Wednesday, 23 December 2015

Caeran Rufeinig ar Ynys Mon, Herald Gymraeg 23 Rhagfyr 2015






Peth anodd weithiau yw gorfod cyfaddef nad ydym yn gwybod! Ond, dyna natur gwaith yr archaeolegydd, rydym yn darganfod rhywbeth newydd yn ddyddiol a mae pob darn o wybodaeth yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r dirwedd hanesyddol yma yng Nghymru. Ond, mae’r archaeolegyddd gonest yn gorfod cyfaddef yn aml (os nad yn ddyddiol) fod yna bethau da ni ddim yn ei wybod. Y pethau yma rydym yn gobeithio eu darganfod wrthgwrs!
Engraifft da o hyn yw’r ffaith nad oes olion y ffordd neu’r ffyrdd Rhufeinig ar draws Môn wedi eu darganfod hyd yma. Mae’n rhaid fod rhai o’r milwyr wedi croesi Môn ar droed, er cofiwch fod y môr hefyd yn gyfleus fel modd o gyrraedd gogledd Môn petae rhywun angen. Ond dyma chi, engraifft o sut mae pethau yn gallu newid yn sydyn, gan fod  archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd newydd wneud darganfyddiadau pwysig iawn am hanes y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Daeth y darganfyddiadau hyn i’r golwg, nid trwy gloddio archaeolegol arferol, ond gydag offer electronig. Esboniai David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd fod offer arolwg geoffisegol yn adnabod mân amrywiaethau yn nodweddion magnetig y pridd ac yn caniatau i archaeolegwyr lunio map o’r olion claddedig, a hynny heb gyffwrdd mewn rhaw.


 Y darganfyddiad diweddaraf yw caeran Rufeinig fechan ger Cemlyn yng ngogledd Ynys Môn. Tynnwyd sylw’r archaeolegwyr at y safle gan Mary Aris, hanesydd lleol sydd yn tynnu lluniau o’r awyr,  wedi iddi sylwi ar siâp crwn mewn cnydau ar fryncyn isel sydd yn edrych dros arfordir Môn.
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gyllid gan Cadw i wneud arolwg geoffisegol o’r safle. Cynhaliwyd yr arolwg gan David Hopewell, ac adroddodd yntau fod y canlyniadau yn rhyfeddol o glîr gan ddangos amlinelliad digamsyniol o gaeran Rufeinig, gydag argoelion o adeiladau petryal oedd mae’n debyg yn farics ar gyfer y milwyr.
Gwelir caeranau fel rhain, sydd yn llai na’r caerau Rhufeinig arferol, mewn mannau arwyddocaol ar ffyrdd Rhufeinig, neu mewn mannau addas ar gyfer gwylio. Amgylchir y gaeran gan ffôs gron, rhywbeth nas gwelwyd yn unman arall yng Nghymru. Ond darganfyddwyd enghreifftiau tebyg ar arfordir gogleddol Dyfnaint (ee Martinhoe), ble tybir fod coelcerthi ar gyfer anfon negeseuon yn cael eu cynnau oddi mewn i’r clostiroedd. Credir fod y gaeran hon yn dyddio o’r ganrif gyntaf Oed Crist.




Mae’r darganfyddiad hwn yn arbennig o gyffrous gan mai dyma’r safle milwrol Rhufeinig cynnar cyntaf i’w ganfod ar Ynys Môn. Cafwyd disgrifiad lliwgar iawn o ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys Môn gan y seneddwr a’r hanesydd Rhufeinig Taciutus, ond hyd yma ni fu unrhyw dystiolaeth o gaerau na ffyrdd ar yr Ynys. Mae Dave Hopewell yn gobeithio bydd y darganfyddiad hwn yn arwain at eraill. Fel rheol byddai oddeutu 15-20 milltir rhwng y caerau a’r caeranau, sef gwaith diwrnod o gerdded, ac fe’u cysylltwyd gyda ffyrdd. Gan hynny, mae’n bur bosib fod caer yn barod i’w darganfod rhywle yng nghanol Môn.
Dyma’r diweddaraf o sawl darganfyddiad wnaethpwyd gan dîm arolwg geoffisegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ystod y degawd diwethaf. Ymysg y darganfyddiadau cyffrous eraill, mae’r dreflan Rufeinig sifil gyntaf i’w chanfod yng nogledd Cymru - ar lan y Fenai - yn ogystal â threflannau, ffyrdd ac adeiladau eraill o amgylch caerau Rhufeinig led-led Cymru nas gwyddid amdanynt o’r blaen.
Felly beth yn union mae hyn oll yn ei olygu? Y tebygrwydd yw fod y gaeran yn perthyn i ymgyrch Agricola yn 77-78 oed Crist. Digon o waith fod y gaeran yn perthyn i ymgyrch Suetonius Paulinus yn 60-61 oed Crist. Agricola oedd yn gyfrifol am orffen yr ymgyrch yng ngogledd Cymru ac o’r cyfnod yma mae’r rhan fwyaf o’r caerau Rhufeinig amlwg yng ngogledd Cymru yn perthyn.
Adeiladau o bren a phridd oedd y caerau cynnar, a wedyn gyda’r mwyafrif bu cyfnod o ail-adeiladu mewn carreg yng nghyfnod Hadrian yn y 120au oed Crist. Heblaw am Segontium yng Nghaernarfon, ymddengys fod y mwyafrif o’r caerau yn mynd allan o ddefnydd wedyn ar ol y 130au. Segontium yw’r unig gaer Rufeinig yn y gogledd sydd yn parhau mewn defnydd drwy’r cyfnpod Rhufeinig a mae’r gaer yng Nghaergybi yn hwyrach, y farn gyffredinol yw fod y gaer yn perthyn i’r 4edd ganrif ac wedi ei chodi er mwyn amddiffyn yr arfordir.
Fel rwyf yn ysgrifennu’r golofn hon mae criw ohonnom ar ran GAT newydd dreulio tridiau yn archwilio caeau i’r gorllewin o Afon Seiont yng Nghaernarfon yn chwilio am ddarnau o lestri pridd Rhufeinig. Cafwyd hwyl arni gyda dros hanner cant o ddarnau yn cael eu darganfod. Hyd yma dydi arwyddocad hyn ddim yn amlwg a does dim awgrym fod yna unrhyw adeilad o dan y pridd ond oleiaf rydym wedi ychwanegu at y rhestr o ddarganfyddiadau o wrthrychau Rhufeinig yn ardal Caernarfon. Cawn weld dros yr wythnosau nesa os yw hyn yn unrhywbeth o bwys.
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cynnal ail arolwg gyflawn o’r ffyrdd Rhufeinig yng Ngwynedd, gan wneud sawl darganfyddiad newydd. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y llyfr poblogaidd :  Roman Roads in North West Wales. Gellir sicrhau manylion pellach am y gaeran, am y llyfr ac am waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar eu gwefan :  www.heneb.co.uk


1 comment: