Wednesday, 30 December 2015

Clawdd Bryn Mawr, Moel Eilio, Herald Gymraeg 30 Rhagfyr 2015







Fel myfyriwr ifanc a diniwed ddechrau’r 1980au ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, cefais un o’r gwersi gorau i mi ’rioed gael o ran archaeoleg. Roedd criw ohonnom ar waith maes ger Gelligaer gyda’r Athro Mike Jarett, arbenigwr ar y Rhufeiniaid, a dyma ni yn ein ‘diniweidrwydd’ yn cerdded dros safle garnedd gladdu Oes Efydd a hynny heb sylweddoli. Pawb rhy brysur yn cymdeithasu a sgwrsio i edrych beth oedd o dan ein traed!
“What have you just done?” bloeddiodd Jarrett arnom. Neb callach nes iddo awgrymu ein bod yn edrych i lawr. Dyna chi ffordd dda o ddysgu. Mae hyn wedi aros ar flaen fy nghof ers hynny.
Tybiaf fod Jarrett wedi dysgu’r ‘wers’ yma yn flynyddol dros y blynyddoedd, gyda myfyrwyr ifanc o ddarpar archaeolegwyr yn siarad yn lle edrych o dan eu traed. Byth ers hynny rwyf wedi cofio fod yn rhaid, os am astudio a dehongli’r dirwedd, treulio rhan o’r amser yn edrych ar y ddaear. Rhaid treulio rhan arall o’r amser yn edrych o’ch cwmpas wrth reswm, er mwyn cael y darlun llawn, ond mae yna nodweddion hynafol yn rhywle o dan ein traed – y gamp yw sylweddoli arnynt a’u hadnabod.
Ar lethrau Moel Eilio yn Arfon mae clawdd hir yn ymestyn am bron i ffilltir ac yn rhedeg mwy neu lai yn gyfochrog a’r llwybr am gopa Moel Eilio. Os edrychwch ar safle we ‘Archwilio’ disgrifir y clawdd yma fel ‘linear earthwork – unknown’. Y consensws yw fod hwn yn glawdd ffîn rhwng plwyfi Llanberis a Waunfawr ond a oes hanes cynharach i’r clawdd yma? Wrth edrych o dan ein traed felly yr hyn a welir yw clawdd isel, oddeutu 2.5 medr o led ac yn amrywio o ran uchder ond oddeutu 0.75m. Ar yr ochr orllewinol gwelir olion y ffôs, eto oddeutu 2.5m ar draws a 0.5m o ddyfnder er fod y ffôs yn naturiol wedi llenwi dros y blynyddoedd. Adeiladwyd y clawdd yn wreiddiol drwy dyllu’r ffôs a defnyddio’r pridd a’r cerrig wedyn i greu y clawdd. Techneg debyg oedd codi cloddiau Offa a Wat i raddau.



Dangosir golwg manylach fod nifer o gerrig yn y clawdd ac rwyf yn amau fod rhai cerrig syth wedi eu gosod fel ochr (revetment) i’r clawdd er nid ar hyd yr holl glawdd. Felly os am dderbyn fod hwn yn glawdd ffîn plwyf mae’r archaeolegydd Frances Lynch hefyd wedi awgrymu fod iddo bwrpas amaethyddol  gan ei fod yn glawdd mor sylweddol.
Byddai clawdd fel hyn wedi ei godi cyn y waliau cerrig sychion a ddefnyddir ers y ddeunawddfed ganrif i reoli’r porfeydd, felly awgrym Lynch yw fod dyddiad canoloesol efallai yn fwy addas ar gyfer clawdd o’r fath. O ystyried agosatrwydd Castell Dolbadarn (un o gestyll tywysogion Gwynedd) oes modd awgrymu fod y clawdd yn perthyn i gyfnod un o’r ddau Llywleyn?
Byddai’r llethrau yma yn sicr wedi bod yn rhan o borfeydd a ffriddoedd tywysogion Gwynedd. A’i clawdd i gadw trefn ar eu defaid a gwartheg oedd hwn? Yn sydun iawn mae’r clawdd yma yn llawer mwy cyffrous na ffîn plwyf.
Ond yr hyn sydd yn achosi pryder mawr i rhywun, yw fod darnau o’r llwybr i gopa Moel Eilio mwy neu lai ar linell y clawdd. Canlyniad hyn, a gan fod tir ddigon gwlyb ar ddarnau o’r llwybr, yw fod cerddwyr yn tueddu i ddefnyddio’r clawdd fel llwybr sych. Gwelir oel erydu difrifol ar ddarnau o’r clawdd a hynny gan gerddwyr sydd ddim callach eu bod yn erydu clawdd canoloesol. Mae cyflwr y clawdd i ffwrdd o’r llwybr yn parhau yn dda.
Cyfeirnod Map OS Clawdd Bryn Mawr yw SH 558595 – SH 557582.




1 comment: