Wednesday 8 June 2016

Kicking Off in North Korea, Herald Gymraeg 8 Mehefin 2016





Pan welais enw’r llyfr ‘Kicking Off in North Korea, Football and Friendship in Foreign Lands’ gan Tim Hartley (Y Lolfa) dychmygais mai llyfr ar gyfer dilynwyr (brwd) peldroed oedd hwn gyda apel cyfyng. Anghywir. Anghywir ar bob cyfrif. Doedd ond angen darllen broliant Huw Edwards ( y Huw Edwards, Newyddion BBC ayyb) a sylwi ar y geiriau ‘dyddiaduron teithio’ i sylweddoli fod mwy iddi na’r hyn roeddwn wedi ei ddychmygu.

Nid fod peldroed yn apel ‘cyfyng’ cofiwch, ond o ran llyfr Cymreig, anodd credu fod apel anfferth mewn llyfr wedi ei gyfyngu i drafod peldroed yng Ngogledd Korea. Pwy ddywedodd ‘never judge a book by its cover’? Eisteddais i lawr ar lan Llyn Padarn yn yr Haul poeth, a chyn i mi sylweddoli faint roeddwn wedi llosgi fy mhen, dyma wibio drwy’r chwe pennod cyntaf.

Llyfr sy’n cydio/gafael o’r frawddeg gyntaf fel dylai unrhyw lyfr da ei wneud. Syth i’r pwynt. Maniffesto ar gyfer y pethau da yn gymdeithasol  ac yn wleidyddol sydd yn deillio o beldroed a theithio. Cyfuniad perffaith. Atgoffwyd mi yn syth o anturiaethau’r Anhrefn yn teithio dramor – roedd y teithiau hynny bob amser yn gyfuniad o gerddoriaeth a diwylliant. Cyfarfod pobl leol, aros yn eu tai, rhannu sgyrsiau – dysgu – dyna oedd y peth gorau am deithio.

Oes, mae pennod yn son am gem beldroed yng Ngogledd Korea, lle mae 50,000 o ddilynwyr yn gwylio gem mewn distawrwydd llethol, neb yn gweiddi, neb yn ymateb a mewn ffordd dyma un o’r penodau mwyaf diddorol yn y llyfr. Hynny yw, mae’r ffaith fod Hartley wedi (gallu) teithio i Ogledd Korea yn ei hyn yn antur ac yn rhywbeth sydd yn werth darllen amdano.

Pennod arall sydd yn amlygu ei hyn, ac efallai yn hynod berthnasol, os nad y bennod fwyaf berthnasol, i ni fel Cymry Cymraeg yw’r un yn trafod hyfforddi peldroed yng Ngwlad y Basg drwy gyfrwng yr Iaith Basgeg neu Ewsgareg i Gymreigio’r Iaith frodorol. Un o’r hyfforddwyr yn yr Ewsgareg yw Koikili Lertxundi,amddiffynwr gyda Athletico Bilbao.
Does dim angen egluro pam fod hyn yn bwysig, ond dyma gadarnhau (i mi yn sicr) fod angen cefnogaeth y byd chwaraeon os rydym am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond drwy gael Bale a’i fath yn dweud fod y Gymraeg yn ‘cool’ mae hogia ifanc deuddeg oed Port Talbot yn mynd i droi at y Gymraeg. Does dim Eisteddfod na Super Furry Animals mae’n debyg all apelio at y garfan yma?


Ac eto, noson o’r blaen gwelais un o fy meibion yn bownsain o amgylch y tŷ wrth wrando ar ‘Bing Bong’ gan y Super Furry Animals yn cael ei chwarae (yn uchel iawn) wrth i ni fwynhau rhaglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru. Felly efallai fod yna obaith i gyrraedd hogia 12 oed yn rhywle fel Ysgol Syr Hugh. Mwy o ‘Bing Bong’ gan y Super Furry’s! Dyna’r tro cyntaf i mi weld un o fy hogia yn mwynhau band Cymraeg / Cymreig ers dyddiau eu hysgol gynradd lle roedd ‘Trons dy Dad’ wedi apelio at yr hogia 6 oed !!!!

Elfen arall bwysig yn llyfr Hartley yw’r gwaith elusenol mae criw ‘Gôl’ yn ei gyflawni drwy fynd a pecynnau o ddillad a phethau o angen i lefydd fel y cartref plant yn Azeri. ‘The Horror’ yw penawd y bennod a disgrifir mewn iaith gignoeth pa mor erchyll yw’r budreddi a’r gofal yn y ‘cartref’ yma i blant bach a phobl ifanc gyda anableddau . Ymhlith y ‘pethau angenrheidiol’ mae Hartley a’r criw yn ei ddarparu mae clytiau (nappies).

Yma gwelwn peldreoed yn dod yn rhywbeth llawer mwy ‘gwleidyddol’, a thu allan i’r gemau cyfeillgar mae cefnogwyr yn chwarae a’u gilydd tra’n teithio ar gyfer gemau dramor, ac yn cyfranu felly at ‘heddwch y byd’ a mwy o ddealltwriaeth rhwng pobloedd, mae’r gwaith elusenol uniongyrchol yma yn fwy o achos o Geldof a Midge Ure – Band Aid uniongyrchol.



Bu i mi ddod ar draws Tim Hartley yn wreiddiol yn nechrau’r 1980au pan roedd Tim yn canu i’r grwp pop Cymraeg, Chwarter i Un (12:45). Roedd Gronw y gitarydd-gyfansoddwr o Lanfair Caereinion, fel fi, felly roedd rhyw gysylltiad gyda’r band yn barod. Rhywsut, er fod 12:45 ychydig yn hyn na’n cenhedlaeth ni, roedd Hartley, Gronw a’r gitarydd arall, Dafydd Rhys (Bethesda) o hyd yn ymddangos yn gefnogol i’r hyn oedd yn digwydd yn y sîn danddaearol.

Yn wir bu i Chwarter i Un ymddangos yn un o’r Gwyliau Tanddaearol i mi eu ‘dad-drefnu’ yn Neuadd Llanerfyl ar ddechrau’r 80au. Doedd dim rhaid iddynt ymddangos. Doedd dim mantais gyrfaol iddynt mwy nac oedd costau petrol – ond teithio yno o Aberystwyth wnaeth 12:45 a chanu heb gwyno. Hyd heddiw rwyf yn parchu’r hogia am hyn. Gweithred o ‘solidarity’  os bu un erioed a dyna sydd wrth wraidd cymaint o’r hyn mae Hartley yn drafod yn ei lyfr.



Dyma awdur, teithiwr, anturiaethwr, dilynwr peldroed a chyn-ganwr pop sydd a chydwybod. Does dim yn ymddangos yn hunanol yn yr hyn mae Hartley yn ei drafod. Mae popeth er lles rhywun arall.
Rwyf wrth fy modd yn ‘darganfod’ pethau fel hyn. petae rhywun wedi gofyn i mi beth mae Tim Hartley yn ei wneud nawr, rhaid cyfaddef byddwn wedi methu ateb y cwestiwn. Mae’r ateb yn y llyfr wrthgwrs, sef ei fod yn gweithio yn ddi-flino, o dan y radar cyfryngol, yn ddi-sylw er mwyn gwneud gwahaniaeth – er mwyn gwneud pethau yn well drwy gyfrwng peldroed.

Mae’n stori sydd werth ei darllen – mae’n daith lle mae angen i fwy ohonnom ymuno.


Cyfweliad hefo Tim ar BBC Radio Cymru http://www.bbc.co.uk/programmes/p03xlcdq

No comments:

Post a Comment