Friday 26 February 2016

Colofn Archaeoleg Llafar Gwlad 131 RM






Un o’r pethau sydd yn dod a gwen i’m wyneb wrth drafod archaeoleg, yw esbonio i bobl fod cymaint da ni ddim yn ei wybod. Hynny yw, mae darnau o’r jig-so ar goll, a nes fod rhywun yn darganfod y darn nesa, bydd rhaid cydnabod fod rhan o’r ‘stori’ ar goll. Wrth reswm mae modd damcaniaethu, ond yn ddelfrydol mae’r bennod nesa yn cael ei sgwennu yn sgil y darganfyddiad nesa. Er cymaint rydym yn ei wybod am y cyfnod Rhufeinig yma yng Nghymru, dyma chi bennod arall yn ein hanes lle mae darnau sylweddol o’r jig-so ar goll.
Engraifft da o hyn, yw fod yr union fan lle croesodd Suetonius Paulinus y Fenai yn y flwyddyn 60 oed Crist yn parhau i fod yn ddirgelwch. Oes, mae gan sawl un eu damcaniaeth, ond profi hynny yw’r gamp. Suetonius Paulinus oedd yn arwain yr ymosodiad ar gadarnle’r Derwyddon, sef Ynys Mon, ac heblaw am ysgrifau’r hanesydd Rhufeinig, Tacitus, prin iawn yw’r dystiolaeth archaeolegol am hyn oll. Cymhlethir hyn oll gan fod yr ymgyrch yn un gwta gan fod Suetonius wedi gorfod dychwelyd i dde-ddwyrain Lloegr i ddelio gyda gwrthryfel Buddug. Prin iawn felly yw’r olion Rhufeinig o’r flwyddyn 60 yng ngogledd Cymru a’r caerau rydym yn eu hadnabod heddiw yw rhai sydd yn perthyn i ymgyrch Agricola yn y flwyddyn 77 oed Crist.
Ac eto, o bosib, gan roi pwyslais ar ‘o bosib’, fe all dadlau fod y gwrthrychau milwrol gafwyd eu hoffrymu yn y llyn neu gors sanctaidd ger safle presenol RAF Valley (Llyn Cerrig Bach) yn cynrychioli’r unig dystiolaeth go iawn o fodolaeth y Derwyddon a’u defodau. Os yn wir, fod y Derwyddon yn addoli ymhlith y coed derw neu’r llwyni, fydd yna ddim tystiolaeth archaeolegol o safle felly wedi parhau.
Ond dyma ni, 2015, a dyma ddarn arall o’r jig-so yn dod i’r amlwg wrth i archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wneud darganfyddiadau pwysig iawn am hanes y Rhufeiniaid yng Nghymru a hynny ar Ynys Mon. Daeth y darganfyddiadau hyn i’r golwg, nid trwy gloddio archaeolegol arferol, ond gydag offer electronig. Mae offer arolwg geoffisegol yn adnabod mân amrywiaethau yn nodweddion magnetig y pridd ac yn caniatau i archaeolegwyr lunio map o’r olion claddedig, a hynny heb gyffwrdd mewn rhaw.
 Y darganfyddiad diweddaraf yw caeran Rufeinig fechan ger Cemlyn yng ngogledd Ynys Môn. Tynnwyd sylw’r archaeolegwyr at y safle gan Mary Aris, hanesydd lleol sydd yn tynnu lluniau o’r awyr,  wedi iddi sylwi ar siâp crwn mewn cnydau ar fryncyn isel sydd yn edrych dros arfordir Môn.
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gyllid gan Cadw i wneud arolwg geoffisegol o’r safle. Cynhaliwyd yr arolwg gan David Hopewell, ac adroddodd yntau fod y canlyniadau yn rhyfeddol o glîr gan ddangos amlinelliad digamsyniol o gaeran Rufeinig, gydag argoelion o adeiladau petryal oedd mae’n debyg yn farics ar gyfer y milwyr. Gwelir caeranau fel rhain, sydd yn llai na’r caerau Rhufeinig arferol, mewn mannau arwyddocaol  ar ffyrdd Rhufeinig, neu mewn mannau addas ar gyfer gwylio. Amgylchir y gaeran gan ffôs gron, rhywbeth nas gwelwyd yn unman arall yng Nghymru. Ond darganfyddwyd enghreifftiau tebyg ar arfordir gogleddol Dyfnaint, ble tybir fod coelcerthi ar gyfer anfon negeseuon yn cael eu cynnau oddi mewn i’r clostiroedd. Credir fod y gaeran hon yn dyddio o’r ganrif gyntaf Oed Crist.
Mae’r darganfyddiad hwn yn arbennig o gyffrous gan mai dyma’r safle milwrol Rhufeinig cynnar cyntaf i’w ganfod ar Ynys Môn. Cafwyd disgrifiad lliwgar iawn o ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys Môn gan y seneddwr a’r hanesydd Rhufeinig Taciutus, ond hyd yma ni fu unrhyw dystiolaeth o gaerau na ffyrdd ar yr Ynys. Mae Hopewell yn gobeithio bydd y darganfyddiad hwn yn arwain at eraill. Fel rheol byddai oddeutu 15-20 milltir rhwng y caerau a’r caeranau, sef gwaith diwrnod o gerdded, ac fe’u cysylltwyd gyda ffyrdd. Os fell, mae’n bur bosib fod caer arall yn barod i’w darganfod rhywle yng nghanol Môn.
Dyma’r diweddaraf o sawl darganfyddiad wnaethpwyd gan dîm arolwg geoffisegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ystod y degawd diwethaf. Ymysg y darganfyddiadau cyffrous eraill, mae’r dreflan Rufeinig sifil gyntaf i’w chanfod yng nogledd Cymru - ar lan y Fenai - yn ogystal â threflannau, ffyrdd ac adeiladau eraill o amgylch caerau Rhufeinig led-led Cymru nas gwyddid amdanynt o’r blaen.
Rydym yn cyfeirio heddiw at y dreflan sifil Rufeinig hon ar lan y Fenai fel ‘Tai Cochion’ am y rheswm syml fod y safle wedi ei darganfod ar gaeau fferm Tai Cochion, ond fel gwyddir pobl Mon, mae rhan o’r dreflan hefyd yn ymestyn o dan gaeau fferm Trefarthen, felly rhyw hap a damwain oedd dewis yr enw ‘Tai Cochion’ ar y safle.
Y tebygrwydd gyda’r dreflan sifil hon yw ei bod yn gwasanaethu’r gaer Rufeinig dros y Fenai yn Segontium (Caernarfon) a bod cysylltiad masnachol agos rhwng y ddwy safle. Ynys Mon (Mon Mam Cymru) sydd a’r tir amaethyddol gorau yn yr ardal a byddai angen llawer o gynnyrch amaethyddol i fwydo’r milwyr yn Segontium er engraifft. A yw hi’n rhesymol awgrymu felly fod y dreflan sifil hon gyda swyddogaeth masnachol – a’i hon oedd y pentref marchnad gyntaf ar Ynys Mon?
Cafwyd hyd i adeiladau a gwrthrychau oedd yn awgrymu statws weddol uchel a bywyd ddigon moethus gan y rhai a drigai yn y dreflan hon. Awgrymir hefyd o’r gwrthrychau fod y dreflan wedi ei sefydlu erbyn ddechrau’r ail ganrif oed Crist – sydd mewn gwirionedd o fewn ugain mlynedd i’r concwest Rufeinig, Doedd dim awgrym o gwbl fod y dreflan sifil wedi ei hamddiffyn – nid caer oedd hon (doedd dim awgrym o ffosydd amdifynnol) – felly mae’n rhaid ein bod yn edrych ar sefyllfa lle roedd yna sefydlogrwydd cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal.
Efallai fod amaethwyr Mon wedi sylweddoli fod yn haws gwerthu nwyddau a chynyrch  i’r Rhufeiniaid na cheisio eu hymladd. Rydym yn gwybod fod y Rhufeiniaid o dan y drefn a chyfnod Pax Romana yn ddigon hapus i gadw’r heddwch ac i gynnwys rhai o’r arferion a hyd yn oed Duwiau brodorol i’r perwyl hynny. Pwysigrwydd darganfyddiad Tai Cochion felly yw ail sgwennu’r hanes, gan awgrymu fod yna sefydlogrwydd o fath yn weddol fuan ar ol y concwest Rhufeinig yma yng ngogledd Cymru.




Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cynnal ail arolwg gyflawn o’r ffyrdd Rhufeinig yn y fro, gan wneud sawl darganfyddiad newydd. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y llyfr poblogaidd :  Roman Roads in North West Wales. Gellir sicrhau manylion pellach am y gaeran, am y llyfr ac am waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar eu gwefan :  www.heneb.co.uk


No comments:

Post a Comment