Wednesday 26 August 2015

Adolygiad 'Is-Deitlau yn Unig', Herald Gymraeg 26 Awst 2015


 

Ar adegau, fe all y golofn hon ymddangos fel colofn adolygu llyfrau. Yn ddiweddar cafwyd adolygiadau o ‘Ffarwel i Freiburg, Crwydriadau cynnar T. H. Parry-Williams’, Angharad Price (2013, Gomer), ‘Pam Na Fu Cymru, Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg’, Simon Brooks (2014, Gwasg Prifysgol Cymru) ac ‘Ancient Siluria, it’s old stones and ceremonial sites’, Dewi Bowen, (1992, Llanerch Publishers).

Y ddolen gyswllt, yw fod yr holl lyfrau yma yn ehangu’r diwredd ddiwylliannol Gymraeg neu Gymreig. Y geiriau ddefnyddiais ar gyfer llyfrau Angharad a Simon yw eu bod yn “gymwynas a’r genedl” o ran y ffaith fod y drafodaeth, yr hanes, y wybodaeth yn bodoli – a hynny yn Gymraeg. A dyma felly lyfr arall i’w ychwanegu at y rhestr, ‘Is-Deitlau’n Unig’ gan Emyr Glyn Williams (2015, Gomer).

Dyma chi lyfr sydd yn gwneud yn union beth sydd yn cael ei ddweud ar y tin bwyd, neu i fod yn fanwl gywir wrth drafod llyfrau, yr hyn sydd yn cael ei ddatgan yn y broliant ar gefn y clawr gan fod Emyr Glyn Williams yn ein tywys ar daith bersonol i fyd y ffilm dramor (sef personol iddo fo hynny yw). Yn ogystal mae elfennau hunangofiannol i’r llyfr  a’r hyn sydd yn cael ei ddisgrifio fel galwad i’r gad.

Er mwyn gwneud cyfiawnder a chynnwys y llyfr, mae’r ‘galwadau i’r gad’ yn mynd i gael eu trafod rhywbryd eto yng ngholofnau’r Herald, efallai hyd yn oed yr wythnos nesa, ond am y tro beth am ganolbwyntio ar y cynnwys, sef y ffilmiau dramor hynny gyda is-deitlau. Yr hyn mae Emyr yn ei wneud, ac yn ei gyflawni am y tro cyntaf dybiwn i, yw rhoi ystyriaeth a thriniaeth fanwl a feistrolgar o ffilmiau dramor drwy gyfrwng llyfr drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cawn bennod gyfan mwy neu lai ar gyfer trin a thrafod y ffilm Katzelmacher (1969) gan y cyfarwyddwr Almaeneg Rainer Werner Fassbinder, ac yma cawn gipolwg ar natur yr awdur, sef rhywun sydd wedi ymdrochi yn y byd ffilmiau is-deitlog yn y rhan ddyfna o’r pwll. Sawl gwaith yn ystod y llyfr mae Emyr yn datgelu fod hyn yn fwy na diddordeb mewn ffilmiau dramor – mae hyn i bob pwrpas yn obsesiwn. Wrth gyfiawnhau Katzelmacher fel ei  hoff ffilm erioed mae Emyr yn datgan ei fod yn uniaethu mwy a’r ffilm yma nac y mae gyda cerddoriaeth y Velvet Underground, Suicide neu New Order, sydd yn dddweud mawr gan rhywun da ni yn ei adnabod fel un sydd wedi rhedeg label recordio Ankst dros yr ugain mlynedd ddwetha.

Ond dadl Emyr drwy gydol y llyfr yw fod diwylliant ffilmiau / sinema (dramor) yn ffurf o gelf sydd yn fwy gwerthfawr i ni (sef y gynulleidfa) o ran ymdrin a deall bywyd, deall y byd go iawn, y ‘realiti’ sydd mor bwysig i gynifer o’r cyfarwyddwyr mae Emyr yn eu trafod. Nid adloniant sydd yn hawlio sylw’r awdur, ond rhywbeth llawer mwy – dyma ei argraff gyntaf o Katzelmacher, “Roedd darganfod y ffilm hon yn brofiad corfforol i mi, fel cwympo mewn cariad, a phrydferthwch y lluniau yn fy llorio yn llwyr”.

Felly, ydi mae’r daith dywys yn un bersonol iawn o safbwynt Emyr, ond dydi hynny ddim yn peri unrhyw broblem i’r darllennydd. Os unrhywbeth mae llais Emyr drwy’r gyfrol fel cael mynd am dro i’r sinema hefo Mark Kermode – fo di’r cyfieithydd os mynnwch yn taflu goleuni ar y cynnwys sydd ar adegau yn ddwys ac anealladwy.

Pa lyfr arall sydd yn mynd i drafod ffilm fel The Idiots gan Lars von Trier yn Gymraeg. A dyma pam fod y gyfrol yma yn gymwynas arall a’r genedl – yn addysg ac yn ysbrydoli (ac yn ddarllenadwy) - Popeth yn Gymraeg.

No comments:

Post a Comment