Wednesday 27 January 2016

Gwyngalchu Hanes, Herald Gymraeg 27 Ionawr 2016




Tydi Hanes ddim yn rhywbeth da ni fod i gytuno a fo, mae o i fod yn rhywbeth i’w drafod yn y gobaith ein bod yn dysgu rhywbeth. Does dim modd gwyngalchu hanes, fe ddigwyddodd beth ddigwyddodd, ac ar adegau mae’n gwneud darllen a thrafodaeth ddigon anodd ond pob amser yn ddiddorol.
Mae achos diweddar  ‘Rhodes Must Fall’, sef yr ymgyrch gan fyfyrwyr i gael gwared a chofeb Cecil Rhodes ar adeilad Coleg Oriel, Rhydychen yn peri gofeb i rhywun.Dwi ddim yn credu fod unrhywun yn dadalau fod Cecil Rhodes yn berson dymunol – ef wedi’r cyfan roddodd ei enw i Rhodesia (Zimbabwe heddiw) ac ef oedd un o benseiri rhannu pobl ar sail lliw (apartheid) yn ne Affrig. A dweud y gwir mae Rhodes yn engraifft perffaith o’r Imperialydd Fictoraidd mwyaf hiliol ac annymunol dan Haul.
Nid yn aml byddaf yn cytuno a Thori rhonc fel Chris Patten, Canghellor Prifysgol Rhydychen, ond yn yr achos yma fe ofynnodd Patten gwestiwn da – beth sydd yn digwydd i gofebau rhywun fel Churchill pan mae rhywun yn anghytuno a a rhywbeth wnaeth hwnnw? Faint bynnag mae rhywun yn anghytuno a Churchill yn hanesyddol, (gwrthwynebu hunaniaeth India yn y 1930au) rhaid cydnabod iddo wrthsefyll Hitler – doedd hunna byth yn mynd i fod yn joban hawdd.
Ac yn agosach at gartref, mae digon o drafod am Lloyd George yndoes. A ddylid cael gwared a chofeb Lloyd George (cerflun hynod William Goscombe John) ar Faes Caernarfon rhag pechu’r Gwyddelod? Fe welir hyd at heddiw baent gwyrdd ar y llawr o amgylch cofeb Lloyd George ar Faes Caernarfon, yn dilyn rhyw brostest neu’i gilydd. Byddaf yn cyfeirio at hyn yn aml fel ‘tystiolaeth archaeolegol’.
Neu, yr engraifft gorau mae’n debyg yng ngogledd Cymru fyddai Castell Penrhyn. Hyd heddiw mae Streic Fawr y Penrhyn 1900-03 yn parhau i fod yn bwnc emosiynol os nad llosg a rwyf yn deall hynny yn iawn. Ond a ddylid chwalu Castell Penrhyn yn gyfan gwbl, cael gwarad a phob carreg o’r dirwedd? O ran sentiment – dylid. O ran yr Hanes a phensaerniaeth mae hynny yn gynnig gwallgof.
Byddaf yn tywys yn aml yng Nghastell Penrhyn, mynd ac Americanwyr yno yn bennaf, ar hyn rwyf yn ei gael wrth ymweld a Phenhryn yw cyfle i roi hanes Cymru a’r Chwyldro Diwydiannol mewn cyd-destyn. Does neb, ddim hyd yn oed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwyngalchu’r Hanes yma a rwyf innau fel disgynnydd i deulu o chwarelwyr Dyffryn Nantlle yn hollol ymwybodol fod angen troedio yn ofalus ar lwybr Hanes – egluro a thrafod yn ddi-duedd ond gyda gwen fach efallai ar fy ngwyneb.
Dydi fy nghefndir ddim yn fy rhwystro rhag gwerthfawrogi pensaerniaeth Thomas Hopper mwy na di fy Nghymreictod yn fy rhwystro rhag gwerthfawrogi campweithiau y pensaer James of St George yng nghestyll Caernarfon, Harlech, Conwy a Biwmares. Os am ddeall cyd destyn y 13eg ganrif a’r berthynas rhwng tywysogion Gwynedd a Brenhinoedd Lloegr, rhaid wrth ddarlun llawn, trafodaeth llawn, rhaid ymdrim a beth sydd wedi ei adael ar ôl ar y dirwedd.
Daw geiriau’r hanesydd Dr John Davies i’m meddwl yn aml, fo awgrymodd ar raglen teledu nad oedd Llywelyn o reidrwydd y person mwyaf dymunol. Efallai fod Llywelyn yn ‘arwr cenedlaethol’ ond awgrym Davies oedd nad oedd yn rhywun fydda ni am wadd am swper.

Felly gyda cofeb Rhodes yn Rhydychen, gadewch i ni drafod yr hanes, mi fydd hi’n anodd, os nad amhosib, cyfiawnhau gweithredoedd Rhodes onibai eich bod yn ffasgydd llwyr – ond fe fyddai cael gwared a’r gofeb yn caniatau i ni anwybyddu neu anghofio am Rhodes. Awgrymaf fod hynny yn llawer mwy peryglus, dyna fyddai gwyncalchu hanes ar ei waethaf drwy osgoi yn lle trafod.

No comments:

Post a Comment