Thursday 6 August 2015

Hoff Le ym Maldwyn Rhys Mwyn, Herald Gymraeg 5 Awst 2105




 Rhaid mi ddweud Castell Dolforwyn, ger Abermiwl,  a adeiladwyd gan Llywelyn ap Gruffydd ym 1273. Nid yn unig fod hwn yn un o gestyll tywysogion Gwynedd, sydd yn rhy aml yn cael eu hanwybyddu ganddom ni fel cenedl, (a does dim esgus am hyn) ond fe godwyd y gastell yn yr un ysbryd a mae rhywun yn codi dau fys ar ei elyn.

Wedi ei godi o fewn tafliad carreg i gastell  a thref Seisnig Hari III yn Nhrefaldwyn, dyma herio uniongyrchol gan Llywelyn ap Gruffydd wrth iddo anwybyddu gorchymyn y Sais i atal y gwaith adeiladu.

Heddiw ceir yma lecyn hyfryd uwch ddyffryn Afon Hafren i fyfyrio ar hanes cythryblus y cyfnod yma ar ddiwedd y 13eg ganrif. Diolch i waith yr archaeolegydd Butler mae rhan helaeth o’r safle wedi ei glirio a mae modd gwerthfawrogi cynllun y castell yma gyda’i dri twr, un crwn, un sgwar ac un nodweddiadol Gymreig, siap D.


 

No comments:

Post a Comment