Wednesday 11 February 2015

Beth yw rhain ? Herald Gymraeg 11 Chwefror 2015.




 

Rwan ta, dwi’n gofyn am drwbl gyda’r golofn yr wythnos hon. Ers rhai blynyddoedd bellach mae pobl wedi bod yn cysylltu ynglyn a gwahanol bethau mae nhw di cael hyd iddynt ar y ffarm, yn y cae neu i son am rhyw faen neu olion y dyliwn eu gweld. Rwyf wedi cadw cofnod o bob galwad ond wedi methu yn llwyr dros y flwyddyn dwetha i gadw fyny hefo’r holl ymholiadau. Felly dyma ddechrau’r drefn newydd ym 2015.

Rwyf nawr wedi penderfynu ac yn wir wedi ymrwymo (lle bosib) i drio mynd i weld rhywun bob pnawn Sul er mwyn ceisio cael y maen i’r wal go iawn a dechrau cofnodi’r hyn mae pobl wedi ei ddarganfod a lle bosib ceisio rhoi eglurhad neu mwy o wybodaeth iddynt am y gwrthrych neu’r safle.

Un o’r pethau mwyaf diddorol y dangoswyd i mi yn ddiweddar oedd cwpan fach fetal, aloi yn sicr, oedd yn cynnwys copr a phlwm ond nid o wneuthuriad efydd pur. Bu cryn grafu pen ynglyn a defnydd a phwrpas y gwpan fechan hon oedd yn mesur oddeutu 4.5cm ar draws. Cafwyd hyd i’r gwpan mewn clawdd ar fferm ar Ynys Mȏn ac i ddechrau roedd rhwyun yn gofyn y cwestiwn os oedd defnydd amaethyddol o rhyw fath i’r gwpan?

Ond ar ol methu yn lan a chael unrhyw esboniad, dyma ail feddwl yn llwyr a gofyn y cwestiwn faint oedd y gwpan yn ei phwyso. Wrth i ni ddarganfod fod y gwpan yn union 8 owns dyma sylweddoli nad ‘cwpan’ fel y cyfryw oedd hon ond darn o bwysau, a rhan o set ehangach, er yn amlwg mai hon oedd yr unig ddarn wedi ei darganfod hyd yma.

Felly yr esboniad oedd mai “nested cup weight” oedd y gwpan. Byddai cwpanau o wahanol bwysau yn dod fel set gyfan a wedyn yn gallu eistedd neu nythu yn eu gilydd er mwyn creu cyfanswm pwysau cywir ar glorian. Hawdd ynde.Efallai fod y pwysau yma yn ganrif neu ddwy oed felly?

Carreg graeanfaen neu garreg grud oedd y gwrthrych nesaf i mi gael ei gweld. Hon o fferm ym Mhen Llŷn ac yn weddol amlwg o edrych arni roedd dwy ochr neu wyneb gymharol llyfn sydd yn awgrymu fod y garreg wedi ei defnyddio i rwbio rhywbeth ar rhyw gyfnod. Hefyd yn anarferol efallai, roedd rhigol yn mesur rhyw drwch bawd yn mynd o amgylch y garreg.

Y cwestiwn amlwg cyntaf ydi - os oedd y rhigol yma yn naturiol neu ddim, ond rydym yn weddol sicr fod y rhigol wedi ei chreu gan ddyn drwy ddefnyddio’r dechneg cyn-hanesyddol o gnocio (pecking) gyda charreg arall i greu y rhigol. Yr un dechneg sydd yn gyfrifol am gerfiadau Neolithig ac Oes Efydd mewn safleoedd fel Barclodiad y Gawres neu’r marciau cafn-nodau a welir ar feini hirion a chreigiau naturiol hyd a lled Eryri.

Wrth astudio’r garreg yn fanwl, tybir i’r garreg ddod o afon efallai a wedyn cael ei defnyddio fel carreg rwbio. Defnydd amlwg i garreg o’r fath fyddai i drin lledr, felly gall hyn ddyddio o’r cyfnod Neolithig neu hyd yn oed mor ddiweddar ar Canol Oesoedd. Roedd dwy wyneb amlwg wedi eu gwisgo ar y garreg a thybir fod y rhigol yn perthyn i’r ail wyneb rwbio gan fod y rhigol wedi ei dorri drwy’r wyneb llyfn cyntaf.

O afael yn y garreg gwelwn fod y rhigol yn cyfateb a sut byddai dyn llaw dde yn gafael yn y garreg ar gyfer rwbio. Felly a’i hon oedd hoff garreg rhyw ffarmwr bach Neolithig ym mhenrhyn Llŷn, pum mil o flynyddoedd yn ȏl? Ydi’r ffaith fod gwahanol gyfnodau o ddefnydd i’r garreg yn awgrymu fod hon yn rhan o’r “bocs twls” ac yn cael ei chadw o un genhedlaeth i’r llall ? Hawdd chwerthin, ac yn amlwg fedrith rhywun ddim bod yn gant y cant sicr, ond dydi’r syniad yma ddim mor wirion chwaith,

Yr unig bosibilrwydd neu esboniad arall ar gyfer y rhigol yw fod hyn ar gyfer clymu’r garreg i rhywbeth. Felly beth petae’r garreg yn bwysau i ddal rhwyd bysgota i lawr yn y dwr neu yn bwysau ar gyfer dal to gwellt yn ei le? Yn sicr rhaid ystyried fod y rhigol i bwrpas gwahanol nac i fod yn haws gafael mewn carreg rwbio.

Yn anffodus gyda archaeoleg does dim ateb sicr i’w gael bob tro. Yn ddiddorol iawn yn yr un ardal a’r garreg hon, rydym yn gwybod fod oleiaf 3 cwt crwn (Cytiau’r Gwyddelod) sydd yn gallu dyddio unrhywbryd yn ystod Oes yr Haearn ond mae rhywun yn amau efallai fod cysylltiad rhwng y ffermydd bychain cyn-hanesyddol yma a’r garreg rwbio. Dyma’n union beth fyddai wedi digwydd o ddydd i ddydd ar safleoedd o’r fath.

Rhyfeddol faint o stori mae rhywun yn gallu ei greu neu ei ddychmygu o garreg gymharol ddi-nod. Rhaid canmol y ffermwyr yn y ddau achos yma am fod yn ddigon craff i weld a chadw’r gwrthrychau. Y cwestiwn sydd gennyf ar gyfer darllewnyr yr Herald  yw a oes unrhywun wedi gweld gwrthrychau tebyg i hyn o’r blaen?

Gall gymharu neu profiad o weld gwrthrych tebyg yn aml gynnig ateb syml. I gloi felly, a son am “ofyn am drwbl” byddwn wrth fy modd clywed am fwy o wrthrychau anarferol gan chwi ddarllenwyr a cheisiaf fy ngorau i alw heibio cyn ddiwedd y flwyddyn !

No comments:

Post a Comment