Wednesday 21 January 2015

Maen Achwyfan Herald Gymraeg 21 Ionawr 2015.


 

Yn ei lyfr ‘Yn Ei Elfen’ mae’r athro Bedwyr Lewis Jones yn rhoi tudalen a hanner gyfan i drafod tarddiad, neu ystyr, Chwitffordd, sef y pentref rhwng Prestatyn a Threffynnon  (dyma’r pentref lle’r oedd cartref yr enwog Thomas Pennant wrthgwrs). Mae’n debyg mai Chwitffordd sydd yn gywir wedi’r cyfan yn y Gymraeg er i hyn ar un adeg arwain at gryn anghytuno. Dadl Bedwyr oedd, fod unrhyw ymdrechion i Gymreigio yr enw ymhellach, sef Rhydwen, yn anghywir gan fod y gair Normanaidd eisoes wedi ei Gymreigio i Chwitffordd.

            Fel rwyf wedi son wythnos yn ȏl yn yr Herald, mae’r busnas enwau llefydd yma yn faes cymhleth iawn, ac yn un lle mae hi mor hawdd gwneud cangymeriad, felly rwyf am aros yn y maes archaeolegol am weddill y golofn. A throi felly at y faen hynod iawn honno sydd ger Chwitffordd ac yn dwyn yr un enw ‘Maen Achwyfan’. Wrth ail ymweld ar faen yn ddiweddar dyma ryfeddu eto at ei maint, pam mor drawiadol yw’r heneb yma.

Croes Gristnogol yn dyddio o’r 10 – 11fed ganrif sydd yma, croes wedi ei gwneud o un faen ac yn sefyll hyd at 3.4medr o uchder. Fel dywedais – trawiadol. Os yw ei maint yn drawiadol, dydi hynny ddim yn ein paratoi am y cerfiadau clymog sydd yn ymestyn dros ddwy ochr y goes. Er fod rhai o’r cerfiadau yma, ddigon naturiol, wedi gwisgo ychydig drwy fod allan yn y tywydd dros y canrifoedd mae’r patrymau clymog yn parhau yn amlwg.

Os cewch yr haul yn y lle cywir, mae’r patrymau yn amlwg iawn a fedrith rhywun ond ryfeddu at gelfyddyd yr holl beth. Ar ben y goes mae croes mewn cylch ac wrth feddwl am faen 3.4medr o uchder, mae rhywun yn son am faen sydd bron ddwywaith maint plentyn – yn sicr mae maint y groes yn gwneud ni deimlo ddigon bach rhywsut wrth ei ymyl. Yng nghanol y groes mae chwydd gron a disgrifir breichiau’r groes fel rhai yn lledu am allan.
 

Rhaid cyfaddel nad hawdd yw gweld y ffigyrau o anifeiliad ar ochr y faen a’r dyn bach ar yr ochr ddwyreiniol ond hyd yn oed os yw’r manylder yn anoddach i’w ddehongli mae rhywun yn dal i gael argraff dda o gelfyddyd yr holl beth yn ystod ymweliad. Efallai fod y faen yma yn coffau unigolyn neu hyd yn oed digwyddiad arbennig ac awgrymir fod arddull y cerfiadau yn awgrym o ddylanwad Llychlynaidd.

Credir hefyd fod y faen yn sefyll yn ei fan gwreiddiol er fod hyn gryn belter o’r eglwys gyda’r posibilrwydd fod Maen Achwyfan ger hen lwybr sydd bellach wedi diflanu. Heddiw y llyfr hanfodol ar gerrig cerfiedig yw un Nancy Edwards  A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales Volume,  III, North Wales.

’Chydig iawn o dystiolaeth pendant sydd yna fod y Llychlynwyr wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Gall fod Castell, Porth Trefadog ar Fȏn yn safle Llychlynaidd neu yn un sydd yn dangos cysylltiad rhwng Tywysogion Gwynedd a’r Llychlynwyr yn Nulyn neu Manaw. Safle arall sydd o’r un cyfnod yw’r safle gaerog ar dir fferm y Glyn ger Llanbedrgoch ond eto mae ansicrwydd os bu i’r Llychlynwyr ymgartrefu yma o gwbl neu fod y dystiolaeth archaeolegol yn dangos cysylltiad masnachol ar hyd yr arfordir rhwng y brodorion a’r Llychlynwyr.

Sgwn’i felly os yw’r dylanwad Llychlynaidd ar Maen Achwyfan yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi byw yma ar un adeg?  Er yn amlwg, doedd dim rhaid iddynt fod wedi ymgartrefu yma yn Chwitffordd i wneud argraff neu gadel eu hoel o ran dylanwad celfyddydol.  Awgrymir efallai fod Llychlynwyr wedi ymgartrefu, neu dreulio amser, ar lannau’r Dyfrdwy sydd yn ddigon agos i Chwitffordd ond yn sicr mae agosatrwydd Chwitffordd at yr arfordir yn esbonio sut bu modd trosgwlyddo a rhannu syniadau neu ddylanwadau. Gwelir maen tebyg ym Mhenmon, Ynys Mon sydd unwaith eto yn dangos dylanwadau Llychlynaidd.

Fel welwch’chi mor aml gyda archaeoleg, cawn fwy o gwestiynau na atebion ond dydi hynny ddim am eiliad yn ymharu ar y pleser o ymweld a Maen Achwyfan. Rhaid craffu yn fanwl os am gael hyd i’r ffigyrau wrth droed y golofn, yn enwedig y dyn bach noeth gyda ei waywffon. Awgrymaf hefyd fod werth ymweld a Maen Achwyfan mwy nac unwaith gan fod lleoliad yr haul mor bwysig os am geisio tynnu llunniau effeithiol a boddhaol o’r cerfiadau.

 Digon anodd hefyd yw cael lle i barcio’r car gan fod yma gyffordd a ffordd ddigon cyflym. Rhaid gadael y car ar y tro gyferbyn a’r giat mochyn sydd yn arwain at yr heneb a rhaid cyfaddef teimlais fod gyrrwyr ceir ddigon diamynedd wrth i mi geisio croesi’r ffordd. Rhaid croesi rhan o’r cae wedyn at y groes, does dim llwybr pwrpasol ac awgrymaf fod yn werth ystyried sgidiau addas neu sgidia cerdded os am ymweld amser yma’r flwyddyn.

Ar ddiwrnod ein hymwelaid ni, y penderfyniad oedd mynd am dro wedyn ar hyd draeth Talacre er mwyn cael lluniau o’r hen oleudu felly yn wahanol i’r arfer ches i ddim cyfle i ymweld ar caffi agosa am banad. Bydd rhaid gwneud hynny tro nes – efallai mynd draw am Dreffynnon neu hyd yn oed drosodd i Gaerwys – dwi’n siwr bod yna gaffi bach da yn yr aradl werth ei ddarganfod.
 

 

 

 

 

No comments:

Post a Comment