Saturday, 19 December 2015

Pwy oedd y Punks Cyntaf yng Nghymru? (Barn Rhif 635/636)

Steve Strange. Llun: Lorriane Owen


Gareth Potter (Clustiau Cwn) “Dwi’n cofio clawr Pretty Vacant hefo’r ddau fws ‘Nowhere’. Going fucking nowhere! - roeddwn wrth fy modd hefo hunna!”


Oes, mae digon o ystradebau yn gysylltiedig a hanes pync ddiwedd y 1970au, y poeri a’r rhegi a’r ‘safteypins’ drwy’r trwyn, ond mae yna hanes arall yma hefyd, hanes unigolion a chymeriadau sydd yn rhannu diddordeb mewn ffasiwn a cherddoriaeth, cymeriadau yn eu hanfod sydd yn wrth-sefydliadol, a mae rhai ohonnynt o Gymru……

Gwaelod: Mark Taylor (ail o'r dde) a Steve Strange (dde)
Canol: keith Richards (canol y llun)
Cefn: Colin Fisher (hefo'r sigaret)


Felly pwy oedd y pyncs cyntaf yng Nghymru? Dyna’r cwestiwn cychwynnol wrth ddechrau gwneud gwaith ymchwil ar sut bu i ffasiwn a cherddoriaeth pync, rhywbeth dinesig yn ei hanfod (meddyliwch Efrog Newydd a Llundain), dreiddio i mewn i rannau o’r gymdeithas Gymreig a dylanwadu ar yr hyn y byddwn yn ei alw yn ‘unigolion’ neu yn sicr yn ‘gymeriadau’ arbenig. Awgrymaf fod hyn yn astudiaeth o hanes cymdeithasol Cymru mewn cyfnod penodol a mae’n stori sy’n haeddu mwy o sylw a thriniaeth nac ambell erthygl neu eitem ar y cyfryngau.

Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn, rhaid mynd yn ol i 1976 yn benodol, a hynny cyn digwyddiadau allweddol fel ymddangosiad y Sex Pistols ar rhaglen Bill Grundy a’u perfformiad yn Sinema y Castell, Caerffili, hynny ym mis Rhagfyr 1976. Mae’r pyncs cyntaf yng Nghymru eisoes yn bodoli a rhaid mynd yn ol i’r blynyddoedd cyn 1976 os am deall gwreiddiau’r stori.



O ran hanes pync, mae llyfrau Jon Savage (1991, ‘England’s Dreaming’ ) a Chris Sullivan (2001,‘Punk’) yn rhai gwerth chweil ond y grwpiau a’r cerddorion sydd yn hawlio’r rhan fwyaf o’r sylw ganddynt, y cymeriadau yn y gynulleidfa sydd am hawlio fy sylw i.
Wrth ddechrau ymchwilio yr hanes yma, roeddwn yn ymwybodol fod ‘cymeriadau’ fel Chris Sullivan o Ferthyr a Steve Strange o Borthcawl ymhlith y pyncs cyntaf yma yng Nghymru. Mae’r ddau wedi cyfrannu’n helaeth i raglenni teledu yn trafod y cyfnod. Bu farw Steve Strange yn ddiweddar, a mae yn cael ei gofio fel sylfaenydd y clwb nos ‘Blitz’ a fel prifleisydd y grwp Viasge tra fod Sullivan yn adnabyddus fel DJ, awdur a phrifleisydd y grwp Blue Rondo ala Turk’.

Chris Sullivan 2015

Ond, wrth ddechrau recordio cyfweliadau hefo rhai o’r ‘pyncs cynnar’ yng Nghymru, dyma sylweddoli fod gwreiddiau hyn oll yn mynd yn ol i’r blynyddoedd cyn 1976, a fod criw o ddwsin a mwy ohonnynt, a hynny yn ne Cymru, wedi dod at eu gilydd, bron fel ‘gang’ sydd yn stori ddiddorol yn ei hyn.

Dyma chi Chris Sullivan yn trafod y traddodiad o wisgo fyny mewn trefi fel Merthyr Tudful
“Ym Merthyr Tydfil,  roedd ffasiwn a cherddoriaeth, ac ymladd a pheldroed, i gyd yn rhan o’r un peth, y skinheads caletaf oedd wedi gwisgo orau. Mae ffasiwn yn draddodiad ym Merthyr. ”

Ond yr hyn sydd yn dod yn amlwg o gyfweld a Sullivan yw fod y ‘cymeriadau’ yma wedi dechrau gwisgo’n heriol cyn iddynt glywed am pync, roedd y daith wedi dechrau iddynt yn gynharach yn y 1970au.

Chris Sullivan “Mi ddechreuon ni wisgo yn fwy a mwy heriol, roedd pawb yn trio bod yn fwy gwallgof na’u gilydd. Mi ges fy mam i neud crys T lledr i mi a hyn ym 1976, hefo zip”

Wrth son am ei chyfaill, Steve Strange, mae’r gantores Lowri Ann Richards o Gricieth, yn cydnabod pam mor ddylanwadol oedd Strange, roedd unigolion fel hyn yn gatelyddion perffaith ar gyfer yr hyn oedd i ddod -  Punk Rock’

Lowri Ann-Richards “Mi oedd ganddo ddigon o hyder i fod fel rhyw fath o ‘peacock’ – fo agorodd y ffordd i bobl gwahanol gael mynegiant a gwisgo fyny”

Steve Strange. Llun: Lorraine Owen


Rhywbeth allweddol i’r stori hefyd oedd oed y ‘cymeriadau’. Roedd y criw cynnar yma o dde Cymru hefyd yn cynnwys cymeriadau fel Mark Taylor a Keith Richards o Gaerdydd, a Lorraine Owen o’r Rhondda, a’r hyn oedd yn eu cysylltu oedd eu hoffter o gerddoriaeth Roxy Music, David Bowie, Lou Reed a hefyd eu hoffter o wisgo fyny ac o ddawnsio.

Lorraine Owen “Roxy Music oedd y grwp cyntaf lle roedd gwisgo’n eithafol yn gysylltiedig a’r peth. Eno nid Ferry oedd o i mi. Symudais (o’r Rhondda) i Gasnewydd a dod yn ffrindiau a phobl hoyw a nhw liwiodd pethau wedyn”

Lorriane Owen a Rhys Mwyn @ Merthyr Rising 2015

Hyd yma, dwi heb gyfweld ac unrhywun oedd heb fod yn gwrando ar Roxy Music a Bowie cyn dechrau dilyn cerddoriaeth pync, felly yr un yw’r patrwm bob tro – unigolion yn darganfod dylanwadau ar yr ymylon, dylanwadau mwy heriol neu arbrofol os mynnwch.
Dyma pam mae eu hoed mor allweddol, y bobl ifanc yma oedd yn cyrraedd eu harddegau hwyr fel roedd pync yn dechrau, felly rhain oedd yn gallu mynd allan i’r clybiau nos a chael gwisgo fyny a dawnsio. Rhy ifanc a doedd dim modd mynd allan i’r clybiau nos, rhy hen a bydda pync rioed ’di cydio.

Keith Richards “Mi oedda ni gyd yn unigolion, pawb yn wahannol – “space cadets”. Dawnsio a ffasiwn oedd y peth pwysig”

Mae’n debyg fod rhai fel Steve Strange (a cymeriad arall o’r enw Colin Fisher) ymhlith yr arloeswyr o ran gwisgo’n eithafol ond roedd pawb cysylltiedig wedi dechrau gwisgo fyny, mynd allan i ddawnsio a gwrando ar recordiau cyn iddynt glywed am pync, felly yn amlwg roedd rhain yn gynulleidfa barod ar gyfer grwp fel y Sex Pistols, yn rhannu’r un meddylfryd a dylanwadau.
Yr hyn sydd yn wirioneddol ddiddorol o ran hanes cymdeithasol Cymru a’r Cymoedd yn benodol (a oedd yn prysur droi’n ol-ddiwydiannol), yw fod y cymeriadau yma o drefi ac ardaloedd gwahannol ond wedi dod at eu gilydd i ffurfio’r ‘gang’. Dyma sut mae Mark Taylor yn esbonio pethau

