Thursday 12 November 2015

Adolygiad o Noson Barry Cyrff, Bern Elfyn Presli, Johnny FFlaps ac Al Maffia, Herald Gymraeg 11 Tachwedd 2015





Wel, fe ddigwyddodd y cyngerdd i ‘gofio am’ / ‘dathlu’  Al Maffia, Barry Cyrff, Johnny Fflaps a Bern Elfyn Presli dros y penwythnos yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Ar ol blynyddoedd o siarad am y peth a misoedd o drefnu daeth tua 150 ynghyd i fwynhau cerddoriaeth gan Radio Rhydd, DJ Fflyffilyfbybl, DJ Alan Holmes (Fflaps / Ectogtram), Fiona a Gorwel Owen (Eirin Peryglus), Henry Priestman (The Christians), Neil Crud ac Alan Matthews (4Q), Maffia Mr Huws, Dic Ben a Gethin Jones (Elfyn Presli), Dyfrig Topper a The Earth (grwp newydd Mark Cyrff/ Catatonia a Dafydd Ieuan o’r Super Furry Animals).

O edrych ar Facebook, Trydar a You Tube (y cyfryngau cymdeithasol / y cyfryngau newydd) mae’n ymddangos fod pawb yn hapus. Yr artistiaid yn falch o fod ar lwyfan eto – rhai am y tro cyntaf ers blynyddoedd, rhai am y tro cyntaf ers misoedd ac eraill wrthgwrs heb fod i ffwrdd o gwbl. Y gynulleidfa yn dawnsio drwy’r nos. Roedd yn werth edrych ar y dorf yn ystod perfformiad The Earth – roedd y llawr ddawns fel rhyw olygfa afreal o ffilm am Northern Soul wedi ei leoli mewn ardal chwarelyddol. Fel dywedodd Dionne o’r Earth “there are some interesting moves out there”.

Codwyd cannoedd o bunnoedd i elusen ‘Music in Hospitals’. Cafwyd sel bendith a chefnogaeth teuluoedd y pedwar oedd yn cael eu dathlu. Roedd yn amlwg hefyd fod nifer o hen wynebau yn y dorf – dilynwyr Elfyn Presli o Port, dilynwyr Y Cyrff o Lanrwst, criw Y Fflaps o Fangor a dilynwyr Maffia Mr Huws hefyd yn amlwg. Fel dywedodd Sion Maffia wedyn “mission accomplished”.

Heb os, cafwyd set acwstig bendigedig gan Fiona a Gorwel Owen. Dipyn o her oedd bod ar y llwyfan ar ol egni-anarchaidd Radio Rhydd ond roedd amrywiaeth yn rhan o feddylfryd y noson. Does dim modd canmol digon ar CD newydd Fiona a Gorwel, ‘Releasing Birds’, casgliad hyfryd wedi ei recordio fesul can, fesul mis, dros gyfnod o flwyddyn.

Atgoffwyd pawb, pam mor dda gall Maffia Mr Huws fod pan mae nhw ar eu gorau. A dweud y gwir dyma’r gorau i mi eu gweld / clywed ers yr hen ddyddiau pan roedd Maffia yn prif grwp yn Pesda Roc, a pryd oedd hynny dudwch 1982, 1983? Cyflwynodd Neil Maffia rhwng y caneuon fel ‘pro’ go iawn, yn naturiol ffraeth a doniol ond yn gwneud cysylltiad a’r dorf. Petae Bono wedi ei eni yn Pesda -  eto y neges clir oedd fod Maffia yno i gyfathrebu ac i gysylltu.

Roedd nifer wedi gwirioni hefo Maffia, a hynny am y tro cyntaf, gan gyfaddef yn ol yn nyddiau’r Sin Danddaearol byddai gwrando ar Maffia wedi bod yn Na Fawr. Mae pethau yn newid. .Y farn gyffredinol yw fod Geraint Jarman wedi bod ar ei orau ers blynyddoedd gyda perfformiad gwych yng Ngwyl Arall eleni ac efallai fod Maffia hefyd wedi cyrraedd rhyw bwynt o aeddfedrwydd – fel gwin da. Yr hyn sydd ei angen yw’r llwyfan iawn, a llwyfan o safon o ran sain a goleuo – fe gafwyd hynny yn Neuadd Ogwen.

Cafwyd cyfle i glywed y caneuon ‘Parti Billy Thomas’ a ‘Jackboots Maggie Thatcher’ yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf ers 1986 gyda Dic Ben a Gethin Jones o’r grwp Elfyn Presli yn ymddangos ar y llwyfan. Gall rhywun ddadlau fod ‘Jackboots Maggie Thatcher’ yr un mor berthnasol ac erioed, yn enwedig o ystyried yr hyn mae George Osborne yn awgrymu ar gyfer budd-daliadau. Ond, a mae hyn yn ond pwysig, roedd y caneuon yma yn swnio yn dda heddiw. Can dda yw can dda. Byddai anwybyddu hyn fel ‘nostalgia’ pur yn gwneud cam mawr a’r clasur o ganeuon yma.

Braf oedd cael y cyfle i weld The Earth ar lwyfan eto yng ngogledd Cymru. Dyma’r grwp sydd yn cynnwys Mark Roberts (Cyrff / Catatonia) a Dafydd Ieuan (FFa Coffi Pawb / Super Furry Animals). Mae’r albym ‘Keltic Voodoo Boogaloo’ yn wirioneddol hyfryd ac yn gorlifo o alawon soul pwerus. Cofiwch mai Mark Roberts oedd prif gyfansoddwr Catatonia felly does syndod ond mae hefyd yn bwysig cydnabod Mark fel un o gyfansoddwyr gorau y Byd Pop Cymraeg erioed – sawl clasur sydd gan Y Cyrff? Mwy na da ni yn sylweddoli.

Roedd Mark Cyrff yn hollol allweddol i’r noson hon, Fo, sef hen gyfaill Barry Cyrff, oedd y cyntaf i roi ei sel bendith i’r syniad a hynny heb eiliad o betruso, heb ofyn unrhyw gwestiynau – mae fy mharch at Mark erioed wedi bod yn enfawr, ac os yw’r fath beth yn bosib roedd ei holl agwedd at y noson yn atgyfnerthu hynny. Dyma ddyn sydd yn dallt y dalltings.

Fe gafwyd cefnogaeth gan rhai o’r cyfryngau Cymraeg oedd yn ‘dallt’. Darn bach da yn cyfweld a Dic Ben yn Golwg, rhag-hysbys ar BBC Cymru Fyw a chyfweliad gwych gan Huw Stephens ar C2 ond Peter Telfer (Culture Colony) oedd yno i ffilmio ar y noson. Fel dywedais, y cyfryngau cymdeithasol yw’r dogfenwyr newydd.
Did I Fight in the Punk Wars For This https://www.youtube.com/watch?v=UzdkN8DCquE

Felly fe ddathlwyd cyfraniad y pedwar cerddor. Gobeithio mai edrych ymlaen oedd pawb nid edrych yn ol. Yn sicr dyna fy argraff o’r noson. Ond roedd hyn yn waith caled iawn i ddenu 150 yn unig er mor dda oedd y noson. Fy marn yma yw fod hyn yn ategu’r ffaith fod diffyg buddsoddiad diwylliannol dros y blynoeddoedd wedi di-brisio pethau. Lle nesa? – dyna chi gwestiwn da ond rwyf yn amau rhywsut os mai hon yw’r bennod olaf.


No comments:

Post a Comment