Wednesday 3 February 2016

Tai Herbert Luck North, Herald Gynmraeg 3 Chwefror 2016





Un o fy hoff lyfrau yw The Old Churches of Snowdonia gan Harold Hughes a Herbert Luck North. Dyma chi lyfr, a gyhoeddwyd ym 1924, sydd yn cofnodi eglwysi ardal Eryri gan gynnwys Penmon. Arllechwedd, Arfon a Beddgelert fesul plwyfi. Felly cawn wybod am eglwysi mor amrywiol a Phenmon yn y dwyrain,  Llanfair is Gaer (rhwng Caernarfon a’r Felinheli) hyd at Llanaelhaearn yn y gorllewin a thrwy Ddyffryn Conwy hyd at Dolwyddelan.
Hanfodol yw’r disgrifiad gorau o lyfr o’r fath, hanfodol ar gyfer unrhywun sydd a diddordeb yn ein hen eglwysi. Llyfr arall a gyhoeddodd North oedd The Old Cottages of Snowdonia (1904), llyfr rwyf yn dal i chwilio amdano. Does syndod felly mae pensaer oedd Herbert L.North wrth ei waith
Ganed ef yng Nghaerlŷr  ym 1871 ond symudodd ei deulu i fyw i Lanfairfechan yn gynnar yn y 1880au. Er iddo fynychu Coleg Iesu yng Nghaergrwant a threulio amser wedyn yn gweithio gyda’r pensaer enwog Edwin Lutyens dychwelyd yn ôl i Lanfairfechan wnaeth North er mwyn sefydlu ei bractis ei hun ym 1901.
Yn fuan ar ôl graddio bu North yn ddisgybl gyda Henry Wilson, pensaer oedd yn flaenllaw iawn ym myd ‘Celfyddyd a Chreft’ a dyma sut rydym yn tueddu i gofio am North, fel un o ffigyrau amlwg ‘Celfyddyd a Chreft’ yng ngogledd Cymru ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Efallai mae’r lle gorau i ddechrau gwerthfawrogi pensaerniaeth Herbert L.North yw ‘The Close’ yn Llanfairfechan. Yma cawn y tŷ cyntaf i North ei gynllunio, hwn ydi’r tŷ cyntaf yn ‘The Close’ o’r enw Bolnhurst a adeiladwyd ym 1898. Ceir cyfanswm o 25 o dai yma a phob un heblaw Carreg Lwyd wedi eu cynllunio gan North. Ei fab yng nghyfraith (a’i bartner yn y practis) Percelval Padmore oedd yn gyfrifol am Carreg Lwyd yn dilyn marwolaeth North ym 1941.
Adeiladwyd y tai yn ‘The Close’ a’r dir oedd ym meddiant ei deulu rhwng 1898 a 1940 a gwelir datblygiad yn y tai wrth i North ddatblygu a meistrioli ei grefft. Adeilad arall gynlluniodd North yw Neuadd yr Eglwys, a dyma fan cychwyn addas ar gyfer mynd am dro o amgylch ‘The Close’. Gallwch gael manylion am y tai a lle i’w gweld ar safle we historypoints.org
Os am fynd am dro, byddai’n syniad lawrlwytho’r teithiau o amgylch Llanfairfechan ar historypoints.org fel fod rhywun yn gallu dilyn ei drwyn gyda ychydig gwell syniad o beth yw beth. Os am grwydro heb gyfarwyddiadau mae’r ffordd un-ffordd o amgylch ‘The Close’ oleiaf yn dod a rhywun yn ôl at Neuadd yr Eglwys (Institiwt).
Rhai blynyddoedd yn ôl bellach cefais y fraint o weithio ar dacluso recordiad o Clough Williams-Ellis yn darlitho ar fwrdd llong ar ei ffordd adre o Seland Newydd. Recoriad oedd gan Robin Llywelyn oedd hwn  a ryddhawyd wedyn ar CD gan Portmeirion, ond wrth wrando ar Clough yn ‘damcaniaethu’ roedd darn ofnadwy o ddiddorol (darn oedd yn ysbrydoli rhywun) yn sôn am bwysigrwydd cynllunio trefol a phwysigrwydd gerddi cysylltiedig.
Dyma’r math o syniadaeth drosglwyddodd North i dirwedd Llanfairfechan gyda ‘The Close’ , gyda popeth yn gweddu, popeth i bwrpas, popeth yn ei le. Wrth grwydro heibio’r tai mae rhywun yn gweld fod yr holl drefn yn un bwriadol er fod hyn yn amlwg yn ffrwyth blynyddoedd o waith.


