Sunday 6 March 2016

Dymchwel Adeiladau Hanesyddol, Herald Gymraeg 2 Mawrth 2016




Wedi Mynd!  Sinema’r Coliseum ym Mhorthmadog. Beth bynnag yw’r dadleuon am faint oedd yn mynychu’r sinema i wylio ffilmiau yn y blynyddoedd dwetha, dyma chi golled arurthrol o ran adeilad hanesyddol ac o ran adeilad Art Deco yng ngogledd Cymru. Agorwyd y sinema ym 1931. Caewyd y drysau yn 2011. Mewn llai na phum mlynedd mae’r adeilad wedi dadfeilio i’r fath raddau mai dim ond y JCB  oedd ar y rhestr o opsiynau.




Wedi Mynd!  Institiwt Rheilffordd, Bangor. Adeilad o frics coch hyfryd a adeiladwyd ym 1898 gan y London and North Western Railway gyda estyniad yn dyddio o 1905. Adeilad er mwyn diwallu anghenion diwylliannol ac addysgol y gweithwyr oedd hwn, mae rhywun bron a chrio o feddwl am yr eironi pur fod datblygwyr tai yn ei chwalu’n rhacs. Rydym yn colli rhan o’r stori yma, rhan o’r dirwedd hanesyddol ehangach sydd yn ymwneud a’r rheilffordd a Dinas Bangor.




Wedi Mynd! Hen Swyddfa’r Heddlu yn Llandudno ar Oxford Road. Does fawr o gysur yn y ffaith fod Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Winston Roddick wedi datgan “I am glad, however, that a number of artefacts from the old station will take pride of place in the new building”.  Beth bynnag fydd yn cael ei gadw, mi fydd y dirwedd wedi newid, yr adeilad hanesyddol wedi mynd.
Un peth sy’n amlwg gyda’r tri adeilad yw ei bod yn haws / rhatach codi adeilad o’r newydd na chadw’r hen adeiladau. Does dim ymdrech o gwbl hyd yn oed i gadw’r façade, sef wyneb neu ochr flaen yr adeiladau. Yr effaith fel awgrymais uchod yw newid y dirwedd, a cholli darn bach o hanes.
Mi fedrwn sgrechian fod hyn yn ‘fandaliaeth diwylliannol’ am y misoedd nesa i ddod ond wnaiff hyn fawr o wahanaieth – mae hi rhy hwyr. Fe fu gwrthwynebiad i’r datblygiadau yn sicr yn achos Coliseum Porthmadog a’r Institiwt Rheilffordd ym Mangor ond rhywsut mae rhywun yn cael y teimlad mae diwedd y gân yw’r geiniog – a mae’r datblygwyr yn bwerus.
Felly mae’r dirwedd hanesyddol a phensaerniol yn newid yng ngogledd Cymru. Wrth reswm mae rhan o hyn yn anorfod, ond yn rhy aml yr hyn sydd yn cael ei golli yw’r union adeiladau hynny rydym yn eu cyfeirio atynt fel rhai ‘eiconaidd’. Yn eu lle, fflatiau di-nôd, heb gysylltiad na chydymdeimlad pensaerniol a’r dirwedd na’r lle. Trist.
Yn ddiweddar mae’r awdur Wil Self wedi mynegi ei bryderon ynglyn a sut mae ein dinasoedd yn newid. Pan rwyf yn dweud ‘ein dinasoedd’, rwyf yn cyfeirio at ddinasoedd yn Lloegr fel Lerpwl neu Lundain yn fwy penodol ond mae’n siwr fod Caerdydd ac Abertawe yn wynebu’r un her.Pryder Self yw fod talpiau anferth o ddinasoedd nawr dan feddiant cwmniau preifat.
Yr engraifft agosa atom yng ngogledd Cymru mae’n debyg yw Liverpool One. Yn ôl Mark Townsend mewn erthygl diweddar yn yr Observer mae pryderon mawr nid yn unig ynglyn a phreifateiddio beth oedd yn arfer bod yn dirwedd ‘cyhoeddus’ ond mae pryderon pellach ynglyn a chynlluniau ar gyfer adeiladau gor-uchel er engraifft yn Lerpwl a’r effaith mae hyn am ei gael ar y dirwedd a’r gorwel weledol.
Rydym yn ôl ar dir cyfarwydd, does neb rhesymol yn gwrthwynebu newid a datblygiad mewn egwyddor, ond mae pobl yn poeni am golli’r pethau eiconaidd, y pethau sydd yn ein cysylltu a lle a’n hanes. Wrth chwalu a dymchwel, does dim cyfaddawd.
Mae’n drueni fod adeiladau yn cael eu gadael nes eu bod mwy neu lai yn adfeilion. Ond mae rhywun yn dechrau amau os yw hyn yn fwriadol. Gadewch iddynt brotestio ond erbyn i’r brotest orffen bydd y tô wedi disgyn beth bynnag.




No comments:

Post a Comment