Wednesday 2 December 2015

Eglwys Gadeiriol Llandaf, Herald Gymraeg 2 Rhagfyr 2015








Ychydig dros wythnos yn ol roedd erthygl yn y Guardian (Tachwedd 20) am daith gerdded neu daith dywys ‘seico-ddaearyddol’ wedi ei harwain gan yr awdur a’r seico-ddearyddwr Wil Self o amgylch dinas Bryste. Fel y gwyddoch, seico-ddaearyddiaeth yw’r ddamcanaiaeth neu’r ddisgyblaeth (os yw hynny yn bosib?) o grwydro’r strydoedd Dinesig a darganfod y lle. Roedd Self wedi gorfodi ei gynulleidfa i roi eu gwynebau yn erbyn wal er mwyn ‘teimlo’ a ‘phrofi’ y lle. Hawdd chwerthin, mae Self yn ddipyn o gymeriad, ond mae modd cymeryd rhywbeth o hyn, ac un peth gall pawb ei wneud yw trio ymweld a rhywle newydd neu gwahanol pob tro mae rhywun yn teithio.
Does dim o’i le ac ail ymweld a llefydd chwaith, ar yr ail-ymweliad mae pethau yn gallu bod yn fwy amlwg, mae’n haws dehongli, mae rhywun yn gallu prosesu pethau yn well. Un awgrym ar gyfer Caerdydd yw mentro fyny i bentref Llandaf er mwyn ymwled a’r Gadeirlan. Beth bynnag sydd yn denu rhywun i Gaerdydd, boed yn waith, cyfrafod, cynhadledd, chwaraeon, cyngerdd mae’n werth felly creu ychydig o amser i weld (ymweld a) rhywbeth arall – a’r Eglwys Gadeiriol sydd dan sylw yr wythnos hon.


Os am ddilyn yr un math o lwybrau a Wil Self gellir ymlwybro ar hyd blamantau llawn dail Heol yr Eglwys Gadeiriol a chroesi wedyn Gaeau Llandaf, croesi’r  ‘Western Avenue (A48) a dilyn y llwybr troed draw at waleod (ochr de-orllewinol) yr eglwys a wedyn heibio Mynwent Llandaf a Ffynnon Teilo. Nid fod hyn yn ‘seico-ddaearyddiaeth’ pur achos rydym yn gwybod lle da ni’n mynd neu anelu ato a mae twr yr eglwys yn berffaith fel nodwedd ar y tirwedd i’n harwain yn y cyfeiriad iawn. Rwyf am gyrraedd yr eglwys felly does dim ‘disgrifiad’ o’r daith dim ond y ‘cyrraedd’.
Wrth ymweld a’r eglwys gadeiriol cawn gasgliad bendigedig (5 ohonnynt) o ffenestri lliw o wneuthuriad William Morris & Co. Gall yr ymwelydd fwynhau’r ffenestri yma yn yr un ffordd a mae’r ymwelydd yn mwynhau darnau o gelf mewn Oriel neu Amgueddfa. Cawn hyd i’r ffenestri ar hyd ystlysau deheuol a gogleddol yr eglwys. Hawdd eu hadnabod achos mae’r naws ‘Cyn-Raffaelaidd’ mor amlwg.
Fel arfer, rydym yn son am ffenestri lliw o wneuthuriad Morris & Co, ond yn amlach na pheidio y cynllunydd yw Edward Burne-Jones, a mae cynlluniau Burne-Jones yn amlwg yn Llandaf. Ond yma cawn hefyd engreifftiau o waith Ford Madox Brown, sydd yn llai cyffredin ar ffenestri lliw, er gallaf feddwl am ffenestr sydd yn cynnwys ei waith (cartwns) yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd. Lluniau o Seimon a Jiwdas yn un o ffenestri’r Ystlys Ogleddol yw rhai o waith Madox Brown.
Un arall o arlunwyr y frawdoliaeth Cyn-Raffaeliaid yw Dante Gabriel Rosetti ac yn Nghapel Euddogwy cawn engraifft gwych o’i waith ar ffurf triptych wedi ei beintio rhwng 1856 ac 1864. Cawn lun o’r genedigaeth a Dafydd Frenin ond yn ddiddorol iawn, a fel sydd mor gyffredin gyda’r Cyn-Raffaeliaid, defnyddir wyneb William Morris ar gyfer Dafydd Frenin a wyneb Burne-Jones ar gyfer y bugail sydd yn cyfarch yr Iesu. Yn yr un modd mae bron pob merch ganddynt yn seiliedig ar Janey Morris neu Lizzy Siddal, sef y merched glaer-wyn walltgoch sydd mor amlwg yn rhan o waith y Cyn-Raffaeliaid.