Mark Taylor “Beth oedd gennyt ti yn ne Cymru oedd criw o bobl, yr holl ffordd o Gasnewydd, Caerdydd, Penybont, Abertwae a fyny i Ferthyr. Roedd y criw yma wedi bod yn dilyn Roxy Music a Bowie. Mi oeddan yn gweld ein gilydd mewn clybiau nos ac yn cyfarch ein gilydd, mi oeddat yn gweld rhywun wedi gwisgo fyny yn eitha ‘cwl’ – a mi fyddat yn gwybod sut oedda nhw’n meddwl”.

Mark Taylor 2015

Ar y 1af Rhagfyr, 1976 fe ymddangosodd y Sex Pistols ar raglen Bill Grundy, a rhegi, a fe ddaeth pync i sylw y wlad gyfan diolch i’r papurau dyddiol. Mae cyngerdd y Sex Pistols yng Nghaerffili, 14 Rhagfyr, yn ystod y daith ‘Anarchy in the UK’ yn digwyddiad sydd wedi cael ei drin a’i drafod yn eitha trylwyr. Mae’n werth gwylio rhaglen ddogfen Nicola Heywood Thomas ar gyfer HTV i gael hanes y cyngerdd yma. Gellir gweld y rhaglen gyfan ar YouTube.
Heblaw am y ffaith fod y cyngerdd bellach yn ‘chwedlonnol’ oherwydd y gwrthdystiadau tu allan gan bobl leol yn canu carolau, rhywbeth arall diddorol yw fod y cyngerdd wedi ysbrydoli rhywun mor ifanc, ar y pryd, a Gareth Potter.

Caerffili 1976. Llun: Dave Smitham


Gareth Potter “Ro’n i yn 11 oed yn 1976 pan ddaeth y Sex Pistols i Gaerffili. Dwi’n dweud hynny wrth bawb, doeddwn i ddim yn y gig ond fe gafodd y gig ddylanwad mawr ar y dref. Mi ddaeth y Pistols yma gryn wythnos ar ol rhegi ar y teli. On’i isho mynd ond roedd Mam a Dad yn pallu gadael fi fynd. Er ro’n i’n ifanc roeddwn i’n ymwybodol”

Ond, fel mae Mark Taylor, un o’r pyncs cyntaf o Gaerdydd, yn elguro, roedd y Pistols wedi ymweld a Chymru yn gynharach ym 1976

Mark Taylor “Mae pawb yn son am y cyngerdd yng Nghaerffili ond mae nhw’n anghofio am y gigs arall. Roedd y Sex Pistols wedi chwarae yn Stowaway’s Casnewydd, Top Rank Caerdydd a Bubbles, Abertawe yn barod”.

Mark Taylor a Alison Lowndes 1976


Fe ddiwgwyddodd y daith gyntaf gan y Pistols yn ystod mis Medi 1976, ond erbyn i glustiau Cymru ddechrau clywed am pync roedd y pyncs cyntaf yn barod i symud ymlaen, ac yn sicr erbyn 1977 roedd nifer wedi gwneud hynny, fel esboniai Chris Sullivan.

Chris Sullivan “Erbyn i’r cyngerdd ddigwydd yng Nghaerffili roedd yr holl beth braidd yn ddiflas i ni. Yn y 1970au, roedd ffasiwn yn newid ac yn diflannu o fewn ychydig fisoedd”.

Efallai fod Sullivan yn taro’r hoelen ar ei phen wrth egluro fod eu cefndir yn un mwy-anghydffurfiol - gyda pywyslais ar fod yn wahanol. Ar ol Bill Grundy, fe ellir dadlau fod pync wedi troi yn rhywbeth ‘poblogaidd’ os nad ‘derbynniol’ yn sicr i rai .
Wrth drafod effaith rhaglen Grundy mae MarkTaylor yn awgrymu mae’r oll oedd angen wedyn oedd “jeans di rhwygo a siaced lledr a ffwrdd a chi” , felly os am ddadlau am burdeb pync, mae lle i dadlau fod pethau yn newid o hyn ymlaen.

