn ar amserlen y drafodaeth gyda’r canlyniad fod pawb ar y panel yn cael dweud ei bwt ond doedd dim amser ar ȏl ar gyfer unrhyw drafodaeth. Beth yw pwrpas digwyddiad o’r fath heb y drafodaeth wedyn?

Fe ddywedwyd pethau digon gwirion gan rai o’r panelwyr eraill, y peth a’m gwylltiodd mwyaf oedd yr awgrym mai dim ond cerddoriaeth yw’r holl beth – a doedd dim cyfle i egluro fod cerddoriaeth Pop Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na hynny i rhai ohonnom. Yn sicr i mi, yn fy arddegau, roedd Geraint Jarman a Trwynau Coch yn bwysicach na “cerddoriaeth”, roedd artistiad o’r fath hefyd yn gwneud y Gymraeg yn “cwl” a pherthnasol a doedd yr artistiad yma ddim ofn bod yn wleidyddol.

Annisgwyl felly oedd derbyn gwahoddiad gan Gymdeithas yr Iaith i gymeryd rhan mewn panel i drafod “Hybu’r Chwyldro drwy’r Sin Roc Gymraeg” ar y 10fed o Ionawr yn Aberystwyth. A dweud y gwir roeddwn yn falch o dderbyn y gwahoddiad. Dydi fy mherthynas i a’r Gymdeithas ddim wedi bod y gora, rwyf wedi eu beirniadu a’u herio yn gyson dros y blynyddoedd. Fy nadl i bob amser yw fod rhaid gofyn cwestiynau, rhaid herio, rhaid peidio cyd-ymffurfio – a rhaid i ni allu gwenud hynny yn y Byd Cymraeg a Chymreig neu dydi’r chwyldro ddim werth ei gael.

Dydi hi ddim mor hawdd cwestiynu a herio yn y Byd bach Cymraeg, mae rhywun siwr o ddod wyneb yn wyneb a rhywun sydd newydd gael ei herio (ar Faes yr Eisteddfod neu lle bynnag) ond argian dan, os na chawn fynegi barn, fe gewch gadw’ch chwyldro (fel y chips chwedl T Rowland Hughes). Rydym yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb fel colofnwyr, i wneud yn sicr fod barn yn cael ei fynegi, fod y buchod sanctaidd yn cael cic nawr ac yn y man.

Edrychaf ymlaen felly at ddigwyddiad y Gymdeithas penwythnos nesa. Ers Y Blew ym 1967 mae artistiad roc Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na “cerddorion”. Fe all rhywun ddadlau fod Pop Cymraeg ar ei orau pan yn wleidyddol, hyd yn oed hefo ‘g’ fach. Petae’r peth am y gerddoriaeth yn unig, byddai dim ots am y geiriau – a does dim angen atgoffa’r darllewnyr o ddawn a sgiliau’r beirdd answyddogol yn y maes pop.

O David R Edwards i Marc Roberts (Cyrff / Catatonia), o Stevens i Jarman / Huw Jones / Dafydd Iwan pwy all ddadlau nad yw’r caneuon pop Cymraeg gorau yn rhai gwleidyddol.
 

No comments:

Post a Comment