Wednesday 25 May 2016

Straeon y Ffin, S4C, Herald Gymraeg 25 Mai 2016






Os oes yna ffasiwn beth a ‘thrysor Cenedlaethol’ mae’n rhaid fod y cerddor, actor a DJ Gareth Potter bellach yn gymwys ar gyfer y disgrifiad yna, Mae ei gyfraniad i’r Byd Pop Cymraeg yn amhrisiadwy a fel soniais beth amser yn ôl yn y golofn hon wrth drafod ei raglen rhagorol ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’’ ar S4C, a oedd yn cofnodi’r ‘Sin Danddaearol Gymraeg’, dyma rhywun ddylia fod ar y sgrin fach.

Heb os mae rhaglen ‘Straeon y Ffin’ yn un o’r pethau gorau sydd wedi bod ar S4C ers amser maith (os nad erioed).  Gan gyfuno hanes, diwylliant, cerddoriaeth, seico-ddaearyddiaeth ac ardal ddaearyddol benodol dyma’r math o raglen fyddai yn gyfarwydd iawn i wylwyr rhaglenni yn yr iaith fain ar BBC 4. Dim ond un gair sydd gennyf i ddisgrifio ‘Straeon y Ffin’ – gwych.

Ond, os am ddamcaniaethu ychydig, sgwn’i os yw’r ffaith fod y cyflwynydd Potter, y cynyrchydd Meinir Gwilym (cantores arall) ac aelod arall o’r criw cynhyrchu Osian Howells (cerddor ac aelod o’r Ods) yn dod o’r Byd Pop wedi rhoi golwg ychydig mwy eanfrydig, mwy celfyddydol, mwy aesthetig i’r holl beth? Beth am awgrymu golwg mwy ‘angerddol’ hyd yn oed – wedi ei gyflwyno gyda angerdd, wedi ei greu gyda angerdd.

Nid dyma’r ‘cynnyrch’ arferol o ran talentau (honedig) Cymraeg neuaddau preswyl y prifysgolion,(yr hyn arferai fod yn Brifysgol Cymru) a mae hyn mor amlwg. Nid golwg draddodiadol Gymraeg na thraddodiadol dosbarth canol Gymraeg sydd i’r rhaglen yma ond chwa o awyr iach gan fod yr ystradebau arferol (neu yn sicr rhy aml) wedi cael eu rhoi o’r neulltu.

Pa raglen arall, pa gyflwynydd arall fyddai yn cyfuno trafodaeth am Glawdd Offa gyda ymweliad a ‘Boundary Lane’ yn Saltney er mwyn sgwrsio hefo Phil Bradley o’r grwp Brodyr (neu Brodyr y Ffin fel oedda nhw yn y dechrau un)? Fe ddylid allu cyfuno Offa a’r Brodyr. Fe ddylia ni fod yn gwybod am hanes Offa a hanes Y Brodyr!

Wrth ymweld a thafarn ‘The Oak’ yn Hendre ar yr A541, rhyw bedair milltir i’r gorllewin o’r Wyddgrug ac wrth ddilyn trywydd Gwenfrewi yn Nhreffynnon mae Potter yn amlygu eu ddawn fel gwrandawr  gan roi cyfle i’r cyfrannwyr esbonio ond gan ein sicrhau ni (y gwilwyr) ei fod yn gwrando yn astud, ac yn cymeryd diddordeb. Rhaid dweud fod Potter yn ddiddorol hyd yn oed pan mae’n ddistaw.

Dyma ddyn sydd yn cymeryd gofal o’i wedd a’i ddelwedd. Mae ei wallt wedi ei dorri gan farbwr nid rhywun sydd yn trin gwallt. Mae ei farf yn awgrymu rhywun sydd yr un mor gyfforddus gyda llyfrau Kerouac ac y mae gyda cwrw lleol, ac yng nghyd-destyn y rhaglen yma, cwrw o fragdy’r Hafod sydd yn cynnwys cynhwysion wedi eu casglu ar lethrau Moel Famau.

O ystyried fod hon yn rhaglen amrywiol iawn, mae hi hefyd yn rhaglen sydd yn gwneud synnwyr perffaith. Bron, byddai rhywun yn ei chymharu a chyfres Hel Straeon ers lawer ddydd, ond fod Straeon y Ffin yn llawer mwy amgen, yn llawer mwy rwan. Dyma chi brofi, a hynny heb ormod o ymdrech,  fod modd i raglen “boblogaidd” fod yn amgen ac yn hip ac yn cŵl. Does dim angen gor-egluro na gor-symleiddio. Iawn a da o beth yw fod Potter yn cymeryd yn ganiataol ein bod yn ymwybodol o’r Brodyr. Pa obaith sydd os oes rhaid ail adrodd drwy’r amser, os oes rhaid egluro eto am y canfed tro.

Gallwn wylio Potter ar y sgrin fach drwy’r nôs. Nid gor-ddweud oedd agor y drafodaeth drwy awgrymu ei fod yn deilwng o’i urddo yn drysor Cenedlaethol. Dyma deledu hanfodol sydd wedi bod ar goll yn rhy aml ar ein sgrin fach Gymraeg.

No comments:

Post a Comment