Chris Sullivan “Mi ddywedwn i ein bod wedi gorffen hefo pync erbyn 1977, roedd yr holl beth yn mynd yn dderbynniol a doedda’ni ddim y math o bobl fydda’n rhan o hynny”

O ran y pyncs cynnar yn ne Cymru, a rhain awgrymaf, yw’r pyncs cyntaf yng Nghymru, mae’n weddol amlwg eu bod am ymwrthod a pync munud mae’r peth yn troi yn boblogaidd neu yn ddebynniol. Rhain wedyn sydd yn arwain y ffaswin nesa, sef y ‘New Romantics’ gyda Sullivan a Strange yn allweddol o ran sefydlu clybiau nos yn Soho ac yn hyrwyddo’r don nesa o ran ffasiwn a cherddoriaeth. Dyma stori Boy George a Spandau Ballet.

Heb os fe gafodd pync ddylanwad ar y sin Gymraeg. Mor fuan a 1976, mae unigolion fel Gary Beard a Dafydd Rhys o ardal Llanelli yn darganfod y gerddoriaeth newydd yma, ond rhaid aros tan 1978 nes fod Beard a Rhys yn rhyddhau’r record ‘pync’ cyntaf yn y Gymraeg, ‘N.C.B’ fel aelodau o’r Llygod Ffyrnig. Does fawr o Gymraeg rhwng y pyncs cyntaf yna yng nghriw Steve Strange.

Gary Beard (Llygod Ffyrnig) “Darllenais i am ffenomen pync yn y wasg gerddorol, ond mewn partïon yn y coleg yn Hull glywais i'r caneuon gyntaf. 'New Rose' gan y Damned oedd y gân pync gyntaf i fi glywed.

Dafydd Rhys (Llygod Ffyrnig) “Clywed y Damned a'r Sex Pistols ar John Peel – anghofia’i fyth y wefr o glywed ‘Anarchy’ am y tro cynta, a mae'n dal i weithio i fi. Fe brynes i y sengl gwreiddiol EMI yn siop recordie Falcon Music, Llanelli - sydd wedi cau bellach - doedd y Woolworths lleol ddim yn stocio'r Pistols!

Heb pync, mae modd dadlau na fydda ni wedi cael y Trwynau Coch a gallwn weld y gwaddod pell gyrhaeddol wedyn, er engraifft, os yw rhywun yn ystyried cyfraniad unigolyn fel Gareth Potter i’r sin Gymraeg. Magwyd Potter yn Abertridwr ger Caerffili.

Gareth Potter “Ro’n i yn 11 oed yn 1976 pan ddaeth y Sex Pistols i Gaerffili. Dwi’n dweud hynny wrth bawb, doeddwn i ddim yn y gig ond fe gafodd y gig ddylanwad mawr ar y dref. Mi ddaeth y Pistols yma gryn wythnos ar ol rhegi ar y teli. On’i isho mynd ond roedd Mam a Dad yn pallu gadael fi fynd. Er ro’n i’n ifanc roeddwn i’n ymwybodol”

Felly’r ddolen gyswllt gyda dilynwyr cynnar pync ym 1976 yw hoffter, os nad obsesiwn, hefo cerddoriaeth, ffasiwn a dawnsio. Mae pync yn datblygu yn gynnar iawn yn ne Cymru oherwydd Steve Strange a’r criw. Os unrhywbeth, doedd pync ond llwyfan arall iddynt wisgo yn fwy lliwgar nac o’r blaen. Y rhai sydd yn dod wedyn, 1977 ymlaen, yw’r rhai sydd yn mabwysiadu’r ochr wleidyddol – ond mae hon yn stori arall…..

Gareth Potter “Wel, mewn trefi bach ti’n stico-mas. Ti unai yn cyd-ymffurfio neu ti’n stico mas – a dyna sy’n digwydd, ma’r bobl sy’n stico-mas yn dod at eu gilydd”




















1 comment: