Wednesday 10 February 2016

Y Castell, S4C Herald Gymraeg 10 Chwefror 2016


Castell Ewloe.


Petae rhaid rhoi ‘gair o gyngor’ i Lucy Worsley, Dan Snow,  Bettany Hughes , Mary Beard, Julian Richards, Tony Robinson, Alice Roberts, Kate Williams, Roy Strong, Neil Oliver a’r gweddill mae’n debyg mae’r cyngor fyddai “peidiwch a dysgu Cymraeg, achos fydd na ddim gwaith i chi”.
Er fod pob un o’r uchod hefo gyrfa tu allan i’r Cyfryngau mae’r cyfan bellach yn wynebau cyfarwydd a rheolaidd ar y teledu. Rwyf yn pwysleisio rheolaidd. Petae unrhywun o’r uchod yn siaradwyr Cymraeg prin fyddai’r cyfloeoedd o ystyried y diffyg amlwg o ran rhaglenni hanesyddol ac archaeolegol ar y Cyfryngau Cymraeg. Fel dywedodd rhywun llawer mwy craff na fi (a hynny cyn iddynt feddwl am ddysgu Cymraeg) ‘don’t give up the day jobs’.
Rhai blynyddoedd yn ôl, roedd llygedyn o obaith gyda rhaglen fel ‘Darn Bach o Hanes’ o ddatblygu cyflwynwyr (talent) newydd a chael gwynebau llai cyfarwydd ar S4C ond buan iawn gwelodd goridorau Parc Ty Glas yn well. Fe gollwyd cyfle i feithrin talentau fel Gwennan Schiavone a Rhodri Llwyd Morgan.
Felly dyma ni heddiw, a rhaid canmol comisiwn i rhaglen Y Castell ar S4C, a’r ffaith fod yma gyflwynydd deallus, brwdfrydig, gymharol ‘newydd’ yn Jon Gower.Sgwennu mae Gower fel arfer ond o wylio Y Castell mae’n amlwg fod potensial yma i ni ddechrau adfer ychydig ar ddiffaethwch y blynyddoedd diweddar. Braf cael wyneb newydd ar y sgrin a rhywun sydd yn ddeallus. Ond o ran S4C mae angen mwy ohonnynt, mae angen creu bwrlwm o ran Hanes Cymru – dychmygwch dim ond Lucy Worsley yn Lloegr.
Rwan mae trafod cestyll yn faes anferth a fy nheimlad oedd fod y cynhyrchwyr yn trio gwasgu gormod i mewn i un rhaglen. Edrychwch ar raglenni David Attenborough ar sut mae modd cyflwyno stori yn bwyllog, gyda dechrau a diwedd – a fod y gwyliwr wedyn yn gallu deall beth yw’r stori. Roedd rhaglen ddiweddar Attenborough ar y deinasor yn yr Arianin yn rhagori yn hyn o beth ac Attenborough yn cymeryd pwyll i’n hatgoffa fel gwylwyr beth oedd y canlyniadau a gyda diweddglo amlwg I’r rhaglen.
Os am fod yn feirniadol am eiliad,  teimlais fod cyflwyniad gor-hir i rhaglen Y Castell – roedd gwir angen dechrau’r rhaglen a roedd y synnau cefndir o ddrymiau rythmig yn ystrabebol tu hwnt a felly hefyd ar adegau y sgriptio.
 Pan roedd Gower yn cael bod yn fo ei hyn, yn cyflwyno yn naturiol gyda llai o ‘sgriptio’ roedd rhwyun yn gweld cymeriad gall rhwyun ddechrau uniaethau a fo. Gadewch i Gower gael ei lais ei hyn!
O ran y cynnwys byddwn wedi mwynhau gweld rhaglen gyfan yn canolbwyntio ar y Cestyll Cymreig, yn enwedig rhai Gwynedd a Deheubarth.Collwyd cyfle i fanylu ar y tyrrau Siap-D (cromfaol) sydd mor nodweddiadol o gestyll tywysogion Gwynedd. Gyda haneswyr fel Hugh Brodie a David Stephenson newydd gyhoeddi bapurau am gestyll tywysogion Gwynedd mae digon i’w drafod yma – a byddai hyn i gyd yn newydd i’r gwylwyr.
Mae damcaniaethau newydd gan Spencer Smith ar Gastell Dolbadarn fyddai wedi ychwanegu yn fawr at ein dealltwriaeth o’r cyd-destyn Cymreig ac roedd wir angen gwahaniaethu rhwng adeiladwaith yr Arglwydd Rhys a’i fab Rhys Grug wrth drafod cestyll Deheubarth
Hawdd fyddai llenwi rhaglen arall ar gestyll Edward I heb son wedyn am gestyll y Mers, ac eto byddai cyfle yma drwy ganolbwyntio i fanylu ar gyd-destyn y Concwest o gyfnod y Normaniaid hyd at y flwyddyn dyngedfennol honno ym 1282.
Felly rhaglen i’w chanmol heb os, ond fod trio gwneud gormod o fewn yr awr yn gwneud hi’n anodd dilyn y stori. Does dim o’i le hefo cadw pethau yn syml ac yn ddealladwy – dydi hynny ddim yn cyfaddawdu ar y sylwedd.


No comments:

Post a Comment