Tuesday 29 September 2015

Good Life Experience, Herald Gymraeg 30 Medi 2015

 

 
 
 
O ran darlithio mae hi wedi bod yn bythefnos brysur os nad hynod ddiddorol. Cefais wahoddiad i roi sgwrs yng ngwasanaeth ‘Mawl Medi’ yng Nghadeirlan Bangor a chytunais yn fras i son am hanes y gadeirlan a’r cysylltiad gyda Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd (y ddau wedi eu claddu yno yn rhywle).

 

Yn agosach at y noson, dyma ddeall mai’r prif atyniad ar y noson fyddai Cor Glanaethwy a dyma sylweddoli ella bydd na ddipyn go lew yn mynychu felly. Ar y noson ei hyn, roedd y gadeirlan yn orlawn, rhai cannoedd yn mynychu, a’r her i mi oedd trio eu “cyrraedd”. Dwi ’di hen arfer rhoi sgyrsiau mewn festri capel a neuadd bentref o flaen rhyw 30 aelod o Ferched y Wawr ond roedd trio dal sylw’r cannoedd yn y gadeirlan yn stori wahanol iawn.

 

‘Sgwrsio’ hefo pobl dwi yn ei wneud go iawn, nid darlithio. Does na ddim sgript na threfn bendant i bethau gennyf – dwi jest yn agor fy ngheg a gweld lle mae’r sgwrs yn mynd. Gyda agosatrywdd mae rhywun yn gweld ymateb pobl, yn gwybod os ydynt hefo fi neu ddim ac yn gweld faint o chwerthin sydd yna i fy ‘jokes’ gwael.  Rwyf yn ddiolchgar iawn i griw y gadeirlan am y gwahoddiad ac yn weddol ffyddiog i mi gyflwyno ddipyn o hanes tywysogion Gwynedd i’r dorf (yn lle’r bregeth arferol).

 

Os oedd y gwahoddiad i roi sgwrs yng Nghadeirlan Bangor yn un ‘anarferol’, roedd y lleoliad nesa yn fwy ‘diddorol’ byth. Y tro yma gwahoddiad gan Cerys Matthews (ie y gantores / gyflwynwraig yn yr het wen) a gefais i roi sgwrs yn yr wyl ‘Good Life Experience’ mae hi’n guradu gyda Charlie, Caroline a Tara Gladstone (o dras Ewart wrthgwrs) ar Stad Fferm Penarlag. Eto archaeoleg oedd dan sylw.

 

Fy llwyfan y tro yma oedd y llwyfan ‘Cooks & Books’ ac eto dyma her arall. O fy mlaen cafwyd arddangosfa goginio gan enwogion fel Valentine Warner a Thomasina Miers. Wedyn y fi yn trafod ‘Archaeoleg Gogledd Cymru’.  Does ru’n diwrnod ru’n fath – mae hynny yn sicr. Eto, dwi’n credu i mi lwyddo i roi rhyw fath o gyflwyniad o dirwedd archaeolegol gogledd Cymru i’r gynulleidfa dybiaf oedd yn bennaf o Lundain neu yn sicr o ffwrdd.

 

Gofynwyd sawl cwestiwn ar y diwedd, sydd o hyd yn fesur da os oedd y sgwrs yn cydio, a cherddodd neb allan o’r babell. Eto rwyf yn hynod ddiolchgar i Cerys a’r Gladstones am y gwahoddiad. Cefais fy  nghyflwyno i’r llwyfan gan Cerys ei hyn a fe ddywedodd bethau caredig tu hwnt amdanaf. Ella mae’r peth gorau ddywedodd Cerys am ein cyfnod yn cyd-weithio yn ystod dyddiau cynnar Catatonia yw fy mod wedi eu hargymell i ‘redeg’ oedd yn ffordd dda iawn o arall-eirio ‘mynd amdani’.

 

Roedd y rhaglen wedi fy rhestru fel ‘cerddor a bardd’ a chafwyd hwyl wrth esbonio i’r dorf, fy mod yn ‘gerddor punk’ ella wir, ond yn sicr nid yn fardd – ac yn sicr nid yn ‘gerddor go iawn’. Duw a wyr beth oedda nhw yn ei ddisgwyl ond fe aeth lluniau o sgerbydau cyfnod Llychlynaidd yn Llanbedrgoch i lawr yn ffafriol iawn yn y Babell Fwyd !!
 

Ar ol gorffen ‘sgwrsio’ dyma gyfle i fwynhau ychydig ar yr Wyl ei hyn. Y noson flaenorol roeddwn wedi cael cyfle i weld perfformiad gan Wilko Johnson, cyn aelod o Dr Feelgood a cherddor / canwr yn y dull ‘Blues’ / R&B’. Gyda Norman Watt-Roy (o’r Blockheads) ar y bas, dyma un o’r perfformiadau mwyaf egniol dwi wedi weld ers blynyddoedd. Triawd oedd y grwp ond roedd Wilko Johnson mor agos at berffeithrwydd a sydd yn bosib, roedd popeth yn ei le a phopeth i bwrpas o ran y gerddoriaeth.

 

Cefais gyfle i wrando ar fy hen gyfaill o Missouri, Jeb Loy Nichols yn siarad, DJ’io ac yn canu ym mhabell ‘ Caught by the River’, pabell wedi ei threfnu gan Jeff Barrett, y gwr sydd newydd arwyddo’r gantores Gwenno i’w label ‘Heavenly’.  Dyma’r tro cyntaf i mi gyfarfod Jeff, ond roedd yn gyfarwydd a’r Anhrefn, felly digon hawdd cychwyn a chynnal sgwrs a dyma drafod sut fod llwyddiant Gwenno yn ddiweddar wedi newid y naritif o ran cerddoriaeth Cymraeg – fel dywedais wrth Barrett ‘normal not novelty”.

 

Atgoffwyd mi o gyfnod hapus iawn yn gweithio fel rheolwr gyda Jeb  rhwng 2007 – 2010 yn teithio America ac yn rhydhau recordiau ac heb os dyma wr diddorol, deallus, doniol – athrylith. Yn anffodus doedd dim ‘cyflog’ wrth weithio gyda artistiaid fel Jeb, fell roedd angen troi yn ol at yr archaeoleg, ond braf oedd mwynhau ei gwmni yn yr haul poeth ym Mhenarlag.

 

Methais a chael cyfle i wrando ar y nofwraig awyr-agored, Vivienne Rickman-Poole, gwraig hynod ddiddorol sydd ar hyn o bryd yn nofio ym mhob llyn yn Eryri fel ‘prosiect’ – dros 150 ohonnynt. Y rheswm am fethu ei gweld oedd fod y babell yn orlawn a ddim posib cael mynediad. Bu Vivienne yn sgwrsio yn yr Wyl llynedd ac yn amlwg mae ei hanturiaethau yn rhai hynod boblogiadd – mi fu Vivienne ar Countryfile yn ddiweddar, felly ella fod hynny wedi sicrhau mwy byth o wrandawyr iddi.

 
Wythnos nesa bydd pethau yn ol i ‘normalrwydd’, mi fyddaf yn dysgu archaeoleg i ddysgwyr Cymraeg, mae sawl sgwrs i’w rhoi i Merched y Wawr a Chymdeithasau Hanes a byddaf yn gallu gweld eu gwynebau, yn gallu rhannu panad a sgwrs. Petawn yn y Byd Pop byddai’r sgyrsiau diweddar yma wedi cael eu disgrifio fel ‘Stadium Rock”.


 
 
 
 

No comments:

Post a Comment