Wednesday 24 February 2016

'Save Old Oswestry' Herald Gymraeg 24 Chwefror 2016




Bryngaer ‘Hen Groesoswallt’, dyma un o’r bryngaerau mwyaf trawiadol ar Ynysoedd Prydain ac un amlwg iawn i deithwyr ar hyd yr A5 wrth iddynt gyrraedd cyrion dwyreiniol Croesoswallt. Maint y gaer yw un o’r pethau mwyaf amlwg amdani, 40 o erwau, a’r ffosydd  a’r cloddiau anferth sydd yn ei hamddiffyn a’r ffaith ei fod mewn cyflwr mor dda hyd at heddiw.
Maddewuch i mi yma am groesi Clawdd Offa, sydd yn rhedeg ychydig i’r gorllewin o’r gaer rhwng pentrefi Selattyn a’r Waun , ond doedd dim ffasiwn beth a Chlawdd Offa na unrhyw ffin rhwng Cymru a Lloegr pan godwyd y gaer yma yn ystod yr Oes Haearn (800cyn Crist – 43 oed Crist), a mae hi mor agos i Gymru ….. felly rwyf am ei thrafod yr wythnos hon.
Rheswm arall dros ei thrafod yw’r gwrthdystio diweddar (2015-16)  yn erbyn datblygu tai yng nghyffuniau’r gaer gan grwp ‘Save Old Oswestry’, rhywbeth sydd wedi dangos faint o gefnogaeth sydd ymhlith y werin bobl dros warchod eu treftadaeth.
Mae’n ymddangos fod y werin bobl bellach yn gorfod gwrthdystio a llenwi deisebau os am gael yr awdurdoadau i werthfawrogi beth yw ‘gwerth’ treftadaeth. Yn agosach i gartref mae bwriad Cyngor Gwynedd i arbed cwta £27,000 drwy dorri eu cyfraniad blynyddol tuag at gostau rhedeg Amgueddfa Lloyd George (yn yr union flwyddyn lle bydd rhywun yn cydnabod canmlynedd ers i Lloyd George  fod yn Brif Weinidog) wedi peri i’r hanesydd Dan Snow ymateb “What other civilised country would allow the childhood, formative home of one of its greatest leaders to shut? Save Lloyd George Museum”.
Y neges felly yw, deffrwch bobl! Os da ni ddim yn deffro bydd ein treftadaeth yn diflannu, byddan yn dlotach o ran ein Hanes heb son am yr effaith negyddol economaidd. Rhaid dangos fod y pethau yma yn bwysig. Dyma yn union sydd yn digwydd gyda ymgyrch ‘Save Old Oswestry’ ar hyn o bryd.
Gan fod ‘Hen Groesoswallt’ yn gaer mor enfawr, y tebygrwydd yw ei bod yn un o brif safleoedd un o’r llwythi yn y rhan yma o’r byd. Cwestiwn arall yw pa lwyth yn union fydda yma gan ein bod ar y ffin rhwng diriogaeth llwyth yr Ordoficiaid (canolbarth Cymru) a’r Cornovii (Swydd Amwythig / rhan o Swydd Gaer). Awgrymai’r Athro Barry Cunliffe fod y caerau mawr yma ar hyd y ffin bresennol yn debycach i fryngaerau de Lloegr, er nid yw hyn yn profi pa lwyth fyddai wedi adeiladu ond yn hytrach fod yna gysylltiadau rhwng pobloedd yr ardal a llwythi de Lloegr,
Rydym hefyd yn gwybod fod pobl wedi byw yma yn ystod y cyfnod Neolithig oherwydd i archaeolegwyr gael hyd i ddarnau o gallestr a bwyell garreg yma, ond rhywbryd ar ddiwedd yr Oes Efydd neu ddechrau Oes yr Haearn gwelwn y datblygiad o’r fryngaer ar y safle.
Credir fod oleiaf pedwar cyfnod gwahanol o adeiladu i’r gaer gan i’r archaeolegydd William Varley gloddio yma yn ystod 1939 ac awgrymodd ei waith cloddio fod y cloddiau a’r ffosydd wedi eu hychwanegu a’u atgyweirio dros gyfnod o amser. Mae hyn yn batrwm ddigon arferol mewn bryngaerau, defnydd dros gyfnod o amser ac ychwanegiadau dros y cyfnod. Yn aml ceir amddiffynfeydd syml i ddechrau yn amgylchu safle a wedyn ychwanegiadau mwy sylweddol.
Yn achos Old Oswestry mae’n ymddangos fod y cyfnodau olaf (Cyfnod 3 a 4) yn cynnwys y pyllau / pydewau anferth ar yr ochr orllewinol i’r gaer a wedyn ychwanegwyd dwy linell arall o gloddiau o amgylch y gaer. Heb os roedd elfen amddiffynnol yn hyn ôll, ond does dim angen cymaint a hynny o gloddiau a ffosydd i wneud safle fel hyn yn ddiogel rhag unrhyw elyn. Felly mae’n rhaid fod rhyw elfen gofadeiladol yn ymwneud a statws a datganiad o gyfoeth neu’r statws hynny yn rhan o’r holl waith adeiladu yma.
Awgrym arall sydd wedi cael ei wneud yw fod rhai o’r llociau mewn bryngaerau yn gysylltiedig a chadw anifeiliaid fel defaid, gwartheg a moch - yn sicr roedd eu hanifeiliad yn bwysig iddynt o ran bwyd a dillad ond hefyd o ran yr economi fel roedd eu cnydau. Byddai masnach yn ganlyniad o ddigon o gynnyrch.
Oddifewn i’r gaer byddai’r trigolion wedi byw mewn tai crynion a cheir awgrym o awyrluniau fod ei caeau yn ymestyn o amgylch y gaer. Amaethyddiaeth fydda’r economi pryd hynny wrth reswm.
Dros y penwythnos daeth dros 350 o bobl i gymeryd rhan mewn ‘digwyddiad’ yn ‘Hen Groesoswallt’ er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau i ddatblygu tai yn y caeau o amgylch ochr ddwyreiniol a deheuol y gaer. Os bydd hyn yn digwydd bydd y dirwedd o amgylch y gaer yn cael ei newid yn llwyr. Bydd yr olygfa yn newid yn llwyr. Nid caeau yn ymestyn draw dros wastadeddau Sir Amwythig fydd i’w gweld on stadau tai.
Does neb o’r ymgyrchwyr yn gwrthwynebu’r ffaith fod angen mwy o dai fforddiadwy, ond pam eu hadeiladu yn ymyl un o henebion pwysicaf Ynysoedd Prydain? – a rydym yn son am y cae drws nesa nid caeau ar y gorwel. Fydda hyn ddim yn digwydd yng Ngor y Cewri, felly pam yma?
Dros y penwythnos amgylchwyd y gaer gan  bobl sy’n poeni. Tynnwyd llun o’r awyr gyda pawb wedi eu trefnu ar ffurff llythrennau ‘Hands Off Old Oswestry Hillfort’. Roedd pobl o bob oed yma, pobl o bob cefndir ond beth oedd yn galonogol oedd y ffaith fod 350 wedi mynychu er mwyn dangos eu cefnogaeth.



1 comment:

  1. Heritage, the roots of ancestry; to destroy it, is to erase - kill the beauty of a landmark

    ReplyDelete