Gellir dadlau fod yn werth ymweld ar eglwys gadeiriol er mwyn gwerthfawrogi triptych Rosetti yn unig. Bonws hyfryd yw cael y ffenestri lliw. Ond yn Eglwys Gadeiriol Llandaf mae darn arall o waith sydd yn gorfod bod yn un o’r darnau gorau gan y Cyn-Raffaeliaid erioed – a hwn yw’r ceflun seramig gan Burne-Jones. Cerflun ar ffurff paneli porslen tu cefn i’r allor yng Nghapel Dyfrig yw’r gwaith yma yn dangos Chwech Diwrnod y Greadigaeth. Does ’na ddim panel ar gyfer Dydd Sul yn amlwg! Eto cawn wyneb a wynebau Janey Morris (dybiwn i) yn disgleirio yn llythrenol oherwydd y proslen. Dyma chi ddarn o waith celf sydd yn wirioneddol rhyfeddol a bendigedig, mor agos i berffeithrywdd neu yn sicr mor agos i berffeithrwydd a sydd angen bod.
Awgrymaf fod Burne-Jones ar ei orau yma, ac amlygir y ffaith fod stiwdios William Morris yn feithrinfa i grefftwyr ac i wneuthuriad yn ogystal a chreadigwrwydd a chelf. Hyfryd bethau go iawn, dyma ‘ddarn’ lle gallwch dreulio amser yn hawdd yn rhyfeddu ac ymgolli. Heb os roedd y cymeriadau yma, Morris a Burne-Jones, yn ddynion gyda gweledigaeth a’r gallu ganddynt i wireddu’r weledigaeth honno. Rhyfeddol.



Er cymaint mae Llandaf yn bererindod bwysig i ddilwynwyr celf y Cyn-Rafaeliaid mae’r safle hon hefyd yn byrlymu o nodweddion arall diddorol. Tu allan i’r eglwys yn y wal dde-orllewinol cawn engraifft wych o ddrws gyda bwa patrymog Normanaidd (Romanesque) yn dyddio i’r 12fed ganrif. Yr hyn sydd hyd yn oedd yn fwy rhyfeddol am y drws / bwa yma yw’r ffaith iddo wrthsefyll bom Almeinig ym 1941. Dwi ddim yn hollol siwr beth oedd tranc y ffenestri lliw yn ystod yr Ail Ryfel Byd?


Ac yn olaf, a dyma chi brofiad gwefreiddiol, wrth gamu i mewn i’r eglwys drwy’r drws gorllewinol mae rhywun yn edrych ar hyd yr eglwys. O’n blaen mae cerflun y ‘Majestas’ (Mawredd Crist) gan Jacob Epstine (1957). A dyna chi un o ryfeddoadau Cymru. Arhoswch ar y grisiau cyn camu i mew n achos dyma’r lle gorau i werthfawrogi gwaith Epstein. Hyfryd. Hollol hyfryd.
Anghofiwch seico-ddaearyddiaeth a Wil Self am funud. Mae modd crwydro i bwrpas. Dyma daith sydd werth ei gwneud pan ddaw’r cyfle – cymerwch y cyfle hynny!



No comments:

Post a Comment