Tuesday 14 July 2015

Pam Na Fu Cymru, Herald Gymraeg 15 Gorffennaf 2015



Wrth drafod ac adolygu cyfrol Angharad Price ‘Ffarwel i Freiburg’ peth amser yn ol awgrymais fod ysgriffennu a chyhoeddi’r gyfrol yn “gymwynas a’r Genedl”. Felly hefyd gyda cyfrol ddiweddaraf Simon Brooks, ‘Pam Na Fu Cymru, Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg’, gan fod Brooks wedi mynd i’r afael a’r cwestiwn o sut bu i Genedlaetholdeb Cymraeg fethu i bob pwrpas oherwydd effeithiau a dylanwad Rhyddfrydiaeth Brydeinig yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r Ugeinfed ganrif.

Os di hyn oll yn swnio yn ofnadwy o ddwys, rhaid pwysleisio mai astudiaeth academaidd yw hyn. Rhaid cyfaddef fod darllen y gyfrol yn waith caled, a fod y defnydd o derminoleg academaidd wleidyddol yn ddigon i ddrysu’r dyn cyffredin. Hoffwn allu dweud yn wahanol, ond mae Brooks, fel Price a nifer arall sydd yn perthyn i’r Byd academaidd Cymraeg yn meddu ar ddawn anhygoel o ran meistrioli’r iaith Gymraeg, ond dawn sydd ar adegau, yn gallu ymylu ar fod yn iaith arall.

Credaf yn ddiffuant fod hon yn gyfrol bwysig, a fod angen astudiaeth o’r fath, ond bydd angen cyfieithydd ar y werin bobl. Dydi hyn wrth reswm ddim yn debygol. Safai’r gyfrol felly, fel ‘Ffarwel i Freiburg’, ar silffoedd y rheini sydd yn meddu ar y ddawn o ddarllen gwaith academaidd o’r fath.

Wrth sgwrsio a Brooks yn ddiweddar, adroddodd sut bu iddo, fel hogyn ifanc yn Llundain yn yr 1980au, fynychu un o gyngherddau’r Anhrefn yn y ddinas, a hyn mewn tafarn o’r enw ‘The Fullham Greyhound’. Rwan ta, fe allwn ddisgrifio’r Greyhound fel “twll o le”. Yr arfer ar bnawniau Sul oedd cynnal ‘striptease’ yno a wedyn gigs gyda’r nos. Ar ol i’r stripars droi am adre, roedd y llwyfan yn rhydd i grwpiau fel Anhrefn, Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog a Traddodiad Ofnus o Gymru i addysgu dinasyddion Llundain fod y Gymraeg wedi ei gyfieithu i’r dull pync o ganu.

Os oedd cyngherddau’r Anhrefn yn un pegwn o’r sbectrwm diwylliannol Cymraeg mae cyfrol Brooks yn begwn arall, ac eto yn eu hanfod mae yna dir cyffredin, sef fod angen cynnal y drafodaeth ynglyn a phwy yw’r Cymry heddiw, a sut mae ymdopi a hyn o fewn y Byd sydd ohonni.

Yn allweddol i ddadl Brooks mae’r cwestiwn o sut bu i genhedloedd bychain Ewrop sicrhau ffyniant eu hiaith yn ystod y cyfnod o dwf mewn cenedlaetholdeb ar ddiwedd y bedwaredd ganrif, a sut wedyn bu hyn fethu yng Nghymru. Sylwer mai ‘Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg’ sydd o dan chwyddwydr Brooks nid ‘Methiant Cenedlaetholdeb Cymreig’.

Erbyn Pennod 5 ‘ Sut y gall Cymru fod’ mae Brooks yn dadansoddi sut bu i Rhyddfrydiaeth ac yn wir Sosialaeth yn y cyd-destyn Cymreig / Brydeinig sicrhau fod y Saesneg yn cymeryd lle y Gymraeg. Cawn ddadansoddiadau mor eang a damcaniaethau Engels ynglyn a chymhathu ac uno pobl ar sail y dosbarth gweithiol ar draul wedyn diwylliant lleiafrifol.

Cawn hefyd drafodaeth o sut bu i’r Cymry (siaradwyr Cymraeg cyn 1850au) newid i fod yn Gymry Cymraeg ac yn Gymry di-Gymraeg.  Erbyn hyn mae’r darllen yn drech aranaf, a dechreuais golli beth yn union yw’r ddadl. Yn y cyd-destyn hanesyddol tybiaf fod Brooks yn agos i’w le ar adegau ond yng nghyd-destyn heddiw, dwi’n siwr bydd Cenedlaetholwyr (mwy adain dde) yn gweld nifer o’r dadleuon fel mel i’w bysedd.


Credaf fod angen ymdrin a’n hanes yn wrthrychol, a heb os mae gwaith Brooks yn werthfawr iawn o ran ehangu’r drafodaeth, ond heddiw, pa werth gwahaniaethu rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg onibai fod rhyw obaith y gallwn unwaith eto  godi’r canran o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod ein sgwrs cytunodd y ddau ohonnom fod unrhyw chwyldro diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg heb eto, wireddu ei llawn botensial.

No comments:

Post a Comment