Wednesday 18 February 2015

Oes angen 6Music yn Gymraeg? Herald Gymraeg 18 Chwefror 2015


Neil Maffia @ Noson 4a6

 
 
Y ddadl yr wythnos hon yw ein bod yn dioddef bellach o ganlyniad i’r diffyg budsoddiad yn ein treftadaeth diwylliannol cyfoes. Efallai mai ail-gyflwyno’r ddadl  ddyliwn i ddweud, a nid am yr eildro, ond am y degfed, yr ugeinfed, chofiaf ddim bellach?  Y cwestiwn felly yw beth yw gwerth ein diwylliant poblogaidd cyfoes?

Rydym yn derbyn bod ‘gwerth diwylliannol’ i’n hawduron a’n beirdd, ond ar yr union adeg rwyf yn sgwennu’r golofn hon, dyma ofyn, beth yn union yw dyfodol Canolfan Cae’r Gors? Dyna chi gwestiwn. Ydi hyn yn fater ddigon pwysig i ni fel Cenedl i ni hyd yn oed sylweddoli beth sydd yn digwydd (neu ddim) yn hen gartref Kate Roberts - yn Rhosgadfan ddi-arffordd. Cwestiwn yn unig ar hyn o bryd. Ond a ydym ddigon effro?

Os bu diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd mewn unrhyw faes, rhaid awgrymu mai Hanes Canu Pop Cymraeg fu hwnnw. Oes, mae engreifftiau o lwyddiannau ysgubol, 7,000 o gynulleidfa ar gyfer Edward H yn yr Eisteddfod, a gwych o beth yw hynny, ond enwch unrhyw grwp Cymraeg arall sydd werth hyd yn oed 1,000 o gynulleidfa. Bryn Fon efallai?

Fel arfer mae dechrau trafod materion fel hyn yn arwain at ddarllenwyr yn camddeall y pwynt felly beth am wenud un peth yn glir. Nid trio tanseilio llwyddiant Edward H yw’r pwynt, y pwynt yw gofyn pam nad oes hanner dwsin o artistiaid eraill Cymraeg werth hyd yn oed hanner y 7,000 yna mewn niferoedd? Awgrymaf mai’r diffyg buddsoddiad cyffredinol yn y maes sydd yn gyfrifol.

Yn ddiweddar dyma ail wrando ar CDs Big Leaves a’r Cyrff wrth deithio hyd a lled y wlad yn y car a sylweddoli faint o gampweithiau oedd rhain, faint o ‘glasuron’ sydd ar y CDs yma, faint o safon, faint o grefftwaith cyfansoddiadol. Dim ond dau engraifft o grwpiau pop Cymraeg sydd ar yr ymylon o fod yn angof. Yn golygu fawr ddim i’r gynulleidfa ifanc ac yn rhy ddiwedar i fod wedi bod yn rhan o’r “Oes Aur” honedig rhywbryd yn niwl y 1970au. Fydd yr artistiaid yma ddim yn ail ffurfio dybiwn i a ddim werth 7,000 mewn unrhyw Eisteddfod.

Pur anaml byddaf yn cael gwahoddiad i drafod Canu Pop Cymraeg yn gyhoeddus, ond eleni dyma ddau gynnig yn dod yn ystod mis Ionawr (felly mwy mewn mis na llynedd – 2014, yn ei gyfanrwydd). Y cyntaf oedd sesiwn yn trafod ‘Gwleidyddiaeth Canu Pop’ drwy wahoddiad gan Gymdeithas yr Iaith.

Rhaid dweud i mi fwynhau’r drafodaeth yn Aberystwyth a rwyf yn ddiolchgar am y gwahoddiad ganddynt. Yr eironi mewn ffordd gyda’r sesiwn yw fod y drafodaeth wedi ei gynnal oherwydd diffyg gwleidyddiaeth yn y sin bop Cymraeg y dyddiau yma. Felly trafod diffyg gwleidyddiaeth yn hytrach na thrafod gwleidyddiaeth penodol ddigwyddodd ar y diwrnod.
hefo Pat Datblygu a Griff Lynch Yr Ods yn Aber

Yr ail wahoddiad oedd gan Noson 4a6 yng Nghaernarfon. Eto, noson ddigon peleserus, a gan fod yn gynulleidfa yn un weddol fechan a chroesawgar, roedd hi braidd yn anodd bod rhy “ddadleuol”, wedi’r cyfan roedd pawb yno i fwynhau. Braint oedd cael rhannu’r llwyfan a holi Neil Maffia (o’r grwp Maffia Mr Huws wrthgwrs). Maffia fwy na unrhyw grwp arall yn ystod hanner cyntaf y1980au gadwodd y Byd Pop Cymraeg yn fyw wrth i “ser y 1970au” sgrialu am swyddi yn S4C a rhoi y gitar yn y tȏ (chwedl Maffia) er mwyn bod yn gyfarwyddwyr ffilm neu gwmniau teledu.

Dwi werth fwy o gynulleidfa yn trafod archaeoleg na chanu pop. Ychydig iawn oedd yno er cymaint ac er mor bwysig oedd cyfraniad Maffia Mr Huw’r i’r sin bop Cymraeg. Un engraifft fechan o effaith y diffyg buddsoddiad. Does dim 6Music yn Gymraeg.

 

 

3 comments:

  1. Diddorol. Maint werthodd dy lyfr am archaeoleg o'i gymharu a'r hunangorfiant? Gwerthodd llyfr Neil Maffia reit dda do?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae'r llyfr archaeoleg wedi gwerthu mwy na'r hunangofiant yn barod!

      Delete
  2. "dioddef bellach o ganlyniad i’r diffyg budsoddiad yn ein treftadaeth diwylliannol cyfoes" Yn hollol gywir

    ReplyDelete