Thursday 6 August 2015

Adolygiad Gwyl Arall, Herald Gymraeg 5 Awst 2015



Mae Gwyl Arall yng Nghaernarfon wedi datblygu i fod yn un o ‘berlau bach' yr Haf. Mae modd disgrifio hon fel gwyl ‘hamddenol’ sydd yn gweddu i dref hynafol y Cofis, lle mae’r digwyddiadau i gyd yn weddol fach ac agos at y gynulleidfa a wedi eu lleoli mewn corneli diddorol o fewn hen furiau’r Dre.

Eleni, cafwyd un o’r perfformiadau gorau ers amser gan Geraint Jarman, a hynny yn y castell. Os yw’n wir fod Jarman bellach yn 70oed roedd hwn yn berfformiad o’r safon ucha, yn sicr doedd Jarman ddim yn edrych mwy na 50, yn dal yn dena, yn dal hefo’i sbectol dywyll. Rhaid canmol cyfraniad arbenig Meilyr Gwynedd o’r Big Leaves / Sibrydion ar y gitar a genod Jarman ar y lleisiau cefndir.

Yn ol ym 1979 y gwelais Jarman gyntaf, a hynny yng Ngwyl Werin Dolgellau. Roedd hwn yn gyngerdd pwysig iawn i mi gan fod Jarman wedi profi y noson honno fod grwpiau Cymraeg yn gallu bod cystal a’r grwpiau Saesneg roeddwn yn eu dilyn ar y pryd.

Yr unig siom gyda perfformiad Jarman yng Ngwyl Arall, oedd fod y gan orau gennyf, ‘Ethiopia Newydd’, wedi methu cydio am rhyw reswm, fe gollwyd nerth a deinameg y gan, tra fod caneuon fel ‘Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb’ wedi swnio yn well na’r record wreiddiol.

Mwynheais yn fawr iawn sgwrs Annie Williams, ‘Gweini’, oedd yn herio ystradebau bywyd morwynion mewn rhaglenni fel Downtown Abbey ac yn cyflwyno fersiwn llawer mwy brawychus a chaled o fywyd merched ifanc o Fon aeth i weini yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Profodd grwpiau ifanc fel Candelas a’r Reu fod talent aruthrol allan yna ymhlith y genhedlaeth nesa o gerddorion Cymraeg. Yn sicr roedd sglein ar safon cerddorol Candelas a’u hyder ar lwyfan a diddorol oedd gwylio’r gynulleidfa ifanc (iawn) yn ymateb iddynt. O’r tu allan fe ddywedwn fod y ‘tiwns’ gora yn cael yr ymateb gora ac ella fod gwers iddynt yma gan Jarman – does dim o’i le gyda alawon cofiadwy.

Fe ofynnodd un o’r trefnwyr os oeddwn yn “adolygu’r noson” gyda’r Reu a’r broblem fawr hefo rhywbeth fel hyn yw fy mod yn ffrindiau hefo rhieni’r gitarydd. Mae’r gan ‘Diweddglo’ gan Y Reu yn un o’r caneuon gorau i ymddangos yn ystod 2014, fy nghyngor fyddai sgwennu mwy fel hyn, eto dilynwch esiampl Jarman.

Ond wrth feddwl ymhellach am hyn, mae wir angen mwy o adolygiadau ar y Byd Pop Cymraeg, os nad ar y Byd Diwylliannol Cymraeg yn gyffredinol. Nid ‘beirniadaeth’ o reidrwydd yw adolygiad, ond mae beirniadaeth adeiladol a thrafodaeth aeddfed yn fodd i godi safonnau. Mae diffyg mynegi barn yn y Gymraeg yn broblem fawr dybiwn i.

Sgwrs arall hynod ddiddorol oedd yr hyn rhwng Simon Brooks a Daniel G Williams. Os deallais yn iawn, roedd Brooks yn dadlau fod angen ceidwadaeth diwylliannol os am gadw’r Gymraeg yn fyw. Fe ddywedodd rhywun wrthyf dros y penwythnos mai dyna yn union oedd yn digwydd yng Ngwyl Arall ac efallai fod mymryn o wirionedd yn hyn, o ran y gynulleidfa efallai yn fwy na’r trefnwyr, ond rhaid oedd cyfaddef ,digon o waith byddai grwp fel Radio Rhydd wedi cael croeso gan gynulleidfa Jarman na’r Candelas .


Fe welais hefyd dros y penwythnos, un o’r perfformiadau fwyaf poenus i mi ei weld ers blynyddoedd, sef y trefniant cyfoes o’r Opera Roc ‘Melltith ar y Nyth’. Efallai mai y fi oedd yr unig un yn y gynulleidfa oedd yn gofyn Pam?. Fe ddangosodd Elin Fflur sut mae canu, tra roedd cynifer arall o’r cast allan diwn, ond rhaid cyfaddef roedd hyn fwy fel Can Actol a fe’m atgoffwyd o sut fath o Gymreigtod bu rhaid i’ nghenhedlaeth i ymwrthod a fo ar ddiwedd y 1970au er mwyn symud yr agenda yn ei flaen. Mae rhain rhy ifanc i gofio.

No comments:

Post a Comment