Tuesday 9 June 2015

Merthyr Rising 2015, Herald Gymraeg 10 Mehefin





 Does dim dwy waith fod y gwrthdaro diwydiannol ym Merthyr Tudful, 1831 yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o ran Hanes Cymru, ac yn sicr yng nghyd-destyn hanes y chwyldro diwydiannol a hanes y dosbarth gweithiol yma yng Nghymru. Braf felly, os nad braint,  oedd cael gwahoddiad i gymeryd rhan mewn gwyl o’r enw ‘Merthyr Rising 2015’ sydd yn wyl ddiwylliannol wedi ei hysbrydoli gan ysbryd Lewsyn yr Heliwr, Dic Penderyn a’r Faner Goch.

Dyma engraifft perffaith o bobl yn cydnabod ac yn gyfarwydd a’u hanes ac yn gallu trosglwyddo hynny i rhywbeth perthnasol ar gyfer heddiw. Nid gwers hanes na darlithoedd sych oedd Merthyr Rising 2015 ond yn hytrach cyfuniad hynod ddiddorol aml-ddisgyblaeth o gerddoriaeth, ffilm, barddoniaeth a sgyrsiau / trafodaethau.




Wrth i mi gyrraed Merthyr a cheisio dod o hyd i faes parcio Theatr Soar dyma yrru heibio Sgwar Penderyn lle roedd grwpiau roc lleol yn perfformio ar lwyfan awyr agored. Roedd cannoedd o bobl Merthyr yno yn gwrando a mwynhau. Ar hyn o bryd mae’r grwp Pretty Vicious o Ferthyr yn gwneud argraff yn genedlaethol felly mae pawb ifanc o Ferthyr isho bod mewn band roc a rol. O fewn 5 munud o gyrraedd roeddwn wedi clywed y geiriau ‘Pretty Vicious’ dros ddwsin o weithiau. Chwerthais achos dwi’n nabod tad un ohonnynt.

Roeddwn yno i gyfweld a’r trwbadwr o Batagonia, Rene Griffiths. Amserol iawn o ystyried ein bod yn cofio / dathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa hwylio allan o Lerpwl. Dyn hynod ddiddorol yw Rene, fel soniais dro yn ol yn fy ngolofn, mae ei lyfr ‘Ramblings of a Patagonian’ yn ddarllen difyr. Fe sgwrsiais a Rene ar lwyfan Soar am dros awr a hanner gan dorri’r sgwrs gyda ambell gan ganddo.

Deffrais y bore canlynol yn canu ‘Heno mae’n Bwrw Cwrw’ sef y gan berfformiodd Rene ar y ffilm ‘Seperado’ gyda Gruff Rhys. Cymwynas mawr Rene ddywedwn i, a’r genedl Gymraeg, yw ei fod yn dod o Batagonia a felly yn gallu. ac yn wir, yn fodlon, chwalu’r mytholeg a’r rhamant sydd wedi ei or-lywio gan y Cymry Cymraeg sydd ‘rioed di bod yno. Mae’n ddyn talentog, yn ‘storiwr’ o fri, yn ‘raconteur’ fel byddai rhywun yn ei ddisgrifio yn Ffrangeg.


O ran sgyrsiau, daliais funudau olaf sgwrs rhwng  yr AC Bethan Jenkins a Armon Williams o fudiad Ie Cymru. Roedd Bethan yn siarad synnwyr. Cefais fy nghyflwyno iddi wedyn a fel esboniais iddi’ “Rwyf yn anarchydd gwael iawn, rwyf o hyn yn pleidleisio!” Ond mynegais iddi fy marn am wleidydion, sef y bydda hi llawer gwell arnom yng Nghymru petae pob Aelod Seneddol a Chynulliad Plaid Cymru yn fenywod. Fe wennodd Bethan. Amen i hunna.



Uchafwbynt arall oedd cael cyfle i wrando ar y grwp Zefur Wolves, sef grwp Cian Ciaran o’r Super Furry’s gyda ei gariad Estelle Ios. Rwan ta, dwi di gweld gormod o grwpiau dros y blynyddoedd, a mae’n mynd yn fwy fwy anodd i gael fy mhlesio gan grwpiau newydd. Ond roedd y Zefur Woves yn fendigedig, yn hyfryd, yn fel i’r glust – yn fy nhrawsblannu o strydoedd llwm ol-ddiwydiannol Merthyr i rhyw ardd nefoliadd. Dwi ddim wedi mwynhau grwp cymaint a hyn ers blynyddoedd.
Ac roedd y Gymraeg yno, yn ddigon amlwg. Dwi’n credu i ni gyd fel perfformwyr / cyfrannwyr droedio yn ofalus ar y llwybr dwy-ieithog. Roedd clustiau Merthyr yn clywed y Gymraeg fel rhywbeth naturiol, arferol ac ar adegau ‘chwyldroadol’ a ‘gwleidyddol’. A fel y disgwyl roedd hiwmor y Cymmoedd ddigon amlwg hefyd. 



Roeddwn allan ar y nos sadwrn gyda Lorriane Owen, un o’r pyncs cyntaf yng Nghymru, a sydd yn gwneud ambell i ymddangosiad fel DJ. “So what’s your DJ name?” medda fi “Valley Girl" wrthgwrs.


No comments:

Post a Comment