Wednesday 12 August 2015

Ancient Siluria, its old stones and ceremonial sites, Herald Gymraeg 12 Awst 2015




Pa bynnag dda mae rhywun yn meddwl eu bod yn adnabod Cymru, neu fod rhywun yn meddwl eu bod yn gyfarwydd a’r cymeriadau diddorol yna sydd i’w cael ar lawr gwlad, y gwir amdani yw fod o hyd rhywbeth newydd i’w ddarganfod a’i ddysgu. A fel mae pethau yn y wlad fach hynod yma, mae’r pethau yma yn tueddu i ddigwydd yn anisgwyl ac ar lonydd troellog, di-arffordd.

Mae’r stori yn dechrau blwyddyn yn ol. Fel cymaint, roeddwn wedi mynychu’r Steddfod yn Llanelli, a wedi cymeryd mantais o’r cyfle i grwydro ychydig a phenderfyais mynd draw i weld maenhir ‘Sampson’s Jack’, ger Llanrhidian ar Benrhyn Gwyr. Nid dyma oedd y tro cyntaf i mi fynd draw i weld y garreg ond wrth son wrth ffrindiau ar Gwyr fy mod yn yr ardal, dyma gael cyngor ganddynt y byddai’n beth da mynd a gwr o’r enw Dewi Bowen hefo fi, gan ei fod “yn gwybod popeth am yr hen feini hirion”.

Digwydd bod, doedd dim amser gennyf i gyfarfod a Dewi llynedd gwaetha’r modd, ond o’r diwedd dyma ei gyfarfod yn ddiweddar a dyma gael copi o’i lyfr ‘Ancient Siluria its old stones and ceremonial sites’  wedi ei gyhoeddi gan wasg Llanerch.

Fe ddisgrifiwyd ei lyfr fel un am ‘Ley-lines’ gan un o’n ffrindiau cyffredin, ond mae hyn yn rhoi camargraff llwyr o’r llyfr go iawn. Dyma chi lyfr o nodiadau a lluniau inc gan Dewi, sydd yn edrych ar feinihirion, cromlechi a charneddau yn ardal y Cymmoedd yn ne Cymru – mwy neu lai popeth i’r dwyrain o Benrhyn Gwyr hyd at y ffin a Lloegr.

Fel un o ardal Abertawe, ddigon naturiol fod Dewi yn rhoi sylw teg, os nad pwyslais pendant, ar bwysigrwydd henebion Penrhyn Gwyr. Cawn olwg ar y nifer sylweddol o feinihirion ar Gwyr, Sampson’s Jack yn eu plith, a mae Dewi yn awgrymu fod arwyddocad iddynt gan fod nifer yn sefyll ar yr un llinell, (Da ni yn ol at y ley-lines ’ma eto).

Yr hyn sydd yn braf am gwrwydro llwybrau Gwyr yw fod y dirwedd yn dal i deimlo yn eitha cyntefig, rhaid dilyn ffyrdd cul a llwybrau cyfyng. Does dim arwyddion yma ar gyfer henebion, rhaid wrth fap OS a pharodrwydd i gael sgidia mwdlyd cyn ddiwedd eich taith. Awgrymaf fod awyrgylch di-arffordd Gwyr yn ychwanegu at y pleser o ddarganfod yr henebion hynod yma.

Cofiwch, di hyn ddim mor wir yn yr Haf, gan fod yr ymwelwyr a’u carafannau yn trawsffurfio’r dirwedd yma i un neidr hir o draffig yn ymestyn o Aberetawe i Rhosili. Ewch yn yr Hydref a mwynhewch y llonyddwch.

Safle sydd ar fy rhestr o lefydd i ymweld mor fuan a phosib yw’r ‘Saith Maen, ger Craig y Nos. Awgrym Dewi yma, yw fod y rhes gerrig ar linell a’r ser ‘Pleiades’, ddigon posib, rhaid mi aros yno dros nos felly. Go iawn, ychydig rydym yn ei ddeall am arwyddocad y rhesi cerrig yma sydd yn dyddio o’r Oes Efydd.

Onibai fy mod wedi cyfarfod yr awdur Dewi Bowen ychydig wythnosau yn ol, a fod dyddiad 1992 i’r cyhoeddiad byddwn yn taeru fod hwn yn lyfr hynafol. Atgoffir rhywun o gyheoddiad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan roedd ‘hynafiaethwyr’ wrthi yn cyhoeddi a damcaniaethu.
Dyma’r math o lyfr fyddai rhywun yn ei ‘ddarganfod; wrth chwilota yn Siop Lyfrau Booth’s yn Gelligandryll.


Yr hyn sydd yn galonogol, yw fod awduron annibynnol fel Dewi Bowen wrthi yn dod a’r safleoedd llai amlwg yma i sylw ehangach. Dyma chi lyfr bach diddorol sydd yn haeddu bod yng nghasgliad unrhyw grwydryn Mapiau OS a llwybrau di-arffordd.

No comments:

Post a Comment