Wednesday 19 August 2015

Diwrnod Agored Llys Rhosyr, Herald Gymraeg 19 Awst 2015.


 

 

Yng nghyfrol XXXIII, 1999, ‘Studia Celtica’ cawn adroddiad Neil Johnstone o’r gwaith cloddio archaeolegol ar safle Llys Rhosyr, Niwbwrch. Dyma’r unig ‘lys’, sydd yn perthyn yn bennaf i gyfnod Llywelyn ap Gruffydd, sydd “ar agor” ac i’w weld heddiw yng ngogledd Cymru.


‘Cae Llys’ oedd yr enw ar lafar yn lleol ar y cae yma, a than y 1990au a gwaith cloddio Johnstone ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd doedd neb yn hollol siwr lle yn union roedd y llys. Cyfeiriodd Henry Rowlands yn y 1720au at y safle yn ei lyfr ‘Mona Antiqua Restaurata’ gan awgrymu fod olion i’w gweld o dan y cae ond yn sicr doedd dim sylw pellach yn cael ei roi i’r safle yn ystod rhan helaeth o’r Ugeinfed Ganrif.


Byddaf yn tynnu coes weithiau fod yr enw ‘Cae Llys’ wedi bod yn ben-llinyn eitha addawol (os nad gola llachar yn fflachio) o ran dewis Johnstone o pa gae yn Niwbwrch i ddechrau cloddio, ond heb os, gwaith Neil Johnston ar y prosiect ‘Llys a Maerdref’, a wedyn ei ddarganfyddiad o lys arall yn Nhy’n y Mwd, Abergwyngregyn sydd yn gyfrifol am ddod a’r safleoedd pwysig yma i sylw’r Genedl.


Bellach, mae modd gweld Llys Rhosyr wedi ei “ail greu” yn Sain Ffagan, ond mewn cae ddigon di-nod i’r de-orllewin o Eglwys Sant Pedr mae’r archaeoleg go iawn. Y stori wrthgwrs, yw fod storm fawr 1332 wedi cuddio’r safle, neu rhan o’r safle,  gyda tywod gan sicrhau fod mwy o olion wedi goroesi yn Rhosyr na welwyd er engraifft yn Abergwyngregyn.


Yn dilyn cwymp Llywelyn ym 1282, mae Edward I yn rhoi y tir i’w wraig Eleanor ac wrthgwrs yn sgil gwrthryfel Madog ap Llywelyn ym 1294 mae poblogaeth Llanfaes yn eu tro yn cael eu symud i Niwbwrch. Mae adroddiad arall fod Isabella, gwraig Edward II yn cael y tir ym 1309 a chawn gofnod arall o 1352 sydd yn son am rai o’r adeiladau sydd yn dal mewn defnydd. Ond y gwir amdani yw fod y cyfnod y ‘llys’ drosodd erbyn dechrau’r 14eg ganrif.

 
Heddiw, mae croeso i unrhywun alw heibio Llys Rhosyr, ond cwestiwn da faint sydd yn trafferthu? Saif y safle ar ochr y ffordd i Llanddwyn, felly mae’r miloedd yn anelu am lan-y-mor ac yn gwybio heibio heb werthfawrogi arwyddocad y lle. Felly, rhaid canmol Cadw am drefnu Diwrnod Agored yma ar 21ain Gorffennaf, ac unwaith eto rhaid cydnabod ymroddiad Adele Thackray o Cadw i’r fenter; Adele sydd yn bennaf gyfrifol am roi safle Segontium “yn ol ar y map” yn ddiweddar.

 
Yr hyn sydd yn braf am ddyddiau agored o’r fath yw fod yma gyfle i siarad a sgwrsio hefo’r cyhoedd a chalonogol oedd cyfarfod pobl o bob rhan o Sir Fon oedd wedi mynychu’r gweithgareddau. Erbyn hyn rwyf yn dechrau dod i adnabod rhai o’r ymwelwyr (lleol) cyson – mae nhw di bod i’n gweld ni ym Mryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres – dyma chi’r dilwynwyr brwd – y “grwpis archaeoleg” !

 

 

Bachwyd ar y cyfle i ymweld ag Eglwys Sant Pedr, a mawr yw ein diolch i Norman Evans, y ceidwad, am ddod draw gyda’r goriad yn arbennig ar ein cyfer. Ysgrifennais hanes ymweliad i’r eglwys yng nghwmni Norman llynedd ar gyfer yr Herald, a dyma ryfeddu unwaith eto ar ei frwdfrydedd a’i wybodaeth am yr eglwys.
 

 
Y  tro yma roedd criw go dda o archaeolegwyr ymhlith yr ymwelwyr i’r eglwys – pawb yn amlwg yn bachu’r cyfle i gael gweld tu mewn i’r eglwys. Yn eu plith roedd Aimee Pritchard, sydd wedi arbenigo yn y cyfnod canol oesol cynnar, ac ei barn hi oedd fod y fedyddfaen yn dyddio i oddeutu 1050 oed Crist – dipyn cynharach na’r farn draddodiadol.

 
 
Roedd Aimee hefyd o’r farn fod dylanwad Llychlynaidd i’r y fedyddfaen a chafwyd chwarter awr hynod ddifyr yn trafod ac astudio nodweddion y fedyddfaen cyn crywdro o amgylch gweddill yr eglwys. O ran nodweddion hynafol mae hon yn eglwys werth ei hymweld a hi.

 


Er i mi ddatgan yn fy erthygl balenorol mai hon yw egwlys hiraf Ynys Mon roedd ambell un ymhlith y criw archaeoleg yn amheus, un yn meddwl fod Llanfechell yn hirach. Efallai gall ddarllenwyr yr Herald ar Ynys Mon gadarnhau hyn. Chwerthais wrth feddwl, siwr fod pawb yn honni ffaith o’r fath os oes estyniad i’w heglwys!

 

Ar ol i n i orffen gyda’r fedyddfaen, fy nhro i oedd hi wedyn i sicrhau fod pawb yn sylwi ar y ffenestr ddwyreiniol fendigedig a gynlluniwyd gan Henry Ellis Wooldridge – un o ddisgyblion Edward Burne-Jones. A wyddoch chi be, wrth ail-ymweld a Sant Pedr, rhyfeddais eto pam mor wirioneddol fendigedig yw’r ffenestr hon. Efallai fod yr Haul allan yn disgleirio dros y rhan yma o Fon ond roedd y lliwiau yn llawer mwy trawiadol nac i mi sylweddoli yn ystod fy ymweliad blwyddyn yn ol.

 


Dyna efallai un o rinweddau mwyaf amlwg y ffenestri ‘Cyn-Raffaelaidd’, mae nhw mor lliwgar, ac eto yn cadw rhyw ddiniweidrwydd a symylrwydd i’r ‘cartwns’. Syndod felly na chafodd Wooldridge fwy o sylw, yn sicr mae’n syndod nad yw ei enw yn llawer mwy cyfarwydd erbyn heddiw?

Nodweddd amlycaf, ac efallai llai cyffredin, y ffenestr hon yw fod y ‘cartwns’ yn dehongli golygfeydd o’r Hen Destament, yn eu plith Jonah a’r Morfil, Abraham ac Issac a Samuel a’r deml. Os bydd cyfle ewch draw am Llys Rhosyr a Sant Pedr, chewch chi ddim eich siomi – dyma rai o drysorau Ynys Mon.

No comments:

Post a Comment