Monday 9 November 2015

Elizabeth Ferres, Herald Gymraeg 4 Tachwedd 2015


 

Mae sawl rheswm dros ymweld ac eglwys Sant Mihangel yng Nghaerwys. Rheswm un, i’r rhai gyda diddordeb mewn ffenestri lliw, fyddai ffenestri Henry Dearle (Cwmni William Morris), ffenestr hyfryd a lliwgar Henry Gustav Hiller ac wrthgrws y ffenestr yn cofnodi Eisteddfod Caerwys 1523/24 ar y wal orllewinol. Rheswm dau efallai, fyddai’r cloc haul rhestredig Gradd II. Ond sgwn’i faint fydda’n gwybod am Rheswm tri?

Nid fod rhain mewn unrhyw drefn blaenoriaeth, ond mae’r corffddelw sydd yn gorwedd ar ochr ddeheuol y gangell yn gorfod bod yn un o drysorau cudd Cymru. Yn llythrennol gudd, yn gorwedd fel y mae, ar ochr y gangell, er o dan fwa addurniedig iawn. Yn ol y son, ac ymhell o fod yn ffaith, dyma gorffddelw Elizabeth Ferres, sef gwraig Dafydd ap Gruffydd.

Cymeriad diddorol yw Dafydd ap Gruffydd (brawd Llywelyn ap Gruffydd) achos ei ymosodiad ar Benarlag ym 1282 sydd yn arwain at y rhyfel olaf gyda Edward I a hynny sydd yn arwain yn uniongyrchol at gwymp Llywelyn ym mis Rhagfyr 1282 a felly at ddiwedd annibyniaeth Cymru yng Ngwanwyn / Haf 1283. Dyma rhywbeth sydd yn ein heffeithio (a chorddi) hyd at heddiw. Pa ddisgybl ysgol yng Nghymru sydd ddim yn cofio’r dyddiad 1282 (medda fi yn obeithiol)?

Rhywsut rydym wedi llwyddo i ddrysu ein hanes. Llywelyn Ein Llyw Olaf sydd yn cael ei gofio, a dydi anturiaethau Dafydd a’i feibion Owain a Llywelyn ddim yn cael eu cofio. Dydi pwysigrwydd cestyll Dolwyddelan, Dolbadarn a Bere yn sicr yn ystod hanner cyntaf 1283 ddim yn cael eu cofio. Dydi pwysigrwydd y ‘llys’ yn Abergwyngregyn ddim yn cael ei gofio mwy na di’r ucheldir o amglylch Bera i’r de o Abergwyngregyn lle y’i daliwyd gan filwyr Edward I.

Yr arbenigwr ar gorffddelwau o’r cyfnod yma yw Colin Gresham. Ei lyfr Gresham, C, A., 1968, Medieval Stone Carvings in North Wales, Sepulchral Slabs and Effigies of the Thirteenth and Fourteenth Centuries yw’r ‘gwerslyfr’, ond dydi Gresham ddim yn gallu cadarnhau mai corffddelw Elizabeth Ferres sydd yn Eglwys Caerwys. Y tebygrwydd yma yw fod y ‘stori leol’ wedi ei dderbyn / fabwysiadu / troi yn wirionedd dros y blynyddoedd.

Pwy bynnag sydd yn gorwedd yma, fe allwn ddadlau fod cael rhywle i gofio am Elizabeth Ferres yn bwysig – fel gyda arch-garreg Llywelyn ab Iorwerth yn Llanrwst – yn amlwg dydi Llywelyn ddim yn gorwedd yno. Priodol hefyd yw atgoffa ein hunnan beth oedd tranc Gwladys, merch Dafydd ac Elizabeth. Fel yn achos ei chyfneither Gwenllian, cael ei gyrru i leiandy am weddill ei hoes, oedd pennod olaf Gwladys – fel na fu modd parhau’r llinach. Treuliodd Gwladys weddill ei hoes yn lleiandy Sixhills, Swydd Lincoln.

Ac o un arwres i’r llall, ffaith arall ddiddorol am Caerwys yw mai yma y ganed Myfanwy Talog, yr actores a leisiodd Wil Cwac Cwac a’r genod yn Siwper Ted. Roedd Myfanwy yn briod a David ‘Del Boy’ Jason ac yn gyfarwydd i gynulleidfaeodd Cymraeg fel y cymeriad Phyllis Dorris yn Ryan a Ronnie.

Gan fod Caerwys yn gorwedd oddiar yr A55, y duedd yw fod pobl yn gwybio  heibio. Ond, yn y rhan yma o’r byd mae’n werth gwneud y detour. Tafliad carreg i’r gogledd-orllewin o gyffordd Caerwys mae Maen Achwyfan. Milltir neu ddwy i’r de, dyma bentref Caerwys. Hanner awr ar y mwyaf sydd rhaid i’r detour gymeryd.

Cysylltiad arall diddorol os yw rhywun am wneud cysylltiadau yw mai Hiller oedd yn gyfrifol am ffenestr goffa John Ceiriog Hughes yn Neuadd Goffa, Glyn Ceiriog. Ceir ffenestri eraill gan Hiller yn Llansannan, Llanbedr y Cennin, Degannwy, Santes Marchell ger Dinbych a Llanllwchaiarn ger Y Drenewydd. Digon o detours felly!

 

No comments:

Post a Comment