Ychydig i fyny’r allt o ‘The Close’ (rhaid dringo i gopa Lôn Newry) mae un o gampweithiau arall North, sef porthdy Newry a godwyd ar gyfer C.W. May-Massey ym 1906.  Ty aml-ochrog yw hwn ar ochr y ffordd ger y fynedfa i Blas Heulog. Deallaf fod y porthdy newydd ei werthu, felly mae rhywun yn byw yno.
Ar safle we ‘Casgliad y Werin’ neu yn llyfr hyfryd Wakelin a Griffiths, ‘Trysorau Cudd, Darganfod Treftadaeth Cymru’ (2008) cawn weld dyluniad Herbert L. North o borthdy Newry. A dweud y gwir, wrth grwydro Llanfairfechan mae mor amlwg fod cynllunio North yn ychwanegu at y dirwedd a fod y stadau tai modern yn edrych yn llawer tlotach o ran pensaerniaeth. Efallai fod y tai modern yn gynhesach i fyw ynddynt na thai North ond mae’n bechod (mawr) na fyddai mwy o feddwl cynllunio yn yr oes fodern (sef ar ôl yr Ail Ryfel Byd).
Ceir fwy o dai Herbert L.North ar lan y mor Llanfairfechan. Engraifft amlwg yw Porthdy Sant Seiriol ochr ddwyreiniol i’r promenad a wedyn y rhes o dai i’r gorllewin o’r maes chware. Mae ambell dŷ arall, fel Llys Owain yn Parc Crescent sydd yn engraifft o dŷ a addaswyd gan North, yn wir fe ehangodd y tŷ a’i drawsnewid i’r arddull Cefyddyd a Chrefft.
Ar gyfer y golofn hon rwyf am aros yn Llanfairfechan, gyda’r cyfwarwyddiadau o historypoints.org mae’n gymharol hawdd dilyn eich trwyn a threulio pnawn difir iawn yn crwydro Llanfairfechan ar drywydd Herbert L. North. Ond mae’n werth cofio am engreifftiau eraill o waith North.
Ffordd Seiriol ym Mangor efallai yw’r engraifft amlycaf yng ngogledd Cymru. Yma cawn 20 o dai wedi eu comisiynu gan COPEC (Christian Order in Politics, Economics and Citizenship) yn y 1920au er mwyn gwella safon tai a safon byw pobl. Mae’r garreg adeiladu o Benmaenmawr a’r llechi tô yn rhai Cymreig wrth reswm ac heb os mae’r ddwy rês yn amlwg nodweddiadol o waith North.
Eto, does ond un casgliad, gyda stryd mor hyfryd a hyn, onid trist yw crwydro strydoedd trefi a phentrefi gogledd Cymru a gweld y fath siop siafins o adeiladu heb unrhyw awgrym o gynllunio?  Mae angen rhai fel Clough Williams-Ellis a Herbert L North ar adrannau cynllunio heddiw ddywedwn i!

http://historypoints.org/index.php?page=llys-owain-llanfairfechan

http://www.coflein.gov.uk/en/site/409745/details/COPEC+HOUSING%2C+1-20+SEIRIOL+ROAD%2C+BANGOR/



No comments:

Post a Comment