Wednesday 15 June 2016

Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 15 Mehefin 2016




A dyna flwyddyn arall wedi gwibio heibio, neu oleiaf dyna sut mae pethau yn teimlo, wrth i griw o archaeolegwyr ddechrau cloddio unwaith eto yn y dirwedd o amgylch beddrod enwog Bryn Celli Ddu, Ynys Môn, dan oruwchwyliaeth Cadw. Bu criw ohonnom yno llynedd er mwyn archwilio’r cerfiadau / celf Neolithig (sef y cafn-nodau Oes y Cerrig) sydd i’w gweld ar greigiau naturiol o amgylch cofadail Bryn Celli Ddu.

Eleni rydym yn y cae drws nesa yn archwilio carnedd gladdu o’r Oes Efydd a gafodd ei gloddio yn wreiddiol ddiwedd y 1920au gan un o gyd-weithwyr W. J.Hemp, yr archaeolegydd enwog fu’n cloddio ar gofadail Bryn Celli Ddu. Felly, mae dau amcan mewn gwirionedd wrth gloddio yma, un yn amlwg i ddysgu mwy am y safle ac yn ail i weld beth yn union fu’n digwydd yma ddiwedd y 1920au.

Mesurai’r garnedd oddeutu 120 llathen ar draws yn ôl yr adroddiadau ond gan fod y tir wedi ei drin, yr oll sydd i’w weld erbyn heddiw yw mymryn lleiaf o godiad crwm neu lwmpyn isel yn y cae. Yn wir, mae’n bosib fod carnedd arall cyfagos, cwta 50 medr i’r dwyrain,  sydd wedi ei adnabod o awyrluniau, a’r bwriad yw cynnal arolwg geo-ffisegol dros y safle er mwyn ceisio cadarnhau fod rhywbeth yn gorwedd yma o dan y tir.

Yn ôl adroddiadau o’r 1930 roedd ymyl o gerrig (cwrb) o amgylch y garnedd – byddai rhywun yn disgwyl i ymyl o’r fath fod wedi ei adeiladu o gerrig ar eu hymyl wedi eu gosod yn y pridd. Mae ymyl tebyg o amgylch Bryn Celli Ddu, er fod Bryn Celli Ddu yn dyddio o rhai canrifoedd, os nad mil o flynyddoedd, cyn y safle rydym yn ei archwilio ac yn perthyn i ‘ddiwylliant’ claddu cymunedol yn hytrach na’r unigolion a gawn mewn carneddau o’r Oes Efydd.

Canfuwyd cist ganolig gan yr archaeolegwyr ym 193, felly yn amlwg byddai’n braf iawn gallu dod o hyd i weddillion cist o’r fath neu olion o’r gwaith cloddio fyddai efallai yn cadarnhau fod cist wedi bodoli yma. Does byth sicrwydd 100% gyda’r broses archaeolegol ac wrth i mi sgwennu’r golofn hon rydym, efallai, (efallai) wedi dechrau canfod olion y cerrig oedd yn ffurfio’r garnedd dros y gist ganolig, ond ar ol wythnos o waith cloddio, doedd y gist ganolig ddim yn amlwg.




Gyda mymryn o ddrwgdybiaeth y byddaf yn darllen adroddiadau hanesyddol am waith cloddio. Pur anaml mae archaeolegywr a hynafiaethwyr y gorffennol yn cyfaddef iddynt fethu cael hyd i unrhywbeth ond mae modd cadarnhau fod darnau bach o offer callestr wedi eu darganfod gennym ar y safle fel y gwanaethwyd ddiwedd y 1920au / dechrau’r 30au gan Newall a’r criw cloddio.

Fel awgrymais llynedd yn fy ngholofn, wrth gloddio o amgylch Bryn Celli am y tro cyntaf, dyma’r ‘Albert Hall’ o’r byd archaeolegol. Dyma beth yw braint cael cyfle i weithio yn, ac archwilio tirwedd, fu ar un adeg mor amlwg sanctaidd i amaethwyr cyntaf Ynys Môn.
Beth bynnag fydd y canlyniadau ar ddiwedd y bythefnos o gloddio, yn sicr bydd ein gwybodaeth am y dirwedd hynafol yma wedi cynyddyu. Gan mai Cadw sydd yn gyfrifol am y gwaith cloddio mae pwyslais mawr ar gysylltu a’r gymuned, ac erbyn i chi ddarllen y golofn hon byddaf wedi tywys hanner dwsin o ysgolion cynradd lleol o amgylch y safle a’r gwaith cloddio archaeolegol.


Bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd gael ymweld a’r safle ar Sadwrn, 18 Mehefin yn ystod ein Diwrnod Agored o 11 y bore hyd 4 y pnawn. Bydd bob math o weithgareddau yn cael eu cynnal a byddaf yno drwy’r dydd yn arwain teithiau tywys o’r safle.



No comments:

Post a Comment