Wednesday 1 April 2015

Trefeurych a Chastell Carndochan. Herald Gymraeg 1 Ebrill 2015


 

‘Siop Dillad Bala’ oedd y gân boblogaidd gan y grwp pop Cymraeg Eryr Wen, ond a dweud y gwir, siop lyfrau Awen Meirion dwi yn dueddu i gysylltu gyda’r Bala bob amser. A dyma chi ddiddorol, dyma siop Awen Meirion yn trefnu ‘taith gerdded’ ar gyfer trigolion Penllyn a Llanuwchllyn yn ddiweddar. Fe ddatblygodd y syniad wrth i mi dreulio bore hynod ddifyr yn arwyddo copiau o fy llyfr archaeoleg yn siop Awen Meirion cyn y Dolig.

Dwi’n dweud hynod ddifyr, achos yn ogystal a gwerthu llyfrau, fe gefais gymaint o sgyrsiau diddorol yn ystod fy nwy awr yn y siop. Ac wrthgwrs, roedd y rhan fway o’r sgyrsiau yn troi at y ffaith fod rhywbeth diddorol ar fferm hwn a llall a fod rhaid i mi ddod draw i gael golwg. Braf oedd cael gwahoddiad felly i rannu gwybodaeth am dirlun hynafol Trefeurych a Chastell Carndochan yn ystod y daith gerdded. Brafiach byth oedd gweld cymaint oedd wedi troi fyny.

Yr enw lleol/hynafol am y tai sydd ar y dirwedd ganol oesol ar lethrau Moel Caws (cyfeirnod map SH 845275) yw Trefeurych. Gorweddai’r olion yma ger Afon Dyfrdwy ar hyn sydd i’w weld heddiw yw olion cytiau-hir ac olion waliau caeau. Arolygwyd yr olion gan Kate Geary ym 1997 fel rhan o asesiad ffermydd oedd yn rhan o gynllun Tir Cymen a mae Geary wedi adnabod hyd at dri cwt hir ar ochr y dyffryn / ochr y bryn.

Y tebygrwydd yw fod rhai o’r tai yma wedi eu haddasu yn ddiweddarach (ar ol i bobl adael Terfeurych) ac eu newid i fod yn gorlannau defaid. Canlyniad hyn yw fod dehongli’r olion ar y tir yn weddol anodd a chymleth. Does dim cytiau crynion i’w gweld yma felly mae rhywun yn awgrymu tirwedd ganol-oesol yn hytrach nac un cyn-hanesyddol.
 

Does dim cwestiwn o gwbl fod Carndochan yn un o gestyll tywysogion Gwynedd, a’r tebygrwydd yw fod y gwaith adeiladau yn perthyn i Llywelyn ab Iorwerth, sydd wrthi yn adeiladu ei gestyll cerrig o’r 1220au ymlaen. Cawn ddyddiad o 1221 ar gyfer Castell y Bere o ysgrifau Brut y Tywysogion ond fel arall mae rhywun yn son am gestyll Llywelyn Fawr ee Dolbadarn a Dolwyddelan fel rhai sydd yn dyddio o’r 1220au a Chricieth efallai o’r 1230au, (mae’r cyfeiriad cyntaf at Gastell Cricieth mewn ysgrif 1239).

Un o’r pethau pwysig am y daith gerdded ac yn y cyd-destyn ehangach hefyd yw fod Carndochan yn un o gestyll llai amlwg Llywelyn Fawr. Felly yn sicr un nod oedd gwneud yn siwr fod trigolion ardal Penllyn yn cael cyfle i ymweld a’r safle a gobeithio cael ychyidig o hanes y gwaith cadwraeth diweddar sydd wedi ei gynnal yno gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
 LLuniau uchod drwy garedigrwydd: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Ond yn ehangach na ardal Penllyn mae’r cwestiwn holl bwysig, pam fod yr olion Cymreig yn llai ‘amlwg’ o ran ymwybyddiaeth hanesyddol. Un rheswm yn sicr yw cyflwr Carndochan, mewn gwirionedd dim ond pentwr o gerrig ar ben craig sydd i’w gweld yma. Rhaid edrych yn ofalus iawn i gael hyd i’r waliau sydd yn weddill gan fod rhan helaeth o rhain yn gorwedd o dan yr holl gerrig sydd wedi disgyn.

Yr ail reswm efallai yw fod y safle yn weddol anghysbell. Cymerir dri chwarter awr go dda o chwysu i gyrraedd y castell o gyfeiriad Tan y Castell. Ond mae’r dirwedd a’r olygfa draw am Llyn Tegid yn drawiadol oddiyma. Does dim esgusion go iawn. Ni sydd heb hawlio perchnogaeth ar ein hanes. Dyma gam fechan i’r cyfeiriad iawn gan Siop Awen Meirion. Yn syml beth am ddarganfod ein hanes a’n cestyll Cymreig, mynd am dro a chael hwyl yn y broses.
 

 

No comments:

Post a Comment