Wednesday 6 January 2016

Dim Gwenno? Herald Gymraeg 6 Ionawr 2016




‘40 Mawr Radio Cymru’. Dim ond un cân !!!!! Dim ond un gân gan Edward H Dafis a dim ‘Mistar Duw’ oedd honno. Dwi’n teimlo fel sgwennu i gwyno. Dwi’m haws a chwyno os nes i ddim pleidleisio. Ond, mae’n gwneud darllen diddorol. Dyma chi restr o 40 hoff ganeuon gwarandawyr Radio Cymru ar gyfer 2015.

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35091762?ns_mchannel=social&ns_campaign=bbc_cymru&ns_source=twitter&ns_linkname=wales

Ar un wedd fe all y siart yma fod wedi ei greu 10 mlynedd yn ôl a bydd y siart ddigon tebyg mewn 10 mlynedd i ddod. Yr eithriadau yw grwpiau nawr, sef Candelas hefo ‘ Llwytha’r Gwn’ a’r ail gân ganddynt ‘Anifail’ a Swnami hefo ‘Gwanwyn’, sydd yn golygu fod Candelas ar hyn o bryd fwy poblogaidd na Edward H Dafis (swyddogol!!) Mae hyn fel datgan fod Coldplay fwy poblogaidd na’r Beatles gan ystyried fod unrhywun sydd yn hoffi’r Stone Roses, Smiths, Bob Dylan, Johnny Cash, Aretha Franklin, Nina Simone - ddim hyd yn oed yn malio am ffeithiau mor ddibwys.

Pymtheg mlynedd yn ôl grwpiau fel Big Leaves ac Anweledig oedd ar y brig. Yn amlwg doedd y grwpiau yma ddim yn gallu sgwennu ‘clasuron’ a does dim son amdanynt bellach. Dyna fydd tranc cenhedlaeth grwpiau fel Candelas hefyd (neu yn sicr y mwyafrif) a bydd y clasuron hwiangerddol arferol mewn blynyddoedd i ddod yn parhau i deyrnasu.

Wrth awgrymu fod y Siart yn gwneud darllen ‘diddorol’ rwyf mwy neu lai yn cyfaddef, fel bwyd sydd ddim at fy nant, fod ‘diddorol’ yn gyfystyr a ‘rhagweladwy’, a’r y gwaethau ‘di-flas’ neu fel fydda cenhedlaeth trydar yn trydar #lol #wtf #OMG

Cawn ddwy gân yn y rhestr o 40 sydd yn gwneud dim synnwyr o gwbl. Y cyntaf yw ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ gan y Cyrff. Heb os fe ddylia hon fod mewn unrhyw restr o 10 Uchaf Cymraeg ond mae hyn fel dweud eich bod yn hoffi Coldplay a’r Clash o ystyried y cwmni mae’r Cyrff yn ei gadw. Felly hefyd ‘Dere Mewn’ gan Colorama – yr unig gân ddiweddar sydd wedi ei chrefftio a’i chynhyrchu go iawn (a nid fel cân Gymraeg). Nid fy mod yn anghytuno a’u cynnwys, ond fy mod yn methu deall sut mae modd i ganeuon fel hyn orwedd yn yr un gwely a’r clasuron hwiangerddol?

Os am restr fwy ‘llug-oer’  rhaid troi at 10 Uchaf 2015 gan Owain Schiavone yn Golwg 360. Eto mae’n gwneud darllen ‘diddorol’. Diddorol yn yr ystyr fod cymaint o enwau diethr yn y rhestr. Mae nifer o’r artistiaid yma yn ‘newydd’ ac yn ‘newydd go iawn’ a rhaid canmol Schiavone yn hyn o beth am lunio rhestr o’r fath. Rhaid fod Schiavone am genhadu’r efengyl yma. Beth am ddarganfod ‘Breichiau Hir’ neu ‘Rogue Jones’ rhai o’r artistiaid yn y rhestr.

Rhaid cyfaddef fod Rogue Jones yn enwedig werth gwrando mwy arnynt. Mae Y Reu yn creu synnau sydd werth rhoi gwrandawiad iddynt a mae’r Ods gyda’r fideo Ewropeaidd yn gwneud y synnau iawn. Mewn ffordd dyma’r gwrthbwynt i’r clasuron hwiangerddol sydd yn 40 Mawr Radio Cymru. Nid fod yr artistiaid ‘newydd’ yma yn cael eu hanwybyddu gan Radio Cymru. Mae’r rhaglenni mwyaf hwiangerddol yn eu chwarae.

http://golwg360.cymru/celfyddydau/209633-10-uchaf-caneuon-2015

Ond mae ambell absenoldeb yn taro rhywun. Dim Gwenno er engraifft yn unrhyw restr. Heb os, Gwenno yw’r artist Cymraeg sydd wedi gwneud yr argraff rhyngwladol mwyaf yn ystod 2015 a hynny heb gyfaddawdu (fel y rhan fwyaf o artistiaid ‘Cymraeg’ drwy ganu yn Saesneg). Yr unig ddwy-ieithrwydd gyda Gwenno yw’r Gernyweg.

Yn amlwg dydi’r Super Furry Animals ddim chwaith yn gallu sgwennu clasuron ddigon gafaelgar a chofiadwy i wneud hi i’r 40 Uchaf er cymaint eu llwyddiant rhyngwaladol. Doedd y ‘ffans’ hwiangerddol ddim am ‘Cŵl Cymru’ –  a dyna’r ffaith.

No comments:

Post a Comment