Wednesday 17 February 2016

Dyddiau Olaf Glyndwr, Herald Gymraeg 17 Chwefror 2016




Un o’r cwestiynau mawr o ran Hanes Cymru yw beth yn union ddigwyddodd i Owain Glyndŵr yn ystod ei ddyddiau olaf, sef y blynyddoedd hynny yn arwain at fis Medi 1415 (pryd tybir iddo farw). Ac o hyn, mae dau gwestiwn mwy penodol yn codi, yn gyntaf lle treuliodd ei flynyddoedd olaf ac yn ail yn lle ei claddwyd?
Fel gyda’r brenin Arthur, mae’r ‘dirgelwch’ wedi atgyfnerthu’r ‘chwedl’ fod Owain Glyndŵr rhywsut, rhyw ddydd, am atgyfodi o rhyw ogof neu’i gilydd a dod (ar ei geffyl gwyn) i’n hachub unwaith eto. Ffantasi llwyr Cenedlaetholwyr oedd wedi colli’r frwydr ond ddim am anobeithio – a hynny (hyd at heddiw??) dros y canrifoedd ers 1415!
Efallai fod cenedl angen ei fytholeg a’i arwyr, a does dim dadl fod cenedl angen ei hanes (sydd wedi ei sgwennu o safbwynt y genedl yn hytrach na’r gorchfygwr) ond credaf hefyd fod cenedl angen hanes sydd yn seiliedig ar rhywbeth heblaw ffantasi. Dyma groesawu felly llyfr rhagorol Gruffydd Aled Williams ‘Dyddiau Olaf Glyndŵr’ sydd yn dod a’r holl dystiolaeth ynglyn a dyddiau olaf Glyndŵr at eu gilydd o fewn un clawr.
Ond yn bwysicach byth, mae Gruffydd Aled Williams wedi pwyso a mesur gwerth y ffynonellau a dadansoddi yn ofalus unrhyw ganlyniadau y gallwn eu hawgrymu a pha rai y gallwn eu di-ystyru yn llwyr. Un damcaniaeth sydd yn cael ei chwalu’n rhacs gan Williams yw’r ffantasi llwyr (fy ngeiriau i) fod y llun enwog hwnnw yng Nghwrt Llan-gain, Swydd Henffordd, yn ddarlun o John of Kent / Siôn Cent / Owain Glyndŵr.
Ru’n un o’r tri felly, y tebygrwydd yw mai Sain Sierôm yw’r cymeriad yn y llun, gyda ei wisg cardinal, a fod y llun gan arlunydd o’r Iseldiroedd wedi ei beintio rhwybryd yn ystod ddiwedd y 15fed ganrif. Nonsens pur yw’r myth a’r dryswch (cyfleus) rhwng Kent / Caint a Glyndŵr. Cofiwch mae’n denu pobl at Gwrt Llan-gain ond does dim sail o gwbl i’r peth.
Rhy garedig yn fy marn i, yw beirniadaeth Williams o’r rhaglen hynod anffodus honno ddarlledwyd ar S4C rhyw Fawrth 1af, yn honni eu bod wedi darganfod / ail-greu wyneb Glyndŵr. Eto nonsens pur a chamarweiniol – mae pobl yn dal i gredu fod rhyw gysylltiad rhwng y llun a Glyndŵr, sydd ond yn cadarnhau pa mor bwerus yw rhywbeth ar y sgrin fach (neu mewn print).
Bu Williams yn rhoi sgwrs ym Mhrifysgol Bangor wythnos yn ôl a roedd yr ystafell yn orlawn o fyfyrwyr, academyddion canol oesoedd, beirdd, archaeolegwyr ac ambell un o’r cyfryngau. Profwyd fod Glyndŵr yn dal i ddenu hyd yn oed os oedd yn anodd / amhosib profi lle yn union gafodd OG ei gladdu.
Yn iaith yr academyddion, ‘cyflwyno papur’ oedd Williams yn hytrach na “rhoi sgwrs” ac ofnais y byddai gwrando ar rhywun yn darllen am awr yn drech o ran dilyn pethau.I’r gwrthwyneb, fe siaradodd Williams yn hollol glir a phwyllog ac hawdd oedd ei ddilyn ac hawdd oedd dilyn trywydd y ddadl. Cyflwynwyd y dystiolaeth ddogfennol a’r lleoliadau dan sylw fel Monnington Straddle, Monnington-on-Wye, Croft Castle a Lawton’s Hope ac os deallais yn iawn roedd lleoliadau fel Kimbolton yn cael ychydig mwy o bwyntiau positif  na’r amlwg Gwrt Llan-gain a’i dwr a’i ystafell Glyndŵr (ffug).
Yn ei gyflwyniad i’r ‘papur’gan Williams,  fe awgrymodd Huw Pryce o Brifysgol Bangor fod y llyfr Dyddiau Olaf Glyndwr yn astudiaeth academaidd gwerthfawr, a does dim modd anghytuno a Pryce yn hyn o beth, ond lle mae Williams wedi llwyddo (a lle mae cymaint o’r byd academaidd wedi methu) mae o wedi sgwennu llyfr sydd yn ddealladwy i’r dyn cyffredin.
Darllenwch y llyfr achos mae Williams wedi cyflwyno’r dadleuon yn wrthrychol a mor ffeithiol gywir a sydd yn bosib ar hyn o bryd gyda’r gwaith ymchwil mae o wedi ei gynnal.




No comments:

Post a Comment