Wednesday 25 February 2015

Lôn Goed Herald Gymraeg 25 Chwefror 2015



 
 

Cael benthyg copi o lyfr Robin Williams, ‘O Gwr Y Lôn Goed’ (Gwasg Gomer) gan aelod o ddosbarth WEA Abersoch a ysbrydolodd mi i ail ymweld ar Lôn Goed yn Eifionydd. Wrth reswm roeddwn wedi bod am dro ar hyd ddarnau o’r hen ffordd dros y blynyddoedd ond doeddwn ’rioed wedi gwneud hi o un pen i’r llall.

Rhywun arall sydd wedi fy ysbrydoli yn ddiweddar yw Vivienne Rickman Poole, sydd yn disgrifio ei hyn fel arlunydd (ffotograffyd) ac addysgwr. Digwydd taro ar draws Vivienne wnes i yn rhoi sgwrs llynedd yng ngwyl The Good Life Experience sydd yn cael ei guradu gan Cerys Matthews ar Fferm Ystâd Penarlag. Diddordeb mawr Vivienne yw nofio gwyllt, neu i fod yn fanwl gywir, nofio gwyllt mewn dwr oer go iawn ! Un gair – dewr !

Ond mae Vivienne hefyd yn son am archwilio llefydd gadawedig, di-arffordd, anghysbell a hefyd am redeg yn y mynyddoedd. A dyma’r cysylltiad rhwng ddamcaniaethau Vivienne Rickman Poole a’r Lôn Goed, gan i mi benderfynu un bore, yn blygeiniol iawn, mai’r ffordd orau o archwilio’r Lôn Goed yn sydun o un pen i’r llall fyddai ei rhedeg.

Rwan ta, dyma adael y car ger Ynys Graianog a rhedeg yr holl ffordd i lawr i Afonwen. Dwi ddim am ddadlau am fanylder union y pellter ond tua 8 milltir yno ac yn ȏl mewn cyfanrwydd. Ddigon hawdd oedd cyrraedd Afonwen, ond roedd dipyn o dynfa ar y ffordd yn ol i fyny o Afonwen hyd at hen gapel Engedi. Fel Rickman Poole roedd y camera wrth law. Dyma gael llun o Engedi.

Llun arall roeddwn yn falch iawn o’i gael oedd yr hen giat rheilffordd lle arferai’r rheilffordd groesi’r Lôn Goed rhwng Maes Gwyn a Rhosgyll. Giat, neu lidiart, gyda’r hen gylch coch yn dal yno, sef y rhybydd aros, er fod y lliw coch wedi hen ddiflannu. Archaeoleg trenau a rheilffordd medda fi wrth fy hyn cyn ail gychwyn ar y rhedeg.
 
 

Does neb gwell na R Williams Parry i gyfleu’r teimlad ‘cynfydol’ a geir yma yn llonyddwch Eifionydd. Pa bynnag ddoniau sydd gennyf, nid yw dawn y bardd wedi ei ymestyn arnof gan unrhyw holl alluog felly gadewch i Williams Parry fynegi pethau yn well na fedrwn i byth:

A llonydd gorffenedig

Yw llonydd y Lôn Goed

O fwa’i tho plethedig

I’w glaslawr dan fy nhroed.

A does dim dadlau hefo hynny, hyd yn oed wrth redeg, mae rhywun yn cael blas arbenig iawn yma.Ond mae hanes diddorol i’r Lôn Goed hefyd, hanes “go iawn” cyn i unrhyw fardd wirioni a’r llonyddwch gorffenedig a’r coed plethedig canys adeiladwyd y ffordd gyda pwrpas o gludo calch o’r llongau yn Afonwen i’r ffermydd cyfagos cyn belled a Hendre Cenin i’r gorllewin.

Adeiladydd / pensaer y ffordd oedd gwr o’r enw John Maughan a oedd yn reolwr stad ar gyfer Syr Thomas Mostyn, Plas Hen (Talhenbont), ac adeiladwyd y ffordd rhwng 1819 a 1828. Un o nodweddion diddorol y ffordd yw ei bod yn union 12 troedfedd ar led a hyd at heddiw gellir gweld y meini mawrion ar ochr y lon a symudwyd o’r ffordd gan y gweithwyr yn ystod y gwaith adeiladu. Sylwer hefyd pam mor syth yw darnau o’r lon sydd yn dangos cynllunio manwl o ran gosod cwrs y ffordd gan Maughan.  Ynganer Maughan fel “Mȏn” ond wrth reswm does dim cysylltiad o gwbl a Sir Fȏn gan mai gwr o Northumberland oedd Maughan.

Felly os am fynd am dro, prynwch gopi o lyfr Robin Williams i gael dysgu mwy am hanes y Lôn Goed neu os am ysbrydoliaeth pellach edrychwch ar safle we
Neu Vivienne ar trydar https://twitter.com/mrs_paul
 
 

No comments:

Post a